Cynnig cyfle i gwmnïau fanteisio ar gyfarpar ac arbenigedd ymchwil unigryw i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau newydd o ffynonellau biolegol gan gynnwys planhigion, gweddillion cnydau a ffrydiau gwastraff.
Mae Canolfan Bioburo ArloesiAber yn gartref i BEACON.
Mae'n galluoedd yn cynnwys:
Gyda staff cymorth technegol pwrpasol, dadansoddiad cemegol uwch integredig a Chanolfan Bwyd y Dyfodol o dan yr un to, yn ogystal â mynediad i arbenigedd academaidd blaengar Prifysgol Aberystwyth, mae Canolfan Bioburo ArloesiAber yn le perffaith ar gyfer eich anghenion datblygu cynnyrch a phrosesau.
Dewch o hyd i fanylebau technegol ein Canolfan a ffurflen ymholiad drwy far ochr y dudalen hon.