Nod cynnyrch sy'n cyfrannu at economi gylchol yw lleihau gwastraff, gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd adnoddau, a chreu system dolen gaeedig lle caiff cynnyrch a deunyddiau eu hailddefnyddio, eu hadnewyddu, eu hailgynhyrchu a'u hailgylchu.
Cymhlethdod a Rhyngddisgyblaethol
Mae'r economi gylchol yn faes rhyngddisgyblaethedd sy'n cwmpasu agweddau ar economeg, peirianneg, gwyddor amgylcheddol, cymdeithaseg, a mwy.
Mae ymchwilwyr yn wynebu'r her o bontio'r disgyblaethau amrywiol hyn os ydynt am gyfrannu'n ystyrlon at y galw cymdeithasol. Mae hyn yn gofyn am gydweithio ymhlith arbenigwyr o wahanol feysydd, a dyma lle mae canolfan arloesi, megis cyfleuster ArloesiAber yn chwarae rhan. Gall y campws sy’n gysylltiedig â'r brifysgol ddarparu ystod o sgiliau a rhwydwaith o wyddonwyr ac academyddion sydd wrth law i gefnogi creu syniadau mewn tirwedd economi gylchol gymhleth.
Diffyg diffiniadau safonol
Mae diffiniad clir sydd wedi’i dderbyn yn eang o’r economi gylchol yn dal i esblygu, sy'n ei gwneud hi'n anodd i ymchwilwyr sefydlu tir cyffredin. Gall gwahanol sefydliadau ac ysgolheigion ddehongli a mynd i'r afael â'r cysyniad yn wahanol, gan arwain at ddryswch ac anghysondeb mewn canfyddiadau ymchwil.
Argaeledd ac ansawdd data
Mae ymchwil yn yr economi gylchol yn dibynnu'n fawr ar ddata, ond gall cael gwybodaeth gywir, ddibynadwy a chynhwysfawr fod yn heriol. Mae llawer o fentrau economi gylchol yn dal i fod yn eu dyddiau cynnar, gan ei gwneud hi'n anodd dod o hyd i ddata hanesyddol i'w ddadansoddi. Ar ben hynny, gall data ar lif adnoddau, cylchoedd bywyd cynnyrch, ac arferion rheoli gwastraff amrywio'n sylweddol ar draws rhanbarthau a diwydiannau, gan gymhlethu ymdrechion ymchwil ymhellach.
Mesur effaith
Mae asesu effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol arferion economi gylchol yn dasg gymhleth. Rhaid i ymchwilwyr ddatblygu methodolegau cadarn i fesur manteision a chyfaddawdau strategaethau cylchol o'u cymharu â rhai llinol. Mae mesur effeithiau hirdymor yn gywir yn gofyn am linellau amser ymchwil estynedig, sy’n ei gwneud hi'n anodd darparu argymhellion polisi uniongyrchol.
Heriau rheoleiddio a pholisi
Mae mentrau economi gylchol yn aml yn gofyn am newidiadau mewn deddfwriaeth a pholisïau i hyrwyddo arferion cynaliadwy sy'n creu heriau pellach i ymchwilwyr wrth lywio fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol, a all amrywio'n fawr rhwng gwledydd a rhanbarthau.
Newid ymddygiad
Mae cyflawni economi gylchol hefyd yn golygu newid ymddygiad defnyddwyr a busnes; felly, rhaid i ymchwilwyr ystyried y ffactorau seicolegol a chymdeithasegol sy'n annog neu'n rhwystro mabwysiadu arferion cylchol. Mae newid arferion a meddylfryd sefydledig yn ymgyflwyno rhwystr ymchwil sylweddol.
Arloesi technolegol
Mae datblygiadau mewn technoleg yn chwarae rhan ganolog wrth drosglwyddo i economi gylchol. Rhaid i ymchwilwyr barhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf mewn technolegau ailgylchu, ail-weithgynhyrchu a lleihau gwastraff. Mae deall potensial a chyfyngiadau'r datblygiadau arloesol hyn yn hanfodol ar gyfer ymchwil effeithiol.
Mae canolfannau ymchwil, megis ArloesiAber, yn chwarae rhan sylweddol wrth feithrin arloesedd ac ymchwil sy'n gysylltiedig â'r economi gylchol oherwydd eu bod yn darparu amgylchedd cydweithredol lle gall gwyddonwyr, staff cymorth technegol, ymchwilwyr, entrepreneuriaid a busnesau ddod ynghyd i gadw ar war y tueddiadau YaD, dirnadaethau a thechnoleg diweddaraf, sy'n hanfodol ar gyfer hyrwyddo datrysiadau economi gylchol.
Nodweddion allweddol yr economi gylchol
Lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu
Mae'r cysyniad sylfaenol hwn yn sail i strategaethau cylchol ac yn pwysleisio sut y gellir lleihau gwastraff drwy leihau'r defnydd, ailddefnyddio cynnyrch a deunyddiau, ac ailgylchu yn y gadwyn gynhyrchu pan fo’n bosibl.
Systemau dolen gaeedig
Nod economïau cylchol yw creu systemau dolen gaeedig lle mae cynnyrch a deunyddiau yn cylchredeg o fewn yr economi cyhyd â phosibl i leihau echdynnu adnoddau a chynhyrchu gwastraff.
Dylunio crud-i-grud
Mae'r cysyniad o ddylunio crud-i-grud yn cynnwys dylunio cynnyrch gyda'r diwedd mewn golwg. Mae'n pwysleisio creu cynnyrch y gellir eu dadosod yn hawdd, a bod eu cydrannau wedi cael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu.
Cyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig (EPR)
Mae hwn yn ddull rheoleiddio sy'n rhoi’r cyfrifoldeb ar weithgynhyrchwyr am gylch oes cyfan eu cynnyrch, gan gynnwys gwaredu ac ailgylchu priodol. Mae'r cysyniad hwn yn annog dylunio cynnyrch sy'n hwyluso ailgylchu a lleihau gwastraff.
Bioddynwarededd
Mae hyn yn cynnwys efelychu systemau a phrosesau naturiol wrth ddylunio a chynhyrchu. Trwy efelychu effeithlonrwydd natur a systemau di-wastraff, mae'r economi gylchol yn ceisio creu cynnyrch a phrosesau cynaliadwy.
Cynnyrch-fel-gwasanaeth (PaaS)
Mae'r model hwn yn symud perchnogaeth cynnyrch o’r defnyddwyr i weithgynhyrchwyr neu ddarparwyr gwasanaethau. Mae defnyddwyr yn talu am ddefnyddio cynnyrch yn hytrach na bod yn berchen arno, gan hyrwyddo hirhoedledd a hwyluso adfer cynnyrch.
Modelau busnes cylchol
Yma, canolbwynt y modelau yw cynhyrchu gwerth trwy weithgareddau fel prydlesu, adnewyddu neu ail-weithgynhyrchu cynnyrch, yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar werthu rhai newydd. Mae'r modelau hyn yn alinio cymhelliannau elw ag amcanion cynaliadwyedd.
Mae'r modelau busnes hyn yn berthnasol i bob graddfa o raglenni ymchwil sy'n defnyddio ArloesiAber fel sylfaen prosiect. Gall tenantiaid busnes neu fusnesau YaD newydd ddefnyddio ei gyfleusterau ymchwil i leihau costau ymchwil pwysig yn ogystal â gwastraff.
Ewch i’n tudalen astudiaethau achos i ddysgu mwy am sut mae busnesau o ddiwydiannau technoleg amaeth, bwyd-amaeth a biotechnoleg yn ymchwilio i gynnyrch yng nghyd-destun yr economi gylchol yn ArloesiAber.
Os hoffech fwy o wybodaeth am ein tîm, ein gwasanaethau a’n cyfleoedd cyllido, cysylltwch â ni.