I lawer o startups, sicrhau buddsoddiadau yw un o'r heriau mwyaf ar y siwrnai rhwng y syniad a’r llwyddiant masnachol. P'un a ydych chi'n chwilio am gyllid sbarduno i ddilysu’ch technoleg neu'n paratoi ar gyfer cynnydd Cyfres A i gyflymu twf, gall sicrhau’r cymorth cywir wneud y gwahaniaeth.
Yn ArloesiAber, rydyn ni’n cefnogi startups a busnesau cyfnod cynnar ar draws y sectorau gwyddor bywyd, gweithgynhyrchu uwch, amaeth-dechnoleg, bwyd a'r amgylchedd, yn ogystal â diwydiannau cysylltiedig. Fel campws UKRI-BBSRC sy'n gweithredu o fewn blaenoriaethau strategaeth ddiwydiannol fodern y Deyrnas Unedig, rydyn ni’n helpu busnesau arloesol i ddatblygu, ehangu a chyrchu’r cyllid angenrheidiol i dyfu.
Mae codi buddsoddiad yn golygu mwy na chreu syniadau i’w cynnig. Mae buddsoddwyr eisiau tystiolaeth bod eich technoleg yn gweithio, bod eich cyfle yn y farchnad yn glir, a bod gan eich busnes y potensial i ehangu ei raddfa.
Mae ArloesiAber yn helpu sylfaenwyr i fagu'r hyder hwnnw trwy ystod o wasanaethau cymorth ymarferol.
Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gryfhau'ch cynnig buddsoddi yw cynhyrchu data technegol cadarn.
Gall busnesau gael mynediad at gyfleusterau ymchwilio a datblygu arbenigol ArloesiAber yn Aberystwyth, gan gynnwys:
Mae'r adnoddau hyn yn helpu cwmnïau i dynnu’r risg o’u harloesiad, dilysu technolegau a chynhyrchu'r dystiolaeth y mae buddsoddwyr eisiau ei gweld cyn ymrwymo cyfalaf.
Rydyn ni’n darparu cymorth deor sydd wedi'i gynllunio i helpu sylfaenwyr i adeiladu busnesau cryf sy'n barod ar gyfer buddsoddiad.
Mae hyn yn cynnwys:
Gall ein tîm eich helpu i fireinio’ch cynnig gwerth, cryfhau’ch model busnes, datblygu’ch strategaeth mynd-i'r-farchnad a chreu map ffordd cyllido sy'n cyd-fynd â'ch uchelgais o ran twf.
Gall cyllid grant chwarae rhan hanfodol yn nhwf busnes yn ei gyfnod cynnar, gan ddarparu cyfalaf heb wanhau’r busnes, sef cyllid sy'n galluogi cwmnïau i ddatblygu technolegau heb roi ecwiti i ffwrdd.
Mae ArloesiAber yn helpu busnesau newydd i nodi a gwneud cais am gyfleoedd cyllid, gan gynnwys:
Rydyn ni hefyd yn gallu cyflwyno busnesau i awduron cynigion profiadol ac arbenigwyr cyllido sy'n deall sut i ddatblygu ceisiadau cystadleuol.
Gall cyllid grant llwyddiannus ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen i gynhyrchu data technegol a masnachol allweddol, gan gryfhau’ch sefyllfa wrth gysylltu ag angylion buddsoddi neu ffyrmiau cyfalaf menter.
Mae adeiladu perthnasoedd â buddsoddwyr yn cymryd amser, ac mae'r strategaethau codi arian gorau yn aml yn dechrau ymhell cyn bod angen cyfalaf.
Trwy gyfrwng ein rhwydwaith, rydyn ni’n gallu cyflwyno busnesau i’r canlynol:
Mae'r cysylltiadau hyn yn helpu sylfaenwyr i sicrhau adborth gwerthfawr, adeiladu hygrededd a sefydlu perthnasoedd â darpar fuddsoddwyr yn gynnar.
Mae codi arian yn ymwneud â phobl yn y pen draw. Mae buddsoddwyr yn cefnogi timau cryf yn ogystal â thechnolegau cryf.
Mae ArloesiAber yn cynnal y canlynol yn gyson:
Mae'r cyfleoedd hyn yn caniatáu i sylfaenwyr fireinio’u cyflwyniadau, sicrhau adborth a magu perthynas â'r bobl sydd wrthi’n buddsoddi mewn cwmnïau arloesol yn y cyfnod cynnar.
Er bod cyllid sbarduno yn aml yn canolbwyntio ar brofi cysyniad a sefydlu momentwm cynnar, mae buddsoddwyr Cyfres A fel arfer yn chwilio am dystiolaeth gryfach o hyfywedd masnachol.
Yn y cyfnod hwn, mae’r buddsoddwyr at ei gilydd yn disgwyl gweld:
Mae ArloesiAber yn cefnogi busnesau sy'n paratoi ar gyfer Cyfres A drwy roi mynediad at gyfleusterau lle mae’r gwaith ymchwilio a datblygu a’r gwaith cynhyrchu yn gallu tyfu ar raddfa eang, cymorth gydag eiddo deallusol a masnacheiddio, cyfleoedd am bartneriaethau corfforaethol (Prifysgol Aberystwyth, BBSRC, cyflwyniadau i fuddsoddwyr lefel uchel a'r data sydd ei angen i ategu rowndiau buddsoddi mwy.
Drwy ddod yn rhan o ecosystem ArloesiAber, gallwch elwa o ddegawdau o bartneriaethau diwydiant a phrofiad o ddatrys problemau ar draws pob her y gallwch ei dychmygu ar draws amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd.
Mae siwrnai gyllid pob egin fusnes yn wahanol, ond mae sylfeini gwaith codi arian llwyddiannus yn aros yr un fath: tystiolaeth gref, cynnig perswadiol a mynediad i'r rhwydweithiau cywir.
Os ydych chi wrthi'n datblygu busnes arloesol ac yn gobeithio creu strategaeth codi arian, sicrhau cyllid grant neu gysylltu â buddsoddwyr, rydyn ni yma i helpu.
Cysylltwch â'n tîm heddiw i gael gwybod sut gallwn ni gefnogi’ch uchelgais o ran twf a buddsoddiadau.