IMG 1819

O Gysyniad i Effaith: Mae Pedwerydd Rownd Rhaglen Cyflymu Ymchwil a Datblygu Solutions Catalyst yn Dod i Ben

AberInnovation
Rhagfyr 10, 2025
Mae arloesedd yn ffynnu pan fydd syniadau, arbenigedd ac heriau’r byd go iawn yn dod ynghyd, ac yn ArloesiAber, dyna’n union yw nod y Rhaglen ‘Solutions Catalyst’, a gefnogir gan UKRI-BBSRC. Wrth i’r bedwaredd rownd ddod i ben, mae’r rhaglen yn parhau i rymuso cwmnïau blaengar ar draws y sectorau bwyd a diod, biotechnoleg, technoleg amaeth a’r economi gylchol, gan ddarparu’r offer sydd eu hangen arnynt i dyfu ymhellach.

Fel rhan o'n rhaglen, mae pob busnes sy'n cymryd rhan yn derbyn pecyn o gymorth gwerth hyd at £30,000, sy’n cynnwys:

  • Ymgynghori academaidd wedi’i deilwra
  • Mynediad at gyfleusterau o'r radd flaenaf ac arbenigedd technegol
  • Deunyddiau Traul ar gyfer Ymchwil a Datblygu
  • Gweithdai arbenigol a chyfleoedd i gydweithredu
  • Cysylltiadau allweddol â’r ecosystem ehangach ar draws campysau UKRI

Mae Rownd 4 yn dod ag amrywiaeth ryfeddol o arloeswyr ynghyd sy’n mynd i’r afael â rhai o heriau cynaliadwyedd mwyaf ein hoes, o lygredd plastig a gwastraff bwyd i iechyd y perfedd a chynhwysion carbon isel. Dyma olwg fanylach ar y cwmnïau arloesol a gafodd eu cefnogi yn y bedwaredd garfan, a sut y bydd ArloesiAber yn eu cefnogi i gyrraedd y farchnad yn gynt.

LanoTech - Troi Gwlân yn Fwyd Anifeiliaid sy'n Gyfeillgar i'r Blaned

Mae gwlân defaid ymhlith un o’r sgil-gynhyrchion sy’n cael eu tanbrisio fwyaf yn niwydiant ffermio Prydain, ond mae LanoTech yn rhoi pwrpas newydd sbon iddo. Mae’r cwmni’n datblygu pelenni bwyd anifeiliaid sydd wedi’u gwneud o wlân-olew (lanolin), gan gynnig dewis amgen cynaliadwy o’r DU yn lle olewau soi ac olewau llysiau wedi’u mewnforio.

Trwy'r Rhaglen Solutions Catalyst, mae LanoTech weidi gweithio gydag arbenigwyr ArloesiAber i fireinio’r fformwleiddiadau a phrofi eu perfformiad, gan helpu ffermydd i leihau eu dibyniaeth ar gadwyni cyflenwi byd-eang wrth helpu i gryfhau’r economi gylchol yn lleol.

PlantSea – Ffilmiau Gwymon i ddisodli plastig mewn cynhyrchion bob dydd

Wrth i ddiwydiannau chwilio am ddeunyddiau mwy gwyrdd, mae PlantSea ar flaen y gad gyda ffilmiau hydawdd, di-blastig, wedi’u gwneud o wymon, a gynlluniwyd i ddisodli alcohol polyfinyl (PVOH) mewn cynhyrchion golchi dillad a glanhau. Gallai eu dull biobrosesu chwyldroi sut rydym yn pecynnu ac yn hydoddi deunyddiau glanhau.

Mae cefnogaeth ArloesiAber wedi helpu i ddilysu ac ehangu eu technoleg biobrosesu, gan sicrhau y gall fodloni gofynion gweithgynhyrchu diwydiannol ar raddfa fawr — cam mawr tuag at gael gwared ar blastigau sy’n deillio o danwydd ffosil yn ein cartrefi.

Smith & Goode Foods – Bwyd Cyfleus gyda lefel uchel o Ffibr ar gyfer Cenhedlaeth Newydd 

Mae cyfraddau canser y colon a'r rhefr yn cynyddu ymhlith oedolion ifanc, ac mae diffyg ffibr yn gyfrannwr allweddol. Mae Smith & Goode Foods yn mynd i'r afael â hyn trwy greu bwydydd cyfleus gyda lefel uchel o ffibr wedi’u teilwra i genhedlaeth Z, ac mae’r blas a’r gwead wedi’u cynllunio i gystadlu â'r bwydydd sothach sy'n dominyddu'r farchnad ar hyn o bryd.

Gyda chefnogaeth arbenigwyr prosesu bwyd ArloesiAber ac adnoddau ymchwil a datblygu, mae Smith & Goode yn mireinio prototeipiau ac yn profi cynhyrchion sy’n barod i’r defnyddwyr, gan wneud bwyta sy’n iach i’r perfedd yn wirioneddol ddeniadol, hygyrch a phleserus.

Sun Bear Biofuture – Olewau wedi’u Heplesu’n Fanwl gydag Ôl Troed Carbon 90% yn Llai

Mae'r system fwyd fyd-eang yn dibynnu'n helaeth ar olewau trofannol fel olew palmwydd a menyn coco, ond mae’r cadwyni cyflenwi hyn yn cyfrannu’n sylweddol at ddatgoedwigo ac allyriadau carbon. Mae Sun Bear Biofuture yn datblygu dewisiadau amgen trwy eplesu manwl sy’n efelychu’r olewau hyn heb yr effaith amgylcheddol.

Gan ddefnyddio cyfleuster eplesu peilot a chyfleusterau prosesu ymhellach i lawr y gadwyn yn ArloesiAber, mae'r cwmni'n gwneud ei brosesau echdynnu mor effeithiol ag y bo modd, ac yn cynyddu faint o olewau tebyg i fenyn coco, olew palmwydd ac olew Melior y bydd yn eu cynhyrchu. Mae eu technoleg yn gallu lleihau allyriadau CO₂ o fwy na 90%, gan osod safon newydd ar gyfer cynhwysion cynaliadwy.

Thomas Bentley – Cyflwyno Darnau Cig Oen Llai Cyfarwydd i’r Fwydlen Fodern

Mae'r "5ed Chwarter" - sef yr offal a'r rhannau o gig oen sy’n cael eu defnyddio’n llai aml - wedi cael ei anwybyddu ers tro byd yn niwylliant bwyd y DU. Nod Thomas Bentley Ltd yw newid hynny drwy ddatblygu cynhyrchion newydd sy’n hawdd i ddefnyddwyr eu mwynhau, gan wneud gwell defnydd o’r darnau maethlon a chynaliadwy hyn.

Gan gydweithio ag ArloesiAber ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Thomas Bentley yn gwella blas, gwead a blasusrwydd, gan helpu'r farchnad ddomestig i groesawu cynhyrchion cig oen o ansawdd uchel sy'n lleihau gwastraff ac yn cynyddu gwerth y carcas.

YPC Feeds - Silweirio a Eplesu Gwastraff Pysgod – Trawsnewid Sgil-gynhyrchion Morol yn Gynhwysion Porthiant Gwerth Uchel

Mewn ymgais i ddatgloi cyfleoedd economi gylchol newydd o fewn y diwydiant porthiant anifeiliaid, ymchwiliodd y prosiect archwiliadol hwn i sut y gellir trosi gwastraff pysgod - un o sgil-gynhyrchion mwyaf tan-ddefnyddiol y sector morol - yn ddeunydd porthiant gwerth ychwanegol.

Canolbwyntiodd yr ymchwil ar ddefnyddio amrywiaeth o asidau i silweirio gwastraff pysgod.Gyda harbenigedd technegol a galluoedd dadansoddol AberInnovation, roedd y gwaith hwn yn gallu pennu a ellir ailddefnyddio deunyddiau tan-ddefnyddiol i wella cynaliadwyedd, cylchredoldeb a chost-effeithlonrwydd prosesu gwastraff pysgod.

Mae Porthiant YPC bellach yn gweithio gyda grŵp Clwstwr Cefnfor yr Alban i ddechrau trosi'r ymchwil hon yn realiti ymarferol.

Ysgogi Effaith Gynaliadwy Trwy Gydweithredu

Mae Rownd 4 y Rhaglen Solutions Catalyst yn dangos yn union beth sy’n digwydd pan fydd arloesedd a chefnogaeth yn dod ynghyd: mae syniadau mentrus yn troi’n brototeipiau y gellir eu profi; mae adnoddau sy’n aml yn cael eu hanwybyddu yn cael gwerth newydd; ac mae busnesau yn cael eu grymuso i wthio ffiniau cynaliadwyedd.

Mae'r cwmnïau hyn yn cynrychioli'r don nesaf o ddyfeisgarwch y DU, ac mae ArloesiAber yn falch o’u helpu i gyrraedd y farchnad yn gynt.

Eisiau cymryd rhan yn un o rowndiau’r Rhaglen Solutions Catalyst yn y dyfodol?

Cadwch mewn cysylltiad ag ArloesiAber i glywed am y cyfleoedd sydd ar y gweill a chael gwybod sut y gallai eich busnes elwa o gyfleusterau o’r radd flaenaf, cydweithredu arbenigol a chyllid a ysgogir gan arloesedd.

Cymerwch lwc ar ein Hyb Datblygu ar gyfer rhaglenni eraill. 

Cymerwch lwc ar ein cyfleusterau ymchwil.