Mae ymchwil profi bwyd yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau gyda'r nod o archwilio diogelwch, ansawdd a dilysrwydd cynhyrchion bwyd. Mae'r ymchwil hwn yn hanfodol am sawl rheswm:
Sicrhau diogelwch bwyd
Prif nod profion bwyd yw sicrhau bod cynhyrchion bwyd yn ddiogel i'w bwyta. Mae hyn yn cynnwys canfod a nodi pathogenau niweidiol, megis bacteria, firysau a pharasitiaid, a all achosi salwch a gludir gan fwyd. Ymhlith y pathogenau cyffredin y profir amdanynt mae Salmonela, E. coli, a Listeria.
Gall profion bwyd hefyd ganfod halogyddion cemegol, megis plaladdwyr, metelau trwm, a mycotocsinau, a all beri risgiau iechyd difrifol.
Gwirio ansawdd bwyd
Mae profion bwyd hefyd yn asesu ansawdd cynhyrchion bwyd trwy ddadansoddi’r cynnwys maethol megis fitaminau, mwynau, proteinau, brasterau a charbohydradau. Mae'r gwiriad hwn yn sicrhau bod labeli bwyd yn adlewyrchu cynnwys y cynnyrch yn gywir, gan helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu deiet.
Mae profion ansawdd hefyd yn cynnwys gwirio am ddirywiad a diraddiad, gan sicrhau bod cynhyrchion bwyd yn aros yn ffres ac yn fwytadwy trwy gydol eu hoes silff.
Canfod twyll bwyd
Mae Twyll bwyd, , er enghraifft cam-labelu, halogiad, ac amnewid cynhwysion, yn bryder cynyddol yn y diwydiant bwyd.
Mae ychwil profi bwyd yn helpu i ganfod ac atal gweithgareddau twyllodrus o'r fath trwy wirio dilysrwydd cynhyrchion bwyd. Gall technegau megis codio bar DNA a dadansoddi isotopau nodi rhywogaethau a tharddiad daearyddol, gan sicrhau bod cynhyrchion yn bodloni safonau rheoleiddio a disgwyliadau defnyddwyr.
Cefnogi cydymffurfiaeth reoleiddiol
Mae ymchwil profi bwyd yn hanfodol ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau. Rhaid i gynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr bwyd gadw at safonau diogelwch ac ansawdd llym a osodir gan gyrff rheoleiddio cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA), a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
Mae profion bwyd rheolaidd yn helpu cwmnïau i gydymffurfio â'r rheoliadau hyn, osgoi cosbau cyfreithiol, a sicrhau bod eu defnyddwyr yn parhau i ymddiried ynddynt.
Er mwyn rheoli profion bwyd cynhwysfawr, mae angen mynediad at gyfleusterau penodol sydd â thechnoleg flaengar a phersonél hyfforddedig. Ceir amlinelliad isod o’r cyfleusterau a’r offer allweddol sydd eu hangen ar gyfer profi bwyd yn effeithiol:
Labordy microbioleg
Mae labordy microbioleg yn hanfodol ar gyfer profi samplau bwyd am halogiad microbaidd. Dylai'r labordy hwn gynnwys:
Cyfryngau meithrin ar gyfer tyfu mathau penodol o facteria a ffyngau.
Labordy cemeg
Mae labordy cemeg yn angenrheidiol ar gyfer dadansoddi cyfansoddiad cemegol cynhyrchion bwyd. Mae'r offer allweddol yn cynnwys:
Labordy bioleg foleciwlaidd
Er mwyn canfod twyll bwyd a nodi pathogenau ar y lefel genetig, mae angen labordy bioleg foleciwlaidd. Dylai'r labordy hwn gynnwys:
Labordy dadansoddi synhwyraidd
Defnyddir labordai dadansoddi synhwyraidd i werthuso blas, gwead, arogl a golwg cynhyrchion bwyd ac maent fel arfer yn cynnwys:
Ardal paratoi samplau
Mae ardal bwrpasol ar gyfer paratoi samplau bwyd yn hanfodol i atal croeshalogi a sicrhau canlyniadau cywir. Dylai'r ardal hon gynnwys:
Mae ArloesiAber yn Aberystwyth, Cymru yn ganolfan arloesi gwyddoniaeth sy’n cynnig cyfleusterau heb eu hail ac arbenigedd academaidd i sefydliadau a chwmnïau newydd yn ein 'Canolfan Bwyd y Dyfodol'.
Ein hamgylchedd sy’n bodloni safonau bwyd ar gyfer profi, dilysu a gwella deunyddiau presennol a newydd fel bwydydd gan gynnwys cynnwys maethol, dadansoddiad cyfansoddiadol uwch, oes silff a dewisiadau defnyddwyr.
Mae pob tîm prosiect ymchwil hefyd yn elwa o gefnogaeth y technolegydd bwyd Pamela Thompson.
Ewch ar daith rithwir o amgylch y rhan bwysig hon o gyfleuster ymchwil a datblygu ArloesiAber:
https://youtu.be/OyHLTNN9pKs?si=YHZAP8_TDZEJrKQW
Os hoffech fwy o wybodaeth am ein tîm, ein gwasanaethau a chyfleoedd cyllido, cysylltwch â ni.