Amdanom ni

Hanes

Banner history

Yn 2014, crëwyd prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a’r Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) i drosi heriau mawr yr unfed ganrif ar hugain, sef diogelwch bwyd, dŵr ac ynni, yn gyfleoedd cynaliadwy a llewyrchus i gymdeithas, gan gydnabod y bydd cwrdd â'r heriau hyn yn llwyddiannus yn mynd yn bell tuag at sicrhau iechyd a lles cenedlaethau i ddod.

180307 View 12 1 750 530 s c1

Y syniad oedd adeiladu ar lwyddiant gwobr Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2011 am Ragoriaeth gydag Effaith, a chanolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth o blith yr heriau mawr:

  • Diogelwch Bwyd
  • Lliniaru Newid Hinsawdd
  • Biodechnoleg Ddiwydiannol/Ynni Adnewyddadwy

Ym mis Rhagfyr 2014, sicrhaodd y prosiect gyllid o £20M o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac ynghyd â’r £8.5M a £12M gan Brifysgol Aberystwyth a’r BBSRC yn eu tro, ganwyd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth.

Ers hynny mae'r enw wedi newid i ArloesiAber ond erys y weledigaeth: gyrru budd cynaliadwy i'r economi a'r gymdeithas, o'r lleol i'r byd-eang, trwy harneisio adnoddau naturiol unigryw a galluoedd rhyngddisgyblaethol y rhanbarth. Bydd arloesi mewn amaethyddiaeth, yr amgylchedd ac adnoddau naturiol yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin bio-economi sy'n seiliedig ar wybodaeth ac mae'n rhan allweddol o strategaethau economaidd cynaliadwy Cymru a'r DU.