IMG 5604

Ailddyfeisio yw Dyfodol Arloesi â Bwyd

AberInnovation
Ebrill 30, 2026

Yn ArloesiAber, rydym yn gweld newid pendant o ran sut mae cwmnïau biotechnoleg a bwyd-amaeth uchelgeisiol yn ymdrin â gwaith ymchwil a datblygu.

Nid ydynt yn canolbwyntio bellach ar fynd ar drywydd yr un peth newydd nesaf sy’n mynd i drawsnewid pethau. Yn hytrach, mae gwaith arloesi yn dod yn fwy pwrpasol, yn fwy integredig, yn canolbwyntio ar beiriannu mewn modd clyfrach, iachach, gyda gwerth mwy cynaliadwy ym mhob rhan o’r system fwyd.

O fentrau newydd i sefydliadau byd-eang, mae'r cwestiwn wedi esblygu:
Sut allwn ni ddatgloi mwy o werth o'r hyn sydd gennym eisoes, a gwneud hynny’n well, yn gyflym ac yn fwy cynaliadwy?

IMG 2066

Prosesu Uwch: Lle mae Gwyddoniaeth yn Creu Manteision

Mae technolegau prosesu uwch yn symud o alluoedd arbenigol i anghenraid strategol.

Erbyn hyn nid yw technegau fel sychu drwy chwistrellu, sychu gwelyau llifol, mewngapsiwleiddio, a homogeneiddio pwysedd-uchel wedi'u cyfyngu i dimau technegol; maent bellach yn helpu â chanlyniadau masnachol.

Pam maen nhw'n cael eu defnyddio’n fwy eang? Oherwydd eu bod yn galluogi, yn uniongyrchol, yr hyn sydd bwysicaf yn y farchnad heddiw:

  • Cynnyrch mwy sefydlog ac oes silff hirach
  • Gwelliannau i gyflenwi maetholion a bioargaeledd
  • Fformatau newydd sy'n cyd-fynd â disgwyliadau’r cwsmer modern

Un o'r newidiadau mwyaf trawiadol yw’r adeg, yn ystod y prosesau, pan ddefnyddir y technolegau hyn. Erbyn hyn mae systemau powdr, daliannau, a chydgrynoadau yn cael eu hystyried yn llawer cynt wrth ddatblygu cynnyrch newydd.

Drwy gynnwys technoleg yn gynt fe gyflymir cylchoedd datblygu ac fe alluogir dulliau sy’n gallu cael eu hehangu’n haws - yn enwedig yn y categorïau maethol-fferyllol a bwydydd gweithredol.

IMG 1666

Eplesu yn Dod i Ganol y Llwyfan

Os oes un maes sy’n cyflymu’n gynt na’r gweddill, eplesu yw hwnnw.

Ond mae ei swyddogaethau wedi ehangu ymhell y tu hwnt i’r defnydd traddodiadol. Rydym yn gweld datblygiadau cyflym yn y meysydd hyn:

  • Datblygiadau diweddaraf prosesu proteinau sy’n deillio o blanhigion
  • Arloesi â profiotigau ac iechyd y perfedd
  • Systemau cynhyrchu microbaidd newydd

Mae eplesu yn dod i'r amlwg fel technoleg llwyfan go iawn, yn pontio proteinau amgen, iechyd dynol, a gweithgynhyrchu isel ei effaith. Ei hyblygrwydd yw’r prif gryfder: mae’r un prosesau sylfaenol yn gallu datgloi gwerth ar draws sawl categori o gynnyrch, sy’n golygu ei fod yn rymus o ran galluogi arloesi yn ogystal ag effeithlonrwydd.

IMG 1959

O Wastraff i Adnoddau: Cynnydd Bioburo

Erbyn hyn, nid uchelgais ar gyfer cynaliadwyedd yw ‘cylcholrwydd’; yn hytrach mae bellach yn dod yn egwyddor greiddiol o ddylunio.

Ar draws y sector, mae ffocws cynyddol ar bioburo porthiant amrywiol, gan gynnwys:

  • Glaswelltiroedd Prydain
  • Algâu a biomas arfordirol
  • Sgil-gynhyrchion gweithgynhyrchu bwyd

Mae’r nod yn glir: echdynnu’r gwerth llawn, gan droi mewnbynnau sengl yn allbynnau lluosog uchel eu gwerth.

Mae hyn yn adlewyrchu symudiad mwy sylweddol tuag at syniadaeth systemau, lle mae ffrydiau gwastraff yn cael eu hailddiffinio fel llwybrau arloesi ac mae effeithlonrwydd adnoddau yn dod yn rhywbeth sy’n rhoi mantais gystadleuol. Yn AloesiAber mae gennym gefnogaeth arbenigol drwy ein cyswllt â rhagoriaeth academaidd gydweithredol yn IBERS yn y fioburfa.

Iechyd sy’n Angori Arloesi - Profiad sy’n Gyrru Llwyddiant

Mae iechyd a maeth yn dal i chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu cynnyrch, ond mae'r disgwyliadau wedi esblygu.

Mae cwmnïau'n buddsoddi'n ddyfnach mewn:

  • Proffilio maeth a dadansoddiad metabolynnau
  • Dilysu cyfansoddion bioactif
  • Datblygu cynnyrch gweithredol ar draws meysydd diodydd, cynnyrch llaeth, melysion, ac atchwanegion

Ar yr un pryd, mae un gwirionedd sylfaenol yn wir o hyd; os nad yw'n blasu'n dda, ni fydd yn cael ei ddatblygu. Dyma pam mae gwyddoniaeth synhwyraidd a phrofion â darpar gwsmeriaid yn chwarae rhan fwyfwy hanfodol, gan sicrhau bod datblygiadau technegol yn cael eu trosi’n gynnyrch masnachol llwyddiannus, nid cysyniadau dichonol yn unig.

20210622 3686 HDR

Arloesi trwy Newydd-deb ac Optimeiddio

Efallai mai'r agwedd athronyddol yw’r newid pwysicaf.

Mae’n wir bod symudiadau sylweddol mewn meysydd sy’n datblygu megis cynhwysion sy'n deillio o ffyngau, amaethyddiaeth adfywiol, a phroteinau amgen. Ond, er hynny, yn yr un modd, rydym yn gweld sylw o'r newydd ar wella'r hyn sy'n bodoli eisoes:

  • Optimeiddio cynnyrch llaeth
  • Ansawdd cig ac estyn oes silff
  • Gwella cnydau a gwella blas

Erbyn hyn, nid yw arloesi yn cael ei ddiffinio gan yr hyn sy'n newydd yn unig, ond hefyd gan ba mor effeithiol y gall y farchnad wella, addasu ac ehangu’r systemau presennol.

Dylunio System Fwyd Wytnach 

Yr hyn sy'n dod i'r amlwg yw bod cyfeiriad clir i’r newidiadau:

  • Mae arloesi’n cael ei ymgorffori’n fwy ar draws biotechnoleg, gwyddor bwyd, a chynaliadwyedd
  • Mae creu gwerth yn symud i gamau cynharach, i mewn i brosesu, llunio a strategaeth porthiant
  • Mae gwytnwch yn cael ei gynllunio’n rhan annatod o’r system trwy arallgyfeirio, cylcholrwydd, ac arloesi a arweinir gan ystyriaethau iechyd

Yn ArloesiAber, mae ein gwaith yn adlewyrchu'r cydbwysedd hwnnw, drwy gefnogi arloesi o’r newydd yn ogystal ag atgyfnerthu sylfeini'r systemau bwyd presennol.