Cyllido eich Busnes yng Nghymru

Ni fu erioed amser gwell i sefydlu'ch busnes yng Nghymru. Nid yn unig y gallwch chi fwynhau'r holl fuddion o fyw mewn lle mor brydferth, ond mae yna hefyd lu o opsiynau cyllido i helpu'ch busnes i ddechrau ac i lwyddo.

Cyllid Ymchwil ac Arloesi

SMART Cymru

Mae SMART Cymru yn cefnogi busnesau Cymreig i ddatblygu, gweithredu a masnacheiddio cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd.

Hyd yn hyn maent wedi cefnogi dros 400 o brosiectau, gan greu ac adeiladu ar allu busnesau Cymru i arloesi.

Os oes gennych syniad am gynnyrch, proses neu wasanaeth newydd a fydd yn helpu eich busnes i ffynnu, mae SMART Innovation yn cynnig cyngor ac ymgynghoriaeth arbenigol i fusnesau yng Nghymru trwy ei dîm o Arbenigwyr Arloesi.

Ymchwil ac Arloesedd y DU

Mae Ymchwil ac Arloesedd y DU yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd cyllido i alluogi unigolion a grwpiau i ddilyn ymchwil ac arloesedd o'r radd flaenaf.

Os ydych chi'n ystyried galwad cyllid Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), peidiwch ac oedi cyn cysylltu â thîm ArloesiAber i drafod sut y gallwn eich cefnogi yn eich cais.

Arbenigedd Cymru

Mae Arbenigedd Cymru yn fenter Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), ac fe'i cynlluniwyd i'ch helpu i ddarganfod cyfleoedd ar gyfer cydweithredu.

Mae'n galluogi defnyddwyr i nodi a hyrwyddo heriau a galluoedd y diwydiant. Mae hefyd yn hyrwyddo'r arbenigedd sy'n bodoli yn y byd academaidd yng Nghymru.

Buddsoddwyr

Banc Datblygu Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig pecynnau ariannol teilwredig sy'n addas i'ch anghenion busnes. Gall y rhain fod ar ffurf benthyciadau i fusnesau bach (benthyciadau meicro), benthyciadau busnes mawr (£50,000+), buddsoddiad ecwiti, cyllid cyfnod cynnar a/neu fenthyciadau datblygu eiddo.

Angylion Buddsoddi Cymru

Mae Angylion Buddsoddi Cymru yn cynnig platfform buddsoddi ar-lein i gysylltu unigolion a buddsoddwyr gwerth net uchel â chyfleoedd cyffrous a chynigion busnes graddadwy.

Maent hefyd yn rheoli Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru gwerth £8m ar gyfer syndicetiau buddsoddwyr sy'n ceisio cyd-fuddsoddi mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Deepbridge Capital

Mae Deepbridge yn arbenigwyr twf yn y sectorau technoleg, gwyddorau bywyd ac ynni adnewyddadwy.

O'r cam cyntaf, trwy fasnacheiddio a chyllid twf, nod Deepbridge yw gweithio gyda chwmnïau mewnfuddsoddi trwy gydol eu taith ariannu er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cyfle gorau un i lwyddo.

Grantiau Busnes

Gall grantiau fod ar gael mewn rhanbarthau penodol neu eu cynnig ledled y wlad. Cliciwch yma i gael tabl o grantiau rhanbarthol sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, ynghyd â thelerau ac amodau pob grant.

Ar lefel genedlaethol, dyma offeryn gwych i ddarganfod beth sydd ar gael i chi a'ch busnes, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

Cefnogi Trydydd Sector Cymru

Os yw'ch cwmni yn y trydydd sector, defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i chwilio cannoedd o gyfleoedd cyllid grant a benthyciad o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. O grantiau bach i brosiectau cyfalaf mawr, gall Cefnogi Trydydd Sector Cymru eich helpu i ddod o hyd i'r cyllid sydd ei angen arnoch.