Ein Cymuned

Prifysgol Aberystwyth

JW Uni 05 62987
Open Day19 140 61999

Mae Prifysgol Aberystwyth, prifysgol hynaf Cymru, yn adnabyddus yn fyd-eang am ymchwil arloesol ac amgylcheddau dysgu eithriadol. Wedi'i sefydlu ym 1872, ennillodd gydnabyddiaeth yn gyflym am ei gyfraniadau at y gwyddorau amaethyddol, y tir a'r gwyddorau biolegol.

Gyda 150 mlynedd o fiowyddoniaeth arloesol, nod ArloesiAber yw cefnogi busnesau trwy ddarparu cyfleusterau blaengar, galluogi lansiadau cynnyrch cyflymach a gwella cystadleurwydd. Trwy feithrin arloesedd effeithiol, rydym yn mynd i'r afael â heriau dybryd fel diogelwch bwys ac ynni, datblygu cynaliadwy a thrawsnewid o fodelau cynhyrchu traddodiadol.

Wedi'i henwi'n ddiweddar yn Brifysgol y Flwyddyn Cymru ar gyfer 2024 gan y Times, mae gan Brifysgol Abersytwyth gydnabyddiaeth gyson am ansawdd ei haddysgu.

Yn ArloesiAber rydym yn cydweithio â diwydiant a'r byd academaidd, dan arweiniad yr ymchwil ddiweddaraf, i lunio dyfodol arloesi.

JW Uni 05 62987

Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)

Mae IBERS yn ganolfan ymchwil ac addysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymated i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil ar enynnau a moleciwlau, organebau cyfan a'r amglychedd.

Nod ArloesiAber ac IBERS, sydd wedi'u cydleoli ar safle bridio cnydau hanesyddol 100 mlwydd oed yng Ngogerddan, yw darparu gweledigaeth 'Un Campws.' Mae'r arloesedd, technoleg a gwyddoniaeth a ddatblygwyd gan IBERS yn cael eu cefnogi a'u cyflymu ymhellach tuag at y farchnad gan offer ArloesiAber.

Ffocws IBERS yw cynnal ymchwil i sicrhau bod dynoliaeth yn gallu cynhyrchu bwyd, porthiant ac adnoddau diwydiannol seiliedig ar blanhigion sydd eu hangen arni mewn modd cynaliadwy.

Mae'n cyd-fynd â nod ArloesiAber o sicrhau cydweithrediad diwydiant ac academaidd o fewn diwydiant ac entrepreneuriaeth a pherthynas gadarnhaol â busnesau a rhanddeiliaid lleol a rhanbarthol. Mae rhaglenni ymchwil presennol IBERS yn canolbwyntio ar ddatblygu ac optimeiddio technolegau galluogi ynghyd â dylunio biobrosesu sy'n cwmpasu lefel parodrwydd technoleg, gan fynd â phrosiectau o'r cam cysyniadol i raddfeydd sy'n berthnasol yn ddiwydiannol gan defnyddio cyfleusterau ar raddfa beilot yn ArloesiAber.

Mae ArloesiAber wedi'i strwythuro i cefnogi ymchwil IBERS a gweithio'n gyflym gdya diwydiant i'w helpu i ddatblygu a graddio cynnrych neu wasanaethau newydd.

237 IMG 9362 60305

Adran y Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth

Mae Adran y Gwyddorau Bywyd yn adran addysgu ac ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae ymchwilwyr yn yr adran yn cyfrannu at ddatrys materion byd-eang fel atal afiechydon marwol, sicrhau diogelwch bwyd, gwella twf cnydau mewn pridd sy'n dueddol o sychder, datblygu tanwydd cynaliadwy ac astudio effaith newid yn yr hinsawdd ar ecosystemau.

Mae'r adran yn cael ey chydnabod yn rhyngwladol am ei rhaglenni bridio planhigion a'i harbenigedd bridio planhigion a'i harbenigedd mewn gwyddoniaeth anifeiliaid a chnydau. Mae'r Ganolfan Rhagoriaeth Arloesedd mewn da byw a Platform Ymchwil Ucheldir Pwllperian yn adnodd i astudio ecosystemau fferm ucheldirol. Gyda ffermydd yn ymestyn dros 800 hectar, maent hefyd yn gwasanaethu fel safleoedd arloesi ar gyfer gwasanaeth trosglwyddo gwybodaeth Llywodraeth Cymru i ddiwydiant.

Bydd ein gwaith yn ArloesiAber bob amser yn cael ei lywio a'i ysbrydoli gan heriau diwydiant a'r ynchwil academaidd diweddaraf. Mae ein Grwp Cynghori Academaidd yn ein helpu i lunio datblygiad y Campws yn y dyfodol ac yn sicrhau bod ein gweithgareddau trosiadol yn cael eu harwain gan y datblygiadau diweddaraf o'r sylfaen wybodaeth.

Bioimaging