Mae ArloesiAber yn gatalydd ar gyfer cyfnewid gwybodaeth diwydiant a’r byd academaidd i gyflymu arloesedd yn y biowyddorau a chreu effaith o allbynnau ymchwil, gan ddenu cwmnïau arloesol i’r campws, meithrin cydweithio, twf a datblygiadau yn ein sectorau targed.
Cefndir ysbrydoledig Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yw bryniau Ceredigion. Mae’r tirlun godidog hwn yn gorwedd rhwng Mynyddoedd y Cambrian a Môr Iwerddon. Gyda chymunedau cyfeillgar, croesawgar a chanolbwynt diwylliannol cosmopolitaidd prysur, mae’r gornel unigryw hon o’r byd yn llawn bywyd i’w fwynhau.
Yn ogystal, mae’r lleoliad delfrydol hwn yn berffaith ar gyfer cynhyrchedd a phroffidioldeb cynyddol, gan gyfnewid mwg, tagfeydd a theithiau hir y ddinas am brydferthwch eithriadol canolbarth Cymru. Gydag arbenigedd academaidd Prifysgol Aberystwyth ychydig fetrau i ffwrdd, cynhyrchedd mewn amgylchedd syfrdanol, ac entrepreneuriaid eithriadol, bydd y Campws Arloesi a Menter wrth galon Arloesi yng Nghymru.
Ni'n falch iawn fod yn aelod 'Ambassador Wales.'
Mae Cymru ar hyn o bryd ar y blaen o ran datblygu ac ymchwil biowyddonol ym Mhrydain. Gyda chysylltiadau ag ymchwil eithriadol Prifysgol Aberystwyth a BBSRC, ynghyd â chymuned gynyddol o arloeswyr, dyma’r lle perffaith i’ch cwmni lewrychu a ffynnu. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.
1. Business Support
2. Incubation Offices
3. Labs for hire
4. Product development facilities
5. Technical experts
6. Access to the innovation ecosystem