Daw’r ehangiad yn dilyn Pooch & Mutt yn caffael BIOME9, brand ymchwil microbiom arbenigol sy'n gwasanaethu gweithwyr proffesiynol milfeddygol y DU. Mae'r integreiddiad hwn yn galluogi i'r brand lansio Gut Health Test arloesol yn y cartref sy'n cyfuno ymchwil priodol, gwyddoniaeth, ac AI i ddadansoddi microbiom unigol cŵn, gan gyflenwi mewnwelediadau y gellir gweithredu arnynt i adnabod materion iechyd cyfredol neu rhai y gellir eu rhagfynegi. Mae'r gweithgaredd hwn yn cael ei bweru gan technoleg denant hirdymor ArloesiAber – Agxio.
“Dywedodd Paul Dennison, Prif Swyddog Gweithredol Pooch & Mutt:
”
"Mae'r ehangiad yn cryfhau ein hymrwymiad i ddod â gofal anifeiliaid anwes hyd yn oed yn well i berchnogion. Trwy fuddsoddi yng ngalluoedd labordy mewnol BIOME9, gallwn sicrhau'r lefel uchaf o reolaeth ansawdd a chyflenwi mewnwelediadau cynt a dyfnach o'n Gut Health Tests. Mae'n gam ymlaen o bwys arall tuag at wneud iechyd perfedd da yn hygyrch ac yn bosibl i bob ci."
Trwy leoli gweithredoedd labordy BIOME9 o fewn ArloesiAber ac ychwanegu dau biowyddonydd newydd i'r tîm, bydd Pooch & Mutt yn cyfoethogi'r sylfaen wyddonol y tu ôl i'r ddarpariaeth profi iechyd perfedd - gan gyflawni cywirdeb gwell, amseroedd prosesu cynt, a photensial ehangach ar gyfer arloesedd. Mae seilwaith labordy datblygedig ac ecosystem ymchwil cydweithredol ArloesiAber yn gwneud y lefel hon o gywirdeb yn bosibl, gan feithrin amgylchedd lle mae gwyddoniaeth a datblygu cynnyrch yn datblygu law yn llaw.
“Ychwanega Dr Bushra Schuitemaker, Pennaeth Gwyddoniaeth ac Ymchwil yn BIOME9:
”
“Rydw i wedi cyffroi ein bod ni'n ymuno ag Arloesi Aber, lle gallwn ehangu ein hymchwil microbiom a chynnig offer ymarferol i filfeddygon a pherchnogion anifeiliaid anwes. Trwy gyfuno gwyddoniaeth ar flaen y gad a chymhwyso yn y byd go iawn, gallwn gyflenwi mewnwelediadau sy'n gwella iechyd y perfedd, hysbysu maeth, ac yn y pendraw cyfoethogi lles anifeiliaid ar draws y DU".
Mae'r cyhoeddiad yn cyd-fynd â charreg filltir o bwys i ArloesiAber, sy'n dathlu pum mlynedd o weithredu fel hwb cenedlaethol ar gyfer arloesi biowyddoniaeth. Ers agor ei ddrysau yn 2019, mae ArloesiAber wedi adeiladu ecosystem ffyniannus o 45 o gwmnïau tenant ac aelod, wedi creu 61 o swyddi, a chefnogi busnesau i godi dros £13 miliwn mewn grantiau a dros £10 miliwn mewn buddsoddiad ecwiti.
“Dywed Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber:
”
Rydym wrth ein bodd wrth groesawu Pooch & Mutt a BIOME9 i'n cymuned sy'n tyfu wrth i ni ddathlu pum mlynedd o arloesi. Mae eu gwaith yn enghraifft o'r math o fenter wedi'i harwain gan wyddoniaeth gyda ffocws masnachol sy'n ffynnu yn ArloesiAber. Mae'n enghraifft wych o sut gall ein cyfleusterau ac arbenigedd gyflymu darganfod, datblygu cynnyrch, ac effaith byd go iawn.
Daeth y syniad yn 2014 gyda thua £40 miliwn o ariannu o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru, BBSRC, a Phrifysgol Aberystwyth, ers hynny mae ArloesiAber wedi esblygu yn ganolfan flaenllaw ar gyfer Ymchwil a Datblygu, deorfeydd busnes, a chefnogaeth fasnacheiddio. Mae rhaglenni blaenllaw megis Solutions Catalyst, LEAP, a'r Rhaglen Helix yn tywys cwmnïau o ddatblygu syniad i barodrwydd at fuddsoddiad.
Gyda dros 200 o brosiectau datblygu wedi'u cefnogi hyd yma, mae ArloesiAber yn parhau i bontio'r "dyffryn diflannu" rhwng ymchwil a'r farchnad, gan rymuso busnesau wedi'u gyrru gan wyddoniaeth i raddio a llwyddo.