Pryderi ap Rhisiart and Rhian Hayward

Parciau Gwyddoniaeth ac Arloesi Cymru yn cydweithio i feithrin a thyfu’r sector AgriTech yng Nghymru

Teleri Davies
Mehefin 10, 2024

Mae M-SParc ac AberInnovation wedi lansio partneriaeth mewn ymgais i hybu twf a chefnogi busnesau i ffynnu yn y sector AgriTech yng Nghymru, gyda galwad i gwmnïau, sefydliadau, academyddion ac ymchwilwyr gymryd rhan. Mae’r ffocws ar Agritech, rhywbeth y mae gan y ddau sefydliad arbenigedd ynddo, ac sy’n sector sydd yn flaenoriaeth i Lywodraethau Cymru a’r DU.

Mae’r cyhoeddiad o’r cydweithio hwn yn amserol wrth i ‘Ymchwil ac Arloesi’r DU’ gyhoeddi’r cyntaf o nifer o alwadau ariannu yn y sector ddydd Gwener (7fed o Fehefin) drwy ei Raglen Launchpad ddiweddaraf. Mae’r cyllid yn targedu busnesau arloesol yn y AgriTech a AgriFood. Gall sefydliadau ddysgu mwy am y cyllid yn y cyfarfod clwstwr nesaf sydd i’w gynnal ddydd Gwener y 14eg o Fehefin.

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, “Mae datblygiad y sector AgriTech yn rhoi cyfle i ni adeiladu ar gryfderau’r ardal, gwrando ar anghenion y gymuned amaethyddol a datblygu atebion arloesol i fynd i’r afael â nhw.”

Yn syml, AgriTech yw cymhwyso technoleg i gynhyrchu mwy, gan ddefnyddio llai! Er enghraifft, defnyddio robot gyda synwyryddion i dargedu chwyn penodol mewn cned (crops), yn hytrach na chwistrellu cae cyfan gyda phlaladdwyr, neu ddefnyddio technoleg ar anifeiliaid i fonitro ymddygiad a gweithredoedd yn hytrach na cherdded allan i’r cae i’w gweld bob awr. Mae’n ddiwydiant sy’n tyfu; mae amaethyddiaeth eisoes yn cyfrif am 1.1% o weithlu Cymru ac mae’r economi ddigidol yn cyflogi 1.3% pellach. Er cymhariaeth, mae twristiaeth yn cyfrif am 5%.

Gyda’i gilydd, mae M-SParc ac AberInnovation bellach yn rhedeg AgriTech.Cymru – clwstwr a sefydlwyd i ddod â busnesau amaeth ynghyd, i nodi cyfleoedd cydweithio a ffynonellau cyllid i yrru syniadau yn eu blaenau. Mae AberInnovation yn canolbwyntio ar arloesi mewn amaethyddiaeth, yr amgylchedd ac adnoddau naturiol, gan ffurfio rhan allweddol o strategaethau economaidd cynaliadwy Cymru a’r DU. Mae’r bartneriaeth newydd hon yn dod â phŵer newydd i’r sector.

Ar y 14eg, bydd y clwstwr yn cyfarfod eto yn M-SParc ac ar-lein, i ddysgu mwy am y lansiad. Rydym yn annog busnesau i fynychu i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn arferion ffermio, cynaliadwyedd, ac atebion blaengar. Mae’r digwyddiad hwn yn berffaith i unrhyw un sy’n angerddol am groestoriad amaethyddiaeth a thechnoleg.

Dywedodd Dr Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol AberInnovation “Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth ag M-SParc ar y clwstwr AgriTech sy’n adeiladu ar gryfderau naturiol y ddau sefydliad. Mae AberInnovation yn gwasanaethu ystod o gleientiaid mewn amaethyddiaeth, bwyd a’r economi gylchol. Ynghyd â chyhoeddiad UKRI Launchpad rydym mewn sefyllfa dda i gyfrannu at ddatblygu’r sector hwn.”

Gallwch gofrestru i fynychu digwyddiad nesaf AgriTech Cymru naill ai ar-lein neu yn M-SParc ar Eventbrite. Mae’r digwyddiad i’w gynnal ddydd Gwener 14 Mehefin 2024 am 13:00.