20240725 161323

Olew palmwydd: gwyddonwyr yn creu cynnyrch amgen newydd

Teleri Davies
Ionawr 06, 2025
Mae gwyddonwyr wedi dyfeisio ffordd newydd o greu cynnyrch allai helpu disodli olew palmwydd fel cynhwysyn mewn bwyd a cholur.

Mae disgwyl i'r galw am olew palmwydd gynyddu 40% yn y degawd nesaf. Gwyddys ei fod yn cael effaith niweidiol iawn ar yr amgylchedd, gan ddinistrio coedwigoedd trofannol a chynefinoedd naturiol.

Mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi gweithio gyda’r cwmni Sun Bear Biofuture i ganfod ffordd o eplesu burum er mwyn cynhyrchu olew sydd â nodweddion tebyg i olew palmwydd ond heb yr effeithiau negyddol.

Trwy ddefnyddio technegau eplesu a bioleg foleciwlaidd flaengar, nod y tîm ymchwil yw lleihau dibyniaeth ar o lew palmwydd mewn bwyd, biodanwydd a cholur.

Gallai’r cynnyrch newydd gymryd lle olew palmwydd mewn ystod o nwyddau o gwcis i balm gwefusau ac eli.

Mae’r tîm wedi profi’r olew newydd ar lefel beilot gan ddefnyddio arbenigedd ac offer Campws ArloesiAber Prifysgol Aberystwyth. Maen nhw bellach yn gweithio i fynd â’r cynnyrch i raddfa fwy ar gyfer marchnadoedd colur a bwyd, gan anelu at gynhyrchu at lefel ddiwydiannol yn 2026.

Ychwanegodd Ben Williams, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg cwmni newydd sydd wedi’i leoli yn y DU Sun Bear Biofuture:

Er bod olew palmwydd yn isel o ran cost i’w gynhyrchu, yr anfantais o’i dyfu yw bod y cnwd, yn fyd-eang, yn gyfrifol am 500 miliwn tunnell o CO2 sy’n cael ei ryddhau’n flynyddol o ganlyniad i ddinistrio coedwigoedd glaw er mwyn tyfu coed palmwydd.

“Mae’r datgoedwigo hwn yn cael effaith enfawr ar ddadleoli cynefinoedd a rhywogaethau coedwigoedd glaw prin, fel arth yr haul, enw ein cwmni.

Fel olew llysiau, mae olew palmwydd yn unigryw oherwydd ei fanteision ymarferol a chynhyrchiant.

Ychwanegodd Mr Williams:

Rydym ni’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i edrych ar sut i gynhyrchu hanfodion bob dydd mewn ffordd sydd â’r potensial i ddargyfeirio prosesau gweithgynhyrchu oddi wrth y ddibyniaeth bresennol ar olew palmwydd a diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl.

“Mae gan ein dewis amgen i olew palmwydd ôl troed carbon is a llai o ddibyniaeth ar dir; ar hyn o bryd rydym ni’n treialu gwahanol brosesau eplesu er mwyn perffeithio datblygu’r cynnyrch.

Mae’r ymchwil yn rhan o raglen ‘Solutions Catalyst’ ArloesiAber, a gefnogir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a chynllun Grant Arloesi Campws Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biolegol a Biotechnoleg y UKRI (BBSRC).

Nod y rhaglen yw rhoi hwb i arloesedd drwy gynorthwyo cwmnïau i fanteisio ar gyfleusterau ymchwil sy’n arwain y byd a’r cyfleusterau  blaenllaw a arbenigedd dechnegol yn ArloesiAber.

Wedi’u leoli ar gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, mae ArloesiAber yn un o bum campws ymchwil ac arloesi sydd wedi’i ariannu gan y BBSRC.

Dywedodd Nick Bassett, Cyfarwyddwr Cyswllt Arloesedd yn BBSRC:

Mae BBSRC yn falch o gefnogi’r gwaith arloesol sy’n cael ei arwain gan dîm dawnus Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Sun Bear Biofuture.

“Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn dyst i rym cydweithio ystyrlon rhwng sefydliadau a gefnogir yn strategol gan y BBSRC, cymuned ymchwil y Deyrnas Gyfunol a’n partneriaid yn y diwydiant, ond mae hefyd yn enghraifft o ysbryd arloesol cynllun Grant Arloesedd Campws y BBSRC.

"Mae BBSRC yn ymroddedig i dyfu bio-glystyrau arloesi deinamig ar draws y Deyrnas Gyfunol sy'n gwneud defnydd o ragoriaeth ymchwil i fynd i'r afael â rhai o'r heriau byd-eang mwyaf enbyd. Drwy fanteisio ar fiotechnolegau blaengar i ddatblygu dewisiadau olew palmwydd amgen, rydym ni’n symud ffiniau gwyddonol ymlaen ac yn cyflawni ein hymrwymiad i'r amgylchedd. stiwardiaeth a chynaliadwyedd economaidd.

Ffynhonnell: https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2024/12/title-278251-cy.html