Screenshot 2026 07 23 at 09 07 03

Parc Arloesi gwerth miliynau yn symud ymlaen gyda chefnogaeth partneriaid

Rebecca Thomas
Gorffennaf 23, 2026

Mae cynlluniau ar gyfer parc arloesi newydd gwerth miliynau o bunnau ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cymryd cam sylweddol ymlaen gyda phartneriaid ariannu yn rhoi sêl bendith i'r cynlluniau amlinellol.

Bydd Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd yn ganolfan flaenllaw ar gyfer arloesi, cynaliadwyedd a thwf economaidd dan arweiniad busnes, wedi'i leoli ar Gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth.

Mae'r cynlluniau a gymeradwywyd yn nodi rhaglen gam wrth gam o fuddsoddiadau gwerth ychydig dros £50 miliwn, gan gynnwys buddsoddiad posibl o hyd at £14.3 miliwn drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru.

Bydd y Parc yn adeiladu ar arbenigedd y Brifysgol mewn technoleg amaethyddol, diogelwch bwyd, gwyddor planhigion, gweithgynhyrchu bio-seiliedig, bioburo a gwyddor amgylcheddol.

Nod y datblygiad newydd yw hybu ymchwil a datblygu yn y Canolbarth a chreu cyfleoedd pellach i fusnesau newydd a mentrau bach a chanolig eu maint.

Datblygir y prosiect fel rhan o bortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru, a arweinir gan Gynghorau Sir Ceredigion a Phowys, ac sy’n mynd drwy’r broses gymeradwyo.

Nod y prosiect yw creu swyddi gwerth uchel, denu buddsoddiad a chefnogi twf economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth.

Bydd y Brifysgol yn cyfrannu adeiladau, tir a seilwaith presennol yng Ngogerddan, sydd hefyd yn gartref i’w Hathrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ac ArloesiAber.

Mae’r rhaglen yn cael ei datblygu mewn camau, gyda phrosiectau unigol yn symud ymlaen trwy ddylunio manwl a datblygiad achosion busnes llawn. Bydd buddsoddiadau’r dyfodol yn amodol ar y gymeradwyaeth honno a chadarnhad y trefniadau ariannu.

Gyda buddsoddiad gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, mae cam cyntaf y gwaith ar y prosiect ymchwil mawr eisoes ar y gweill, gydag ailddatblygu cyfleusterau tyfu planhigion y Brifysgol yn ogystal â mannau ymchwil gradd bwyd.

Amcan y cyfleusterau hyn a fydd yn cael eu hailddatblygu yw diwallu anghenion partneriaid masnachol yn ogystal ag academyddion trwy wella tai gwydr, ystafelloedd amgylchedd rheoledig a chyfleusterau ynysu arbenigol i gefnogi ymchwil fwy blaenllaw i wella cnydau, diogelwch bwyd ac amaethyddiaeth sy’n gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.

Dywedodd yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’n wych cael y gefnogaeth hon gan ein partneriaid i gymryd y camau cyntaf ymlaen gyda’r prosiect hwn. Bydd yn hwb sylweddol i arloesedd a chyfleoedd i fusnesau; gan ddod â buddsoddiad, swyddi a chyfleoedd i'r Canolbarth. Mae prosiectau fel y rhain yn ganolog i’n cenhadaeth: gwthio ffiniau ymchwil, gwybodaeth a darganfyddiad, ac yn y pen draw newid bywydau er gwell.

“Mae campws Gogerddan eisoes yn gartref i arbenigedd bridio planhigion arloesol IBERS, sy’n helpu i fynd i’r afael â heriau byd-eang dybryd gan gynnwys diogelwch bwyd, iechyd dietegol a newid hinsawdd, yn ogystal ag ArloesiAber. Drwy ddarparu tir, adeiladau a seilwaith presennol i gefnogi’r Parc Arloesi newydd, rydym ni’n gobeithio meithrin syniadau newydd a denu buddsoddiad a swyddi o ansawdd uchel i’r rhanbarth.”

Bydd datblygiadau yn y dyfodol yn amodol ar gyllid a chymeradwyaeth fanwl ar gyfer y prosiect a byddant yn cynnwys cyfleusterau eplesu newydd ac wedi'u huwchraddio, Canolfan Grawn a Chodlysiau newydd a thros 2,500 metr sgwâr o labordai modern, swyddfeydd a lleoedd i fusnesau tyfu.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a'r Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys a Chyd-gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru:

"Mae’r Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd yn gyfle cyffrous i adeiladu ar gryfderau cydnabyddedig rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth mewn ymchwil, arloesedd a menter. Er bod y prosiect yn parhau i fod yn destun proses gymeradwyo a phenderfyniadau ariannu Bargen Twf Canolbarth Cymru, rydym wedi ein calonogi gan y cynnydd sy'n cael ei wneud hyd yn hyn.

"Mae'r prosiect yn cyd-fynd yn agos ag uchelgeisiau'r Fargen Twf i gefnogi arloesedd, cynhyrchiant a thwf economaidd hirdymor. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda phartneriaid wrth i gynlluniau gael eu mireinio a symud ymlaen trwy'r camau datblygu nesaf."

Ychwanegodd yr Athro Anne Ferguson-Smith, Cadeirydd Gweithredol BBSRC:

“Mae IBERS yn sefydliad ymchwil o’r radd flaenaf sy’n mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf dybryd mewn diogelwch bwyd ac amaethyddiaeth sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd. Bydd y Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd yn adeiladu ar y rhagoriaeth honno, gan droi gwyddoniaeth arloesol yn darganfyddiadau sy’n cael effaith go iawn yng nghanolbarth Cymru a thu hwnt.”

Bydd y datblygiadau newydd yn cyd-fynd â chryfderau presennol ArloesiAber, canolfan arloesi ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a BBSRC, a'r unig gampws o'i fath yng Nghymru.

Ariennir Bargen Twf Canolbarth Cymru ar y cyd gan Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Cymru â’r nod o denu buddsoddiad preifat a chyhoeddus pellach.

Source: https://www.aber.ac.uk/cy/ibers/news/news-article/title-288476-cy.html