Mae pedwar ar ddeg o brosiectau sy'n ceisio mynd i'r afael â heriau sy'n wynebu Canolbarth Cymru wedi derbyn hyd at £30,000 yr un fel rhan o raglen newydd a gefnogir gan Gynghorau Sir Ceredigion a Phowys sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU a Llywodraeth Cymru.
Mae Cyfres Her Launch Pad Y Canolbarth yn rhaglen gaffael newydd â’r nod o ddatblygu atebion newydd i faterion yn ymwneud â’r sector cyhoeddus a chymdeithasol trwy ymchwil ac arloesi tra’n cynnig cyfleoedd marchnad newydd i fusnesau a phobl y Canolbarth. Nod Her Launch Pad Y Canolbarth yw darganfod a datblygu atebion arloesol i heriau diogelu’r amgylchedd a gwella canlyniadau iechyd yng Ngheredigion a Phowys, gan gefnogi agweddau craidd o ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru megis Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’r rhaglen yn buddio o arbenigedd ArloesiAber, Innovation Strategy, BT, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae'r prosiectau wedi derbyn cyllid i gynnal gwaith ymchwil a datblygiad ar ôl i’r cwmniau llwyddo yng ngham cyntaf y broses ymgeisio gystadleuol, yn ogystal â gwneud cyflwyniad o'u prosiectau o flaen panel o gynrychiolwyr a rhanddeiliaid yr Her Launch Pad.
Mae’r busnesau llwyddiannus yn cynnwys: Vertikit, PlantSea, New Juice, Jonah Oceans Systems, Enviro356, Lohas Recycling, Nellie, Pennotec, MarinaTex, Conwy Kombucha, Cwm Harry Land & Trust, ArcitekBio ac Agroceutical Products.
Bydd Launchpad Canolbarth Cymru yn brosiect tri mis i alluogi’r busnesau llwyddiannus i ddadansoddi a gwerthuso potensial eu syniadau gyda'r gobaith o'u defnyddio yn y dyfodol trwy gydweithio â sefydliadau academaidd ac arweinwyr rhanbarthol. Trwy gydweithio, bydd y rhaglen, a gyflwynir mewn partneriaeth ag Innovation Strategy, yn darparu arbenigedd ac adnoddau i gyflymu datblygiad datrysiadau technolegol posib. Bydd y rhaglen yn cynnwys cymorth wedi’i deilwra a’r potensial i ddefnyddio asedau rhanbarthol unigryw a thechnoleg yn y Canolbarth.
Yn fwy, bydd Her Launch Pad Y Canolbarth hefyd yn cefnogi nifer o unigolion o'r ranbarth trwy gynnig lleoliadau gwaith rhwng y cwmnïau ag unigolion. Mae nifer o unigolion wedi gwneud cais i fod yn rhan o’r rhaglen Adeiladu Sgiliau er mwyn cael cyfle i weithio ochr yn ochr â’r busnesau llwyddiannus i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd yn ogystal â gwella eu rhagolygon gyrfa.
Dywedodd Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber, “Rydym yn falch iawn o gael cefnogaeth Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid y sector cyhoeddus yn y rhaglen newydd hon. Mae cwmnïau yn y Canolbarth wedi cyflwyno technolegau a dulliau gweithredu gwirioneddol arloesol a bydd yr Her Launch Pad yn amhrisiadwy wrth ganiatáu i’r atebion hynny gyrraedd y cam nesaf – gan wireddu mwy o botensial o fewn y diwydiant ac arbenigedd academaidd yng Ngheredigion a Phowys.”
Dywedodd Luke Player, Cyfarwyddwr Innovation Strategy “Rydym yn hapus iawn i gydweithio ag ArloesiAber a phartneriaid eraill ar y rhaglen arloesol hon. Mae'r rhaglen newydd yn cynnig cyfleoedd gwych i fusnesau a phobl yng Ngheredigion a Phowys. Defnyddia'r rhaglen arbenigedd o'r radd flaenaf i roi'r cymorth sydd ei angen ar fusnesau i dyfu tra'n darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i wella eu gyrfaoedd. Rydym wedi cael ymateb gwych i’r her gyntaf hon i hybu ein hamgylchedd a bydd y busnesau a’r bobl dan sylw yn sicr yn datblygu syniadau rhagorol.”
Mae ArloesiAber, a gwblhawyd ym mis Awst 2020, yn ganolbwynt i gymuned o gwmnïau uchelgeisiol i hybu datblygiad cynhyrchion a gwasanaethau newydd yn y sectorau technoleg amaeth, bio-economi a’r sector bwyd a diod. Mae ei gyfleusterau’n cynnwys Canolfan Bwyd y Dyfodol o’r radd flaenaf, Canolfan Dadansoddi, Canolfan Bioburo peilot, Biobanc Hadau a Chanolfan Arloesi. Gall busnesau buddio o'r cefnogaeth a'r arbenigedd a gynigir yn ArloesiAber i gyflymu datblygiad eu datrysiadau.
Mae ceisiadau a arweinir gan ArloesiAber wedi denu £1.2m o gyllid i gefnogi ei bartneriaid a rhanddeiliaid drwy dair rhaglen arloesol o gymorth o dan y Gronfa Adnewyddu Cymunedol.