ArloesiAber yn lansio cystadleuaeth tocyn ymchwil a datblygu ar gyfer y diwydiant

11/10/2022
Teleri Davies

Mae ArloesiAber wedi lansio rhaglen newydd o gymorth i ddiwydiant, wedi'i hariannu gan Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI) – Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC).

Bydd rhaglen ‘Solutions Catalyst’, sef cystadleuaeth dalebau i sbarduno arloesedd a chysylltu’r diwydiant â rhwydwaith ehangach campysau UKRI, yn cynnig pecyn o gymorth, gan gynnwys gallu defnyddio adnoddau datblygiad Campws ArloesiAber, sy’n werth £40.5 miliwn, cyfarpar blaengar a chymorth technegol, ynghyd ag arbenigedd ymgynghorol Prifysgol Aberystwyth.

Gall cwmnïau o bob maint yn y Deyrnas Unedig, yn y sectorau bwyd a diod, biotechnoleg, yr economi gylchol a thechnoleg amaeth, gyflwyno cais ar ffurf prosiect ymchwil a datblygu arfaethedig er mwyn cael taleb gwerth hyd at £30,000.

Mae ArloesiAber yn cynnwys Canolfan Bwyd y Dyfodol, Uwch Ganolfan Ddadansoddi a Chanolfan Bioburo ac mae’n cynnig adnoddau arloesi di-dor o ddechrau hyd ddiwedd y gwaith, o gloriannu deunyddiau bwyd a biomas i’w prosesu, eu pecynnu, eu profi, eu dadansoddi a’u storio, a’r cyfan o dan yr unto.

Yn ôl Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber, "Mae Solutions Catalyst yn gyfle i gwmnïau arloesol dynnu rhywfaint o’r risg o’u gwaith ymchwil a datblygu. Gyda chefnogaeth UKRI gallwn gynnig ein hadnoddau newydd i'r cwmnïau uchelgeisiol hynny sydd eisiau rhoi cynnig ar gysyniadau newydd cyffrous sydd ar flaen y gad o ran diogelwch bwyd a gweithredu ar newid hinsawdd. Rwy'n falch ein bod yn gallu cynnig ein harbenigedd academaidd ar yr un pryd, ac edrychaf ymlaen at weld y prosiectau sy'n cael eu cyflwyno."

Y cwmnïau llwyddiannus fydd y rhai sy'n gallu dangos yr angen am y gwaith ymchwil a datblygu yn y farchnad ac sydd hefyd yn gallu dangos ffordd ddichonadwy o greu cyfleoedd busnes newydd.

Bydd y rhaglen yn cynorthwyo sefydliadau i gael gafael ar adnoddau perthnasol a phrin, gyda phrosiectau ymchwil a datblygu yn dechrau ym mis Rhagfyr 2022 ac yn dod i ben ym mis Mawrth 2023.

Mae ArloesiAber yn un o bum Campws Ymchwil ac Arloesedd yn y Deyrnas Unedig, â’r campysau’n gysylltiedig â saith sefydliad sy'n cael cyllid strategol gan y BBSRC. Mae pob campws yn canolbwyntio ar wahanol agwedd ar y biowyddorau, mae ganddynt adnoddau blaenllaw unigryw ac maent yn cynnig ystod amrywiol o gefnogaeth.

Mae Cymru ar flaen y gad o ran arloesi yn y biowyddorau ym Mhrydain ar hyn o bryd. Mae gan ArloesiAber gysylltiadau ag arbenigedd ac ymchwil o safon fyd-eang ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn y BBSRC, ynghyd â chymuned gynyddol o arloeswyr, ac felly mae’n amgylchedd addas lle gall diwydiant a’r byd academaidd gydweithio a ffynnu.

Dywedodd Adam Bowen, Pennaeth Gallu Cyfieithu ac Arloesi yn BBSRC “Mae UKRI-BBSRC yn falch o allu cefnogi’r Solutions Catalyst trwy ei Gyfrifon Cyflymu Effaith Campws, a fydd yn gyrru cysylltedd ar draws Campws ArloesiAber. Bydd y rhaglen hon yn galluogi cwmnïau arloesol i gael mynediad at yr ymchwil, y gallu a’r seilwaith o’r radd flaenaf yn ArloesiAber ac ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gynnwys BBSRC. Rwy’n edrych ymlaen at weld pa brosiectau arloesol sy’n cael eu cefnogi drwy’r rhaglen hon.”