001 A Iagor star 750 500 75

Pam ddylai eich busnes newydd fod yn rhan o ecosystem arloesi?

AberInnovation
Ionawr 10, 2024

Mae arloesi wrth wraidd cynnydd gwyddonol, ac yn y byd prysur sydd ohoni, mae'r ymchwilwyr sydd y tu ôl i fusnesau newydd yn chwarae rhan ganolog wrth hybu darganfyddiadau arloesol a datblygiadau technolegol.

Mae canolfannau arloesi gwyddoniaeth fel ArloesiAber yn darparu'r cyswllt delfrydol i entrepreneuriaid ac ymchwilwyr i bontio’r bwlch rhwng y broses o brofi cynhyrchion a mynd â nhw i'r farchnad.

P'un ai ydych chi'n ymchwilydd academaidd â syniad gwych neu'n entrepreneur â syniadau newydd yn eu dyddiau cynnar, gall y daith o’r fainc labordy i'r farchnad fod yn frawychus.

Mae'r blog hwn yn ystyried sut mae canolfannau arloesi fel ein canolfan ni yn chwarae rhan bwysig wrth droi gwaith gwyddonol arloesol yn atebion ymarferol a sut mae’r arbenigedd sydd ar gael yn gallu gwella’r siawns o lwyddo yn sylweddol.

Sut y gall busnesau newydd sy'n seiliedig ar wyddoniaeth elwa ar arloesi cydweithredol?

Mae canolfannau busnes gwyddonol - neu 'ecosystemau arloesi' - yn darparu llwyfan i fusnesau newydd i gyflymu’r broses o gyrraedd y farchnad.  Maent yn gwneud hyn trwy greu cyfleoedd cydweithredol gyda rhanddeiliaid yn y diwydiant, cyfeirio busnesau at gysylltiadau academaidd ac at fentoriaid busnes, yn ogystal â sefydliadau ymchwil a thrwy ffurfio cysylltiadau â diwydiant.

Gall yr ecosystem hon o gefnogaeth feithrin cyfnewid cyflymach o syniadau, adnoddau ac arbenigedd, gan gyflymu ymchwil wyddonol.  Drwy gydweithio, gall y grwpiau hyn gyfuno eu gwybodaeth a'u hadnoddau i fynd i'r afael â heriau gwyddonol cymhleth.

Mae ecosystem fusnes ArloesiAber yn fuddiol i fusnesau drwy weithredu fel cyswllt i gwmnïau uchelgeisiol a chydweithredol o bob maint er mwyn hyrwyddo datblygu cynhyrchion a phrosesau newydd mewn technoleg amaeth, bwyd a diod a'r bio-economi.

Gall y rhai sy'n cyflawni prosiectau ymchwil a mentrau newydd drwy ArloesiAber elwa o ystod eang o gysylltiadau gan gynnwys:

  • Cysylltiadau â staff academaidd medrus ac uchel eu parch o Brifysgol Aberystwyth  a'u cysylltiadau ehangach, yn academaidd ac yn fasnachol
  • Staff cymorth hynod o brofiadol a all gynorthwyo â gofynion ymarferol a thechnegol
  • Cyswllt â myfyrwyr lleol yn Aberystwyth i helpu datblygu prosiectau a chyflawni tasgau ymchwil
  • Mentora a chymorth busnes gydag arbenigwyr mewnol y sefydliad
  • Cyngor i ddatblygu cynigion am gyllid ymchwil yn y dyfodol

Pa adnoddau a gynigir gan ecosystemau ymchwil busnes?

Mae ecosystemau busnes yn aml yn cynnig cyllid ariannol a seilwaith sydd eu hangen i gefnogi ymchwil wyddonol yn ogystal ag offer a chyfleusterau o'r radd flaenaf.

Mae rhaglenni cyllido Arloesi Aber yn galluogi ymchwilwyr i gynnal arbrofion ac astudiaethau a fyddai fel arall yn amhosibl eu fforddio neu'n heriol yn logistaidd ac sy'n gallu hyrwyddo cynnydd prosiectau yn sylweddol.

Cynigir hefyd ystod eang o gyfleusterau profi, gwasanaethau ac arbenigedd.

Mae hefyd yn lle sy'n cynnig sylfaen fusnes i ymchwilwyr, gan gynnwys cyfeiriad a'r opsiwn i archebu ystafelloedd cyfarfod am bris gostyngol ar gyfer y gwaith o gydweithio neu i gynnal digwyddiadau ar y safle.

Sut y gall ecosystemau ymchwil busnes helpu i gyflwyno ymchwil i'r farchnad?

Gall cwmnïau ecosystem busnes ddarparu cyllid, cyfle i ddefnyddio offer o'r radd flaenaf, a chyfleusterau, gan alluogi ymchwilwyr i gynnal arbrofion ac astudiaethau a fyddai fel arall yn amhosibl eu fforddio neu'n heriol yn logistaidd. Gall y cyfle hwn i ddefnyddio adnoddau hyrwyddo cynnydd prosiectau gwyddonol yn sylweddol.

Sut mae ArloesiAber wedi helpu i hyrwyddo prosiectau hyd yn hyn?

Peidiwch a gwrando arnom ni yn unig. Dyma ddetholiad o sylwadau gan rai a fanteisiodd o’r cyllid a’r cymorth a dderbyniwyd drwy ffrydiau ariannu a gwasanaethau cymorth busnes ArloesiAber:

Jonathan Hughes, Pennotec: "Mae defnyddio'r cyllid i hwyluso cydweithredu wedi bod yn amhrisiadwy ac mae'r cymorth cynghori busnes wedi'i deilwra i'n busnes ni, gan alluogi datblygu sgiliau yn y tîm."

Carlos Kao, Lohas Recyling: "Fe wnaeth y cyfleusterau yma ein helpu i gynyddu ein sesiynau arddangos ac roeddem yn gallu cyflogi pobl leol drwy gydol y prosiect a fu o gymorth i gynnal ymchwil i'r farchnad.  Roeddem yn gallu ehangu ein rhwydwaith cydweithredol drwy ddechrau sgyrsiau gyda llywodraeth leol."

Tony Powell, Enviro365: "Cynigodd ArloesiAber fyfyriwr inni, a oedd yn gallu rhoi cymorth gyda'r gwerthu a'r marchnata, â’n galluogi ni i ddatblygu a gosod targed i dreblu, o leiaf, nifer y cwsmeriaid erbyn diwedd 2022.  Roedd y cyngor ar ddeall cyllid grant yn amhrisiadwy.  Byddwn yn ei argymell i unrhyw un."

Rhiannon Rees, PlantSea: "Mae'r rhaglen y gwnaethom gais amdani wedi ein helpu i wneud mwy o ymchwil gyda'n partneriaid yn y Brifysgol fel y gallwn ddysgu mwy a datblygu ein polymerau.  Cawsom hefyd gyllid i gael cynorthwyydd ymchwil a fu’n helpu gydag ymchwilio i systemau datblygu a gweithgynhyrchu.  Mae hyn yn dod â ni cryn dipyn yn fwy agos at ein nod i sicrhau bod ein cynnyrch ar gael yn rhwydd i gwsmeriaid ac iddo gael ei brisio'n gystadleuol."

Am fwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen gyswllt a bydd un o'n tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.