I liniaru’r newid yn yr hinsawdd mae symud tuag at ffynonellau ynni carbon-isel yn hollbwysig. Atebion seiliedig ar wyddoniaeth sydd ar y blaen ac yn arwain y trawsnewid hwn, trwy ddatblygiadau mewn technolegau ynni adnewyddadwy, er enghraifft ynni'r haul, gwynt a dŵr.
Yng ngwledydd Prydain, trwy fuddsoddi’n sylweddol mewn ymchwil a datblygu systemau ynni adnewyddadwy mwy effeithlon a chost-effeithiol. Er enghraifft, datblygu ffermydd gwynt ar y môr sydd yn harneisio’r arfordiroedd gwyntog, yn cyfrannu'n sylweddol at y cymysgedd ynni ac yn lleihau'r ddibyniaeth ar danwydd ffosil.
Mae cynyddu effeithlonrwydd ynni yn gam hanfodol wrth leihau allyriadau cyffredinol. Mae ymchwil wyddonol wedi paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu cyfarpar ynni-effeithlon, deunyddiau adeiladu gwyrdd, a thechnolegau grid clyfar. Mae'r datblygiadau arloesol hyn nid yn unig yn lleihau'r defnydd o ynni ond hefyd yn lleihau costau i ddefnyddwyr a busnesau fel ei gilydd.
Mae rhaglenni megis Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a morgeisi gwyrdd yn cymell perchnogion tai i fabwysiadu arferion ynni-effeithlon, a dangos sut y gellir cynnwys datrysiadau seiliedig ar wyddoniaeth mewn bywyd bob dydd.
Mae DSC yn dechnoleg arloesol sy'n cipio allyriadau carbon deuocsid o ffynonellau megis gweithfeydd pŵer a chyfleusterau diwydiannol, a’u storio o dan y ddaear i'w hatal rhag cael eu llyncu i’r atmosffer. Mae ymrwymiad gwledydd Prydain i ymchwil DSC a datblygu seilwaith i’w weld yn amlwg mewn prosiectau tebyg i brosiect Senedd Cymru Dal, Defnyddio a Storio Carbon neu Fenter DSC Acorn yn yr Alban, a'r nod yw dal a storio miliynau o dunelli o CO2 bob blwyddyn.
Trwy fuddsoddi mewn DSC, mae Prydain yn cymryd camau breision tuag at ei nod o gyrraedd allyriadau sero-net erbyn 2050.
Mae rhaglenni a gyllidwyd yn ddiweddar yma yn ArloesiAber wedi cefnogi ymchwil hanfodol am ddatrysiadau a fydd yn lleihau allyriadau carbon ac echdynnu carbon. Un o’r prosiectau hyn yw Technolegau Nellie sy'n brototeip arloesol o gynnyrch dal carbon.
Yn ogystal â dioddef oherwydd y newid yn yr hinsawdd mae amaethyddiaeth yn cyfrannu ato. Ym maes amaethyddiaeth gynaliadwy, mae dulliau seiliedig ar wyddoniaeth yn cynnwys datblygu cnydau sy'n gwrthsefyll sychder, gwella iechyd pridd, a defnyddio technegau ffermio manwl. Mae'r arferion hyn nid yn unig yn cynyddu gwytnwch i wrthsefyll effeithiau hinsawdd ond hefyd yn lleihau ôl troed carbon y sector amaethyddol.
Mae Biofanc Hadau ArloesiAber yn gwneud ymchwil ar gamau allweddol i gynorthwyo amaethu cynaliadwy. Mae hwn yn adnodd lle ceir amgylchedd rheoledig ar gyfer storio a chatalogio adnoddau genetig planhigion yn ddiogel.
Mae'r adnoddau a'r nodweddion technegol yn cefnogi gwaith Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) a'i rhaglenni bridio planhigion byd-enwog, sy’n hyrwyddo datblygiad mathau newydd o blanhigion a gwaith i gynnal a chadw llawer o fathau o blanhigion masnachol.
Mae ymchwil yn cael ei wneud i'r mathau hyn, cânt eu storio a'u defnyddio yng nghyd-destun heriau cynyddol yr hinsawdd a’r angen taer am ffermio mwy cynaliadwy a chynhyrchu bwyd.
Er mwyn cynllunio a lliniaru effeithiol mae’n hanfodol gallu deall a rhagfynegi effeithiau’r newid hinsawdd. Mae datblygiadau mewn modelu hinsawdd yn rhoi darlun gwerthfawr o sefyllfaoedd posibl yr hinsawdd yn y dyfodol, ac yn tywys llunwyr polisi wrth iddynt wneud penderfyniadau. Ym Mhrydain, mae sefydliadau megis Canolfan Hadley y Swyddfa Dywydd yn flaengar ym maes gwyddor hinsawdd, ac yn cynnig modelau a data cadarn sy'n llywio strategaethau hinsawdd yng ngwledydd Prydain a thrafodaethau rhyngwladol.
Yn olaf, nid datblygu technolegol yn unig yw gwaith gwyddoniaeth, ond hefyd meithrin cyhoedd wybodus. Mae cynlluniau i addysgu a dal sylw’r cyhoedd yn hanfodol er mwyn creu cymdeithas sy'n deall ac yn cefnogi arferion cynaliadwy. Mae canolfannau gwyddonol, amgueddfeydd a rhaglenni addysgol ym Mhrydain yn chwarae rhan ganolog wrth ledaenu gwybodaeth am yr hinsawdd a meithrin diwylliant o gynaliadwyedd.
Er mwyn denu sylw’r gymuned leol trwy gyfrwng dyddiau agored, yn ogystal â chynnal digwyddiadau i randdeiliaid gwyddonol, mae ArloesiAber yn agor ei ddrysau yn rheolaidd i esbonio’r ymchwil a wneir ar y safle. Mae’r ymchwil yn cynnwys prosiectau yn canolbwyntio ar liniaru’r newid yn yr hinsawdd, arddangosiadau astudiaethau achos a chyflwyniadau personol gan ymchwilwyr ar y safle.
I grynhoi, mae datrysiadau seiliedig ar wyddoniaeth yn anhepgor yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. O ddatgarboneiddio ffynonellau ynni i hoelio sylw’r cyhoedd, mae'r datrysiadau’n rhoi dull cynhwysfawr o liniaru effeithiau’r hinsawdd ac adeiladu dyfodol cynaliadwy.
Wrth i ni barhau i gofleidio datblygiadau arloesol gwyddonol a buddsoddi ynddynt, mae'n gosod cynsail ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd ledled y byd, gan ddangos bod byd gwyrddach a mwy cynaliadwy o fewn ein cyrraedd, trwy gyfrwng gwyddoniaeth a chydweithio.
Ewch i’n tudalen astudiaethau achos i weld sut mae busnesau, o ddiwydiannau technoleg amaeth, bwyd amaeth a biotechnoleg, yn ymchwilio yn ArloesiAber i gynnyrch yng nghyd-destun yr hinsawdd.
Os hoffech fwy o wybodaeth am ein tîm, ein gwasanaethau a chyfleoedd cyllido, cysylltwch â ni.