Biofanc Hadau a Chyfleuster Prosesu

Sicrhau bod partneriaid diwydiannol yn cael manteisio ar lu o adnoddau geneteg planhigion, dulliau o brosesu hadau ar raddfeydd gwahanol a dulliau werthuso ansawdd ar gyfer rhaglenni bridio arloesol.

20220128 1123

Cyfleuster ag amgylchedd rheoledig ar gyfer storio a chatalogio adnoddau genetig planhigion yn ddiogel. Mae’r cyfleusterau hyn yn cefnogi rhaglenni bridio planhigion fyd-enwog IBERS, sy’n galluogi datblygiad mathau newydd o blanhigion a chynnal sawl math o blanhigion masnachol.

Y Biofanc – Un o’r casgliadau ex-situ mwyaf yn y byd o ran glaswellt porthiant ac amwynder, meillion, ceirch, a’r cnwd bio-ynni Miscanthus. Ar hyn o bryd, mae gan y cyfleuster banc hadau – ffrwyth buddsoddiad o £7m gan Brifysgol Aberystwyth, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a Llywodraeth Cymru – dros 35,000 o dderbyniadau ar gyfer storio canolig (20-50 mlynedd) i storio hirdymor (100 mlynedd) ar gyfer ymchwil a bridio. Mae’n rhan hanfodol o gasgliadau Grŵp Adnoddau Genetig Planhigion y DU (UKPGR) a’r Rhaglen Gydweithredol Ewropeaidd ar gyfer Adnoddau Genetig Planhigion (ECPGR). Yn ogystal, mae gan y Biofanc un o’r ychydig gyfleusterau cwarantin yn y DU sy’n gallu darparu ar gyfer planhigion a fewnforiwyd sy’n gofyn am arsylwadau a rheolaeth ffytolanweithiol. Mae’r holl gasgliadau ers 1992 yn cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) a Phrotocol Nagoya ar Rannu Mynediad a Buddion (ABS) ar gyfer defnyddio a masnacheiddio.

Prosesu hadau cnydau - Storfa swmp (10°C a lleithder cymharol o 20% - yn gallu dal dros 150 o baledau o hadau) ar gyfer samplau hadau mawr rhag-fasnachol, a storfa samplau ar wahân ar gyfer hadau sych wedi’u glanhau ymlaen llaw. Mae hefyd yn cynnwys labordy ar gyfer profi egino a dadansoddi hadau a’r brif ardal prosesu hadau, lle mae modd glanhau sypiau sy’n pwyso o ychydig gramau i 10 tunnell, yn unol â chanllawiau’r Gymdeithas Profi Hadau Ryngwladol (ISTA).

Darganfyddwch fwy am fanylebau'r Biofanc Hadau a ffurflen ymholi drwy far ochr y

Prosesu hadau o cnydau

Storfa hadau swmp 10°C ac 20% o leithder cymharol - sy'n gallu dal dros 150 o baletau o hadau) ar gyfer lotiau o hadau mawr cyn-fasnachol, ynghyd a storfa ar wahan ar gyfer hadau sych, wedi'u glanhau ymlaen llaw. Mae hefyd yn cynnwys labordy ar gyfer profi egino a dadansoddi hadau a'r prif faes prosesu hadau, lle mae lotiau sy'n amrywio o ychydig o gramau i 10 tunnell yn cael eu glanhau yn unol a chanllawiau'r ISTA.

Darganfwch mww am fanylebau'r Seed Biobank a ffurflen ymholiad trwy far ochr y tudalen hon.

Technical Features

Icon Controlled environment
Amgylchedd Rheoledig
Icon Publicly accessible Biobank
Biobanc sy'n Hygyrch i'r Cyhoedd
Icon Seed processing suites
Ystafelloedd Prosesu Hadau

Campus Features

Icon Co working spaces
Mannau Cyd-weithio
Icon Cold rooms
Ystafelloedd Oer
Icon Conferencing and meeting spaces
Mannau Cynadledda a Chyfarfod
Icon EV Charging
Gwefru Cerbydau Trydan
Icon Flexible lease terms
Telerau Prydlesu Hyblyg
Icon Hazardous waste disposal
Gwaredu Gwastraff Peryglus
Icon On site parking
Parcio ar y Safle
Icon Private lab hire
Llogi Labordai Preifat
Icon Showers and locker facilities
Cawodydd a Chyfleusterau Cloi
Icon Superfast connectivity CY
Cysylltedd Cyflym