Blogimage

Sut mae ArloesiAber yn Cefnogi Sectorau Allweddol Trwy Waith Bio-Arloesi sy'n Arwain yn Fyd-eang

AberInnovation
Rhagfyr 23, 2025
Rydym ni, yn ArloesiAber, yn darparu'r lle, y bobl a'r llwyfan sydd eu hangen ar eich cwmni i arloesi yn hyderus. Ein nod yw helpu busnesau i drosi ymchwil a gwybodaeth dechnegol yn brofion cysyniad dilys, i gyflymu’r broses o ddatblygu eu cynnyrch, ac i symud yn gyflym tuag at fasnacheiddio. P'un a ydych chi'n fusnes newydd yn ei gyfnod cynnar neu'n gwmni ar ei gynnydd sy'n paratoi i ymuno â’r farchnad, mae ArloesiAber yn cynnig y seilwaith, yr arbenigedd a'r ecosystem arloesi sydd eu hangen arnoch i dyfu eich eiddo deallusol a chryfhau eich cynnyrch neu broses.

Yn cyd-fynd â Strategaeth Ddiwydiannol Fodern Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru 

Mae ein gwaith yn cyfateb yn uniongyrchol i genhadaeth allweddol o fewn strategaeth ddiwydiannol fodern Llywodraeth y DU.  Mae'r berthynas gyfatebol hon yn golygu bod cwmnïau sy'n gweithio gyda ni yn aml mewn sefyllfa dda i gael cyllid arloesi cenedlaethol a rhanbarthol, gan gynnwys cefnogaeth gan Innovate UK a rhaglenni Arloesi Hyblyg SMART Llywodraeth Cymru.

Drwy ymgorffori'ch gweithgareddau Ymchwil a Datblygu o fewn canolfan arloesi sy’n cyd-fynd â strategaeth genedlaethol, rydych chi'n cryfhau safle strategol eich prosiect a’r potensial i’w ariannu.

Yn Cefnogi Ystod Eang o Fio-ddatrysiadau 

Trwy ein cyfleusterau arbenigol a’n timau o arbenigwyr technegol, hefyd mynediad at arbennigwyr academaidd Prifysgol Aberystwyth ac IBERS, mae gwaith ArloesiAber yn cwmpasu portffolio eang iawn o fio-ddatrysiadau gan gynnwys:

  • Biotechnoleg
  • Prosesu a fformiwleiddio cemegol
  • Peirianneg a’r gwyddorau ffisegol
  • Bioleg ddigidol sy'n cael ei yrru gan ddata

Mae'r gallu amlddisgyblaethol hwn yn gwneud ArloesiAber yn lle dibynadwy i gynnull popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer arloesi llwyddiannus, o arbenigedd technegol a gwasanaethau dadansoddol i brototeipio, profion ar raddfa beilot, a dilysu cynnyrch.

Y Sectorau Allweddol Rydyn ni'n eu Gwasanaethu 

Bwyd a Maeth

Mae ArloesiAber yn cefnogi busnesau ar draws y sector bwyd, o ddatblygu bwyd a chynhwysion newydd i ddiogelwch bwyd, maeth a chymwysiadau ym maes iechyd.  Mae’r cwmnïau sy'n gweithio yn y meysydd hyn yn elwa o'n labordai sydd o safon uwch, ystafelloedd prosesu, a chysylltiadau ag arbenigedd academaidd.

Yr Economi Gylchol 

Rydym yn cymryd rhan ganolog yn yr economi gylchol, gan helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau cynaliadwy, gwastraff isel, a bioseiliedig.  Mae hyn yn cynnwys pennu gwerth sgil-gynhyrchion a thechnolegau lleihau gwastraff.

Gweithgynhyrchu Uwch a Gwyddorau Bywyd

Mae systemau bwyd yn ogystal â’r economi gylchol yn gorwedd o fewn cenhadaeth gweithgynhyrchu uwch y strategaeth ddiwydiannol, ac mae ein gwaith ni ym maes maeth ac iechyd hefyd yn cyfrannu'n uniongyrchol at genhadaeth y gwyddorau bywyd.  Gall cwmnïau sy'n gweithredu yn y meysydd hyn fanteisio ar ein cyfleusterau i wella perfformiad cynnyrch, dilysu technolegau newydd, a chasglu tystiolaeth er mwyn cael troedle yn y farchnad.

Ecosystem Arloesi Ddibynadwy 

Os oes un peth a all wneud gwahaniaeth pendant i’ch taith datblygu cynnyrch, efallai y dewch o hyd iddo yn ArloesiAber.  Rydym yn gweithio'n agos gyda chwmnïau i:

  • helpu i ddylunio'r manylebau cywir o'r cychwyn cyntaf a chyflawni manylebau
  • dilysu perfformiad trwy brofi dan reolaeth
  • creu pwyntiau prawf sy'n cryfhau hyder buddsoddwyr a chwsmeriaid

Mae ein seilwaith arloesi wedi'i adeiladu i gefnogi pob cam o'r daith, o’r syniadau cynnar i gynhyrchu peilot a pharodrwydd masnachol.

Gweithiwch Gyda Ni a Chyflymu'ch Cynnydd 

Os yw'ch busnes yn datblygu cynnyrch, technoleg neu broses fio-seiliedig, ArloesiAber yw’r lle i droi uchelgais yn ganlyniadau.  Gan ein bod yn cyd-fynd â chenhadaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU gall hyn olygu bod eich gwaith mewn sefyllfa ddelfrydol ar gyfer cael cymorth arloesi cenedlaethol a rhanbarthol.

Cysylltwch â ni heddiw i ddarganfod sut y gall ein cyfleusterau, ein harbenigedd a'n rhwydweithiau eich helpu i ddatblygu’ch arloesedd ymhellach, ac yn gyflymach!