Prenotification trap Limestone grey guest blog

Magl y Rhag-Hysbysiad: Sut mae Cwmnïau Gwyddor Bywyd, Biotechnoleg a Thechnoleg Feddygol yn Colli Credydau Treth Ymchwil a Datblygu

AberInnovation
Chwefror 17, 2026
Wedi'i ysgrifennu gan LimeStone Grey Ltd

Magl y Rhag-Hysbysiad: Sut mae Cwmnïau Gwyddor Bywyd, Biotechnoleg a Thechnoleg Feddygol yn Colli Credydau Treth Ymchwil a Datblygu

Hysbysebu Ymlaen Llaw am Gredydau Treth Ymchwil a Datblygu: Gofyniad Hollbwysig i Arloeswyr

Mae rhag-hysbysu bellach yn ofyniad gorfodol o dan y gyfraith i rai cwmnïau penodol sy'n bwriadu hawlio credydau treth am waith ymchwil a datblygu. Mae’r rheol hon wedi'i chyflwyno’n rhan o’r diwygiadau a wnaed gan CThEF i'r gyfundrefn rhyddhad treth ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu, ac mae'n berthnasol i gwmnïau sy'n ei hawlio am y tro cyntaf a'r rhai nad ydynt wedi gwneud cais perthnasol am credyd treth ymchwil a datblygu yn y tri chyfnod cyfrifyddu blaenorol. Rhaid i’r cwmnïau dan sylw hysbysu CThEF o'u bwriad i hawlio ymhen chwe mis i ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu perthnasol.

Os collir y dyddiad cau hwn, nid oes modd newid y canlyniad. Bydd yr hawliad am gredyd treth ar gyfer ymchwil a datblygu yn annilys yn awtomatig, ni waeth beth fo'r gwaith gwyddonol neu dechnolegol cymwys a wneir. Yn bwysicaf oll, nid oes proses apelio. Nid oes gan CThEF unrhyw ddisgresiwn i dderbyn hysbysiad hwyr, hyd yn oed pan fo'r cwmni wedi ymgymryd â gwaith ymchwil a datblygu dilys ac uchel ei risg, neu hyd yn oed os nad oedd yn gwybod am y gofyniad. Ar gyfer busnesau ym meysydd gwyddor bywyd, biotechnoleg a thechnoleg feddygol, lle mae costau sylweddol i waith ymchwil a datblygu yn y camau cynnar, fe all hyn arwain at golli symiau sylweddol o ryddhad treth am byth.

Pam mai Busnesau Newydd sydd ar y Perygl Mwyaf o Golli

Mae cwmnïau gwyddor bywyd, biotechnoleg a thechnoleg feddygol sydd newydd ddechrau yn arbennig o agored i fod ar eu colled oherwydd y rheolau rhag-hysbysu. Ar y cychwyn, mae sylfaenwyr - wrth reswm - yn canolbwyntio ar ddatblygu’r cynnyrch neu’r prosesau ac ar ddatrys problemau technegol. Mae'r gwaith hwn yn aml yn golygu cryn dipyn o ansicrwydd gwyddonol a hwn yw’r cyfnod prysuraf yn oes y cwmni o safbwynt gwaith ymchwil a datblygu.

Fel rheol mae credydau treth ar gyfer ymchwil a datblygu yn cael eu hystyried ar ôl cwblhau’r cam datblygu cyntaf hwnnw, er enghraifft, ar ôl profi bod y cysyniad yn gweithio’n ymarferol. Erbyn hynny, fodd bynnag, mae'n bosib bod y busnes eisoes wedi gwneud y gwaith ymchwil a datblygu drutaf oll. Os na chyflwynwyd y rhag-hysbysiad yn brydlon, mae'r gwariant hwnnw, sydd eisoes wedi’i wneud, wedi'i eithrio o hawliad am byth. Er ei bod hi’n bosib y bydd cwmnïau yn dal i allu hawlio am waith ymchwil a datblygu sy’n dal i fynd yn ei flaen neu waith a wneir yn y dyfodol, megis gweithgareddau i ddatblygu prosesau i gynyddu’r cynhyrchiant neu welliannau a wneir o bryd i’w gilydd, mae’r gwariant sy’n gymwys yn aml yn llai o lawer na’r gwario yn y cyfnod datblygu cychwynnol.

Dim Ail Gyfle: Yr Hyn a Welwn ar Draws Sector y Gwyddorau Bywyd

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr LimestoneGrey, Matthew Jones:  Yn y yr wythnosau diwethaf hyn yn unig, rydym wedi siarad â sawl cwmni sy'n gofyn am gyngor ar gredydau treth ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu, ond roeddem ni’n gorfod dweud wrthynt nad oes modd hawlio am gostau sylweddol ymchwil a datblygu oherwydd nad oedd y rhag-hysbysiad wedi'i gyflwyno mewn pryd. Ar ôl i’r dyddiad cau fynd heibio, nid oes llwybr apelio na dim modd datrys y sefyllfa’n ôl-weithredol.

Mewn llawer o'r achosion hyn, roedd busnesau'n gweithio gyda chyfrifwyr nad ydynt yn cynnig gwasanaethau arbenigol ar gredydau treth ymchwil a datblygu ac, o ganlyniad, ni fyddai ganddynt fel arfer y sgiliau i gynghori ar y gofyniad deddfwriaethol penodol iawn hwnnw.

Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cysylltu â chynghorydd credydau treth ymchwil a datblygu yn gynnar yn eich taith ymchwil a datblygu. Yn LimestoneGrey, rydym yn cefnogi cwmnïau o'r cychwyn cyntaf, gan sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion rhag-hysbysu, ac yn helpu i gadw cofnod o weithgareddau a gwariant cymwys, a darparu cyngor sy’n para trwy gydol oes y datblygiad. Yn peth pwysig yw nid ydym yn codi ffioedd ychwanegol am weithredu’n gynnar, sy’n golygu y gall busnesau gynllunio'n effeithiol ac osgoi syrthio i fagl y rhag-hysbysu sydd, yn dawel bach, yn costio'n ddrud i arloeswyr Prydain.

Mae LimestoneGrey yn gwmni rheoleiddiedig o weithwyr proffesiynol treth sy'n arbenigo'n gyfan gwbl mewn rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu. Mae gan y tîm brofiad helaeth o lywio cymhlethdodau'r dirwedd dreth Ymchwil a Datblygu ac addysgu sylfaenwyr ar egwyddorion y rhyddhad, gan helpu cwmnïau i ddeall y ddeddfwriaeth a gwreiddio strategaethau.

Limestonegrey resize 2bca39983d9d2b5572265e026f5a0c31