Crëwyd ein Rhaglen Cyflymu Entrepreneuriaeth Etifeddiaeth Dick Lawes (LEAP) i gefnogi sylfaenwyr sydd â gweledigaeth i ddatblygu atebion i rai o’r heriau mwyaf dybryd sy’n wynebu’r sectorau bwyd ac amaeth heddiw. Ysbrydolwyd y rhaglen gan ysbryd entrepreneuraidd Dick Lawes a’i ymrwymiad i arloesi, ac mae LEAP yn cynnig cyllid, arbenigedd, cyfleusterau a mentora i helpu busnesau cam cynnar i drawsnewid syniadau addawol yn fentrau masnachol hyfyw.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gael effaith ystyrlon drwy’r canlynol:
Yn dilyn cwblhau Cohort II LEAP, mae’n bleser gennym arddangos pum busnes uchelgeisiol a saith entrepreneur sydd wedi treulio’r 6 mis ddiwethaf yn datblygu atebion arloesol ledled y meysydd bwyd, diod, amaethyddiaeth a chynaliadwyedd.
Sefydlwyd Eufloria gan Amy Bobbins a Kerri Worrall, ac mae’r cwmni wrthi nawr yn paratoi i lansio arlwy o ddiodydd botanegol pefriog di-alcohol sydd wedi’u cynllunio i gyfuno blas eithriadol â buddion gweithredol.
Oherwydd y galw cynyddol gan ddefnyddwyr am opsiynau diod iachach, ysgogwyd y cwmni i ddatblygu cynhyrchion sy’n cyd-fynd â’r dyhead i gael label glân, gan gynnig profiad yfed o’r safon orau ar yr un pryd.
Yn ystod eu prosiect LEAP, ymchwiliodd Eufloria i botensial echdyniad aeron y griafolen i fod yn ddeunydd cadw naturiol ar gyfer diodydd, ac felly yn ddewis amgen i’r cadwolion synthetig y mae llawer o ddefnyddwyr sy’n ymwybodol o iechyd yn ceisio eu hosgoi.
Gyda chefnogaeth arbenigol AberArloesi a chyllid ar gyfer arloesi, mae’r prosiect wedi cyflymu taith ddatblygu’r cwmni, gan hefyd archwilio i ateb graddadwy ar gyfer cadw diod â label glân gan fod â’r potensial i gael ei gymhwyso ledled y diwydiant diodydd ehangach.
Gan adeiladu ar y canlyniadau hyn, mae Eufloria yn parhau i archwilio cyfleoedd ymchwil newydd ac arloesi cynnyrch wrth symud o’r cam datblygu yn y labordy tuag at fasnacheiddio.
Sefydlwyd MariCura gan Dr Abdel Zaky i ddatblygu bioburfa fodiwlaidd sy’n gallu trawsnewid gwymon yn ddewisiadau cynaliadwy o ran cynhwysion confensiynol mewn porthiant da byw.
Nod y cwmni yw mynd i’r afael â nifer o heriau cysylltiedig, a’r heriau hynny’n cynnwys lleihau’r ddibyniaeth ar flawd soia a blawd pysgod, gwella iechyd anifeiliaid, a lleihau allyriadau methan wrth gynhyrchu da byw.
Gan weithio gydag ArloesiAber drwy LEAP, datblygodd MariCura brototeipiau prawf o gysyniad ar gyfer llwyfan bioburfa gwymon dim gwastraff. Archwiliodd y prosiect y posibilrwydd o gynhyrchu cynhwysion porthiant sy’n uchel mewn protein, cyfansoddion gwerth uchel, a chyd-gynhyrchion gwrtaith o fiomas gwymon.
Drwy ddangos sut y gall un deunydd crai gynhyrchu nifer o allbynnau gwerthfawr, mae’r prosiect yn cefnogi datblygiad system fwyd fwy cylchol a chynaliadwy.
Yn dilyn llwyddiant y prosiect, mae MariCura wedi symud ymlaen i weithgareddau dilysu pellach, gan gymryd cam pwysig arall tuag at gyflwyno’r dechnoleg yn fasnachol.
Stephanie Smith a Kylee Goode a sefydlodd Smith & Goode Foods gyda’r nod o fynd i’r afael ag un o heriau maeth pwysicaf y Deyrnas Unedig: deiet isel ei ffeibr.
Gan dargedu defnyddwyr Genhedlaeth Z sydd ag iechyd ar flaen eu meddwl, mae’r cwmni wrthi’n datblygu melysion sy’n uchel mewn ffeibr ac sy’n cystadlu’n uniongyrchol â byrbrydau traddodiadol, ar yr un pryd â chynnig gwir fuddion iechyd.
Drwy LEAP, ymchwiliodd y tîm i ddatblygu fformwleiddiadau melysion sy’n uchel eu ffeibr, wedi’u hysbrydoli gan ymchwil newydd ym maes y microbiom a’r diddordeb cynyddol ymhlith defnyddwyr yn iechyd y perfedd.
Ymchwiliodd y prosiect hefyd i’r defnydd o lifoedd gwastraff y diwydiant bwyd fel ffynhonnell newydd i gynhwysion ffeibr, gan greu cyfleoedd ar gyfer cadwyn gyflenwi fwy cynaliadwy a chylchol.
Gan adeiladu ar eu llwyddiant cynnar, mae Smith & Goode Foods yn parhau i fireinio fformiwla eu cynhyrchion, ehangu profion gyda defnyddwyr, a symud tuag at lansio i’r farchnad gyda chefnogaeth barhaus i arloesi.
Dan arweiniad Jane Phillips, mae Tŷ Porfa yn mynd ati i herio argraffiadau ynghylch y rhannau hynny o garcas anifeiliaid nad ydym yn defnyddio digon arnynt, yr hyn a elwir yn aml “y pumed chwarter”.
Drwy archwilio potensial offal ac esgyrn i fod yn gynhwysion bwyd arloesol, nod y cwmni yw lleihau gwastraff, gwella effeithlonrwydd defnyddio adnoddau, cefnogi ffermwyr Prydain, a chyfrannu at systemau bwyd mwy cynaliadwy.
Yn ystod eu cyfnod yn ArloesiAber, canolbwyntiodd y tîm ar ddatblygu cynhyrchion bwyd cynaliadwy yn seiliedig ar offal ac esgyrn ac wedi’u cynllunio ar gyfer defnyddwyr modern. Ceisiodd y prosiect ail-lunio sut mae pobl yn ystyried y cynhwysion maethlon hyn, yn ogystal â chwilio am gyfleoedd masnachol newydd i’r sector.
Wrth i ddiddordeb defnyddwyr mewn tarddiad bwyd, cynaliadwyedd a chynhyrchu bwyd cyfrifol barhau i gynyddu, mae gwaith Tŷ Porfa yn dangos sut y gall arloesi ddatgloi gwerth o adnoddau sydd wedi cael eu hanwybyddu yn y gorffennol.
Yn dilyn eu prosiect LEAP, mae’r cwmni’n dal ati i fireinio cysyniadau am gynnyrch, cynnal rhagor o brofion, a symud yn nes at fod yn barod ar gyfer masnacheiddio.
Dan arweiniad Elizabeth McCoy, mae SipKind yn datblygu brand o ddiodydd â label glân sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer plant.
Gan gydnabod y diffyg opsiynau sydd ar gael i ddefnyddwyr ifanc yn y dewis o ddiodydd sy’n wirioneddol naturiol ac isel eu siwgr, mae’r cwmni’n creu cynhyrchion sy’n blaenoriaethu iechyd a blas fel ei gilydd.
Drwy LEAP, datblygodd SipKind ystod o ddiodydd i blant wedi’u gwneud â dŵr ffynnon pur o Gymru ac echdynion botanegol organig ardystiedig. Nid yw’r diodydd yn cynnwys unrhyw siwgr ychwanegol nac unrhyw gynhwysion artiffisial, gan fod yn ddewis iachach i deuluoedd.
Yn ogystal â datblygu’r cynnyrch, aeth y prosiect hefyd i archwilio atebion pecynnu cynaliadwy, gan gynnwys bioblastigion a deunyddiau yn seiliedig ar wymon, gan helpu i leihau’r effeithiau amgylcheddol ledled cylch bywyd y cynnyrch.
Wrth i’r busnes barhau i dyfu, mae SipKind yn dal yn ymrwymedig i gefnogi maeth iachach yn ystod plentyndod, gan gyfrannu ar yr un pryd at ofalu am yr amgylchedd a datblygu’r economi lleol.
Mae’r busnesau sy’n rhan o ail gohort LEAP wir yn dangos ehangder yr arloesedd sy’n codi ar draws y sector bwyd a diod. O ddiodydd â label glân a maeth plant i gynhwysion cynaliadwy, systemau bwyd cylchol a lleihau gwastraff, mae pob entrepreneur yn mynd i’r afael â her yn y byd go iawn gyda chreadigrwydd, uchelgais a phwrpas.
Yn ArloesiAber, rydym yn ymfalchïo ein bod yn cefnogi’r busnesau hyn wrth iddynt ddatblygu, dilysu a masnacheiddio eu syniadau.
Os ydych yn entrepreneur, yn fusnes newydd neu’n fenter fach neu ganolig ei maint sy’n awyddus i gyflymu arloesedd, cael mynediad at gyfleusterau arbenigol, neu ddatblygu cynhyrchion a phrosesau newydd, gall ein tîm eich helpu.
Dewch i ymchwilio i’r ystod o gymorth arloesi sydd ar gael drwy Arloesi Aber chewch wybod sut y gallwn helpu i wireddu eich syniad nesaf.