Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu’r newyddion bod dau brosiect blaenllaw wedi cael sêl bendith i symud ymlaen i ail gymal Bargen Twf Canolbarth Cymru, sy’n werth miliynau o bunnoedd.
Yn dilyn y cyhoeddiad, bydd gwaith pellach yn cael ei wneud nawr ar yr achosion busnes ar gyfer Canolfan Sbectrwm Genedlaethol a Pharc Arloesi Dyfodol Gwyrdd.
Dywedodd yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd y Brifysgol: “Rydym wrth ein bodd bod y ddau brosiect pwysig yma wedi’u cynnwys yn ail gymal proses asesu Bargen Twf Canolbarth Cymru. Mae cyfnewid gwybodaeth rhwng y byd academaidd a diwydiant, a harneisio ymchwil i ysgogi arloesedd wrth wraidd y naill a’r llall. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda thîm Bargen Twf Canolbarth Cymru a’n partneriaid diwydiant i ddatblygu’r prosiectau uchelgeisiol hyn ymhellach gyda’r nod o ddod â buddiannau positif o ran swyddi a’r economi i’r rhanbarth.”
Mae cynlluniau Prifysgol Aberystwyth ymhlith rhestr fer gyfredol o wyth prosiect sylweddol sy’n cael eu hystyried ar gyfer derbyn cyllid o’r Fargen Dwf. Caiff penderfyniadau terfynol ynghylch dyfarnu cyllid eu gwneud yn dilyn trydydd cymal y broses datblygu achosion busnes.
Canolfan Sbectrwm Genedlaethol
Byddai'r Ganolfan yn helpu i ateb y galw cynyddol am gymwysiadau a thechnolegau newydd sy’n defnyddio’r sbectrwm radio megis ffermio deallus, Rhyngrwyd y Pethau, cerbydau ymreolaethol ar y tir, y môr a’r awyr, tu hwnt i 5G, a monitro iechyd o bell.
Byddai hyfforddiant hefyd yn cael ei gynnig i’r genhedlaeth bresennol a’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr sbectrwm a systemau radio, dan arweiniad Adran Ffiseg y Brifysgol sydd eisoes yn cynnig cyrsiau gradd mewn Peirianneg Sbectrwm Radio.
Byddai’r ganolfan yn gwneud defnydd o amgylcheddau arfordirol, ucheldirol a gwledig amrywiol y rhanbarth, gyda phrif swyddfa wedi’i lleoli ar gampws Gogerddan y Brifysgol yn adeilad yr Arglwydd Milford a adnewyddwyd yn ddiweddar diolch i fuddsoddiad gan y Brifysgol a Llywodraeth Cymru.
Mae cynllun Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Canolfan Sbectrwm Genedlaethol yn seiliedig ar gydweithio gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys BT, QinetiQ ac eraill er mwyn cynorthwyo gwireddu llawn botensial y cysyniad.
Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd
Nod Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd yw hybu twf busnes gwyrdd a datblygiad economaidd yn seiliedig ar gynaliadwyedd, gan gynnig cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant.
Byddai’n adeiladu ar lwyddiant buddsoddiadau diweddar dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, gan gynnwys ArloesiAber sy’n darparu cyfleusterau ac arbenigedd o’r radd flaenaf yng Ngogerddan ar gyfer y sectorau biotechnoleg, amaeth-dechnoleg, a bwyd a diod.
Dywedodd Prif Weithredwr ArloesiAber, Dr Rhian Hayward: “Mae buddsoddiad yn ArloesiAber gan Brifysgol Aberystwyth; Ymchwil ac Arloesedd y DU drwy Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol y BBSRC, a Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, eisoes yn talu ar ei ganfed o ran creu swyddi uchel eu gwerth a chlwstwr o egin fusnesau. Mae prosiectau sydd ar y gweill yn ArloesiAber yn ehangu'n gyflym ac yn dangos addewid mawr o ran denu partneriaethau newydd rhwng y Brifysgol a diwydiant. Byddai Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd yn cynnig lle ychwanegol ar gyfer ehangu a hwyluso ymchwil ac arloesi cydweithredol pellach gyda diwydiant.”
Mae lleoliad Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd o dan ystyriaeth ac fe gaiff penderfyniad terfynol ei wneud yn ystod y broses o ddatblygu’r achos busnes.
-
Ffynhonnell: https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2022/11/title-259575-cy.html