Academic engagement panel

Drwy Gydweithredu, Gall y Byd Academaidd a’r Byd Diwydiannol Yrru Effaith yn y Byd go Iawn

AberInnovation
Mawrth 09, 2026
Pam Mae Cydweithredu yn Bwysicach Nawr Nag Erioed

Cynhaliwyd digwyddiad holi ac ateb yn ddiweddar yn ArloesiAber, drwy gydweithio â thîm Ymchwil, Busnes, ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth, a dyma’r brif neges glir: nid rhywbeth buddiol yn unig yw cydweithredu rhwng y meysydd academaidd a diwydiannol - erbyn hyn y mae’n dod yn elfen hanfodol.

Daeth ysgolheigion sydd eisoes yn gweithio gyda diwydiannau, yn ogystal ag arweinwyr y  cyfadrannau, a phartneriaid yn y sector cyhoeddus o Lywodraeth Cymru ac Innovate UK at ei gilydd mewn digwyddiad meithrin cysylltiadau. Roeddent yn trafod pam mae partneriaethau yn bwysicach nawr nag erioed - yn ogystal â’r manteision o ran creu gwerth i brifysgolion, busnesau, myfyrwyr, a’n cymdeithas.

Dyma’r canlyniadau:

Yn fwyfwy, mae prifysgolion yn sicrhau bod eu hymchwil yn ymwneud â heriau’r byd go iawn. Mewn amrywiaeth o feysydd academaidd, mae ymchwil gymhwysol â chefnogaeth ariannol masnachol wedi dod i’r blaen, yn hytrach na’r ymchwil a wreiddir mewn chwilfrydedd. Nid yw hwn yn digwydd oherwydd bod pobl yn llai chwilfrydig, ond oherwydd bod effaith ymchwil yn cryfhau.

Bydd prifysgolion ar eu hennill o gydweithio â diwydiant drwy:

  • Droi syniadau yn atebion sy’n cyrraedd y gymdeithas yn gynt
  • Cael defnyddio setiau data arbenigol sy’n cryfhau ansawdd eu hymchwil.
  • Sicrhau cyllid strategol hirdymor.
  • Cryfhau eu rôl fel gweithredwyr trawsnewid byd-eang

Bydd y diwydiannau yn elwa’n ymarferol i’r un graddau: dadansoddiadau cadarn, technolegau blaenllaw, a dealltwriaeth wedi’i seilio ar dystiolaeth sy’n gallu lleihau’r risgiau a chreu manteision yn y farchnad.

Felly, cyfuniad o ddarganfod a darparu yw cydweithredu.

Effaith Ymarferol Cydweithredu

-Galluogi Diwydiannau i Arbed Arian ac Amser

Yn ôl un ysgolhaig blaenllaw o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, mae cydweithredu ar ymchwil am ansawdd dŵr wedi galluogi partneriad diwydiannol i gasglu data hanfodol a oedd yn golygu eu bod wedi llwyddo i osgoi camgymeriadau drud wrth iddynt ehangu. Mae ei phrofiad hi’n tystio i ffaith syml: gall defnyddio arbenigedd academaidd leihau’r risgiau wrth arloesi.

Yn eu tro, gall ysgolheigion fanteisio hefyd, er enghraifft drwy:

  • Gyfleoedd gweithio ar broblemau’r byd go iawn
  • Cyfleoedd datblygu eiddo deallusol
  • Twf proffesiynol a datblygiad gyrfaol
  • Teimlo’r bodlonrwydd a geir pan fo ymchwil yn effeithio’n ymarferol ar y byd go iawn.

Nododd y panel na ddefnyddir cyfnewid gwybodaeth yn ddigon o hyd, er ei fod ymhlith yr arfau mwyaf grymus sydd gan brifysgolion.

Mae cymorth ar gael drwy raglenni sy’n gysylltiedig ag Academi Frenhinol Peirianneg a chymrodoriaethau arloesi sy’n gallu helpu academyddion i gymryd y camau cyntaf hynny i waith cydweithredol.

Manteision y Tu Hwnt i’r Labordy

-Llwybrau Cryfach ar gyfer Meithrin Dawn 

Heddiw, mae myfyrwyr yn awyddus i gael llwybrau a fydd yn arwain i gyrfaoedd mewn diwydiant yn y dyfodol. Os ydym yn darparu prosiectau ymchwil sy’n cysylltu â heriau masnachol, byddwn yn denu darpar fyfyrwyr medrus ac uchelgeisiol sydd am greu waith sy’n bwysig y tu allan i gyhoeddiadau academaidd.

-Diwylliant Ymchwil sy’n Fwy Proffesiynol

Drwy gydweithredu â diwydiant, gellir datblygu sgiliau sy’n cryfhau gyrfaoedd academaidd ac enw da’r sefydliad, sef rheoli prosiectau, cyfathrebu, a meddwl yn strategol.

-Effeithio ar ein Bro a’n Byd

Fel sefydliad yng nghefn gwlad, mae gan Brifysgol Aberystwyth gyfrifoldeb dros gynnal y fio-economi a diogelu diwydiannau lleol drwy arloesi a defnydddio sgiliau technegol. Gall cydweithio ddiogelu ffyniant y fro wrth gyfrannu at atebion i heriau byd-eang.

Yr Agwedd Ddynol: Beth Sydd ei Angen ar y Diwydiant

Daeth neges drosodd a thro oddi wrth y lleisiau diwydiannol, sef thema syml ond hefyd yn gryf:

Rhaid dechrau cydweithredu drwy gydweithredu

Ystyr hynny yw:

  • Cysylltiadau cynnar â phartneriaid - hyd yn oed wrth baratoi ceisiadau
  • Bod yn glir am y disgwyliadau
  • Magu ymddiriedaeth ar bob gam o’r daith ymchwil

Pan fo’r ddwy ochr yn llunio prosiectau ar y cyd, mae’r canlyniadau’n gryfach ac mae’r effeithiau’n ehangach.

Cyllid a Chefnogaeth sy’n Galluogi Cydweithio

Mae’r rhwydweithiau cefnogi sydd ar gael i ysgolheigion sydd am gydweithredu’n tyfu, gan gynnwys:

  • Ariannu arloesi drwy raglenni Innovate UK
  • Trosglwyddo gwybodaeth a chefnogi partneriaethau drwy’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth.
  • Cymorth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART
  • Talebau cydweithredu ArloesiAber
  • Cyfleoedd am gymrodoriaethau a chyfleoedd meithrin cysylltiadau drwy’r Academi Frenhinol Peirianneg

Newid Diwylliannol - Heb Golli Chwilfrydedd

Rhaid pwysleisio bod gwaith cydweithredol a meddwl heb orwelion yn gallu cyd-fynd â’i gilydd. Mae llawer o bartneriaethau llwyddiannus yn dechrau oherwydd chwilfrydedd, trafodaethau, a cysylltiadau annisgwyl.

Pan fo dychmygu a gweithredu’n dod at ei gilydd, mae arloesi’n ffynnu.

Gan amlaf, mae ymchwilwyr yn dod i’r byd academaidd er mwyn gwneud gwahaniaeth er gwell. Mae cydweithredu â diwydiant yn darparu llwybr cyflymach rhwng yr ymchwil a’r effaith.

Y Camau Nesaf i Chi

Ysgolheigion: chwiliwch am y gefnogaeth sydd eisoes ar gael, cysylltwch â darpar bartneriaid yn gynnar, a meddyliwch am gydweithredu fel rhywbeth sy’n ychwanegu at ragoriaeth ymchwil, yn hytrach na rhywbeth sy’n ei disodli.

Diwydiant: trafodwch yn agored, trafodwch y heriau, a chyfrannwch at lunio’r ymchwil o’r cychwyn.