Mae Gweinidog o Swyddfa Cymru wedi clywed am gynlluniau i ddatblygu Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd newydd ar ymweliad i Brifysgol Aberystwyth.
Aeth Anna McMorrin AS ar daith dywys o amgylch ArloesiAber, cyfleuster datblygu integredig i gyflymu arloesedd ym meysydd bwyd a diod, yr economi gylchol a thechnoleg amaethyddol, ynghyd ag Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).
Mae’r Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd, menter sydd wedi ei chynnig ar gyfer campws Gogerddan y Brifysgol, yn un o sawl prosiect sy’n cael eu datblygu ar gyfer cefnogaeth bosibl gan Fargen Dwf y Canolbarth – rhaglen buddsoddi ranbarthol sy’n cael ei harwain gan Gynghorau Sir Powys a Cheredigion er mwyn hybu arloesedd, creu swyddi gwerth-uchel ac i dyfu’r economi ar draws y Canolbarth. Cefnogir Bargen Dwf Canolbarth Cymru gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Fel rhan o’r daith, clywodd y Gweinidog gan sawl busnes sydd eisoes yn elwa o gyfleusterau ArloesiAber a’r ymchwil sy’n cael ei wneud gan wyddonwyr IBERS, athrofa sy’n cael ei ariannu’n strategol gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol UKRI.
Dywedodd Is-Ysgrifennydd Seneddol yn Swyddfa Cymru, Anna McMorrin AS:
“Mae ArloesiAber yn llwyddiant ymchwil a datblygu yng Nghymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol drwy gyllid UKRI. Roedd yn wych clywed am eu gwaith gwych a’r cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Parc Arloesi newydd i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.
Mae’r prosiectau hyn, ochr yn ochr ag ailddatblygu’r Hen Goleg a’r Promenâd, yn helpu i dyfu’r economi yn Aberystwyth ac yn cynnig swyddi da i bobl leol.
”
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Jon Timmis:
“Pleser oedd croesawu’r Gweinidog yma i gwrdd â chydweithwyr, i weld y cyfleusterau ac i glywed am rai o’n cynlluniau cyffrous at y dyfodol. Mae strategaeth ein Prifysgol yn ein hymrwymo i newid bywydau er gwell ac i ysbrydoli eraill i ddilyn yr un trywydd. Mae’r ymchwil ac addysgu a ddangoson ni yn ystod ymweliad y Gweinidog yn enghreifftiau gwych o hynny. Fel y Brifysgol gyntaf yng Nghymru, rydym yn gwthio ffiniau arloesi a gwybodaeth - gan feithrin a rhannu’r syniadau a’r arbenigedd sydd o fudd i bobl a’r blaned. Rwy wrth fy modd y gallai’r Gweinidog ddod i glywed am rhywfaint o’r gwaith hanfodol sy’n digwydd yma.
”
Ychwanegodd Dr Rhian Hayward MBE, Prif Weithredwr ArloesiAber:
“Mae buddsoddiad yn ArloesiAber eisoes yn talu ar ei ganfed o ran creu swyddi uchel eu gwerth a chlwstwr o egin fusnesau. Mae prosiectau sydd ar y gweill yn ehangu'n gyflym ac yn dangos addewid mawr o ran denu partneriaethau newydd rhwng y Brifysgol a diwydiant. Byddai Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd yn cynnig lle ychwanegol ar gyfer ehangu a hwyluso ymchwil ac arloesi cydweithredol pellach gyda diwydiant.
”