Cyngor Ymchwil Gwyddonol Biolegol a Bio-dechnoleg


Cyngor Ymchwil Gwyddonol Biolegol a Bio-dechnoleg

Mae’r Cyngor Ymchwil Gwyddonol Biolegol a Biotechnoleg yn rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU, corff newydd sy’n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion, sefydliadau ymchwil, busnesau, elusennau, a’r llywodraeth i greu’r amgylchedd gorau posibl i ymchwil ac arloesi ffynnu. Eu nod yw gwneud y mwyaf o gyfraniad pob un o'n cydrannau, gan weithio'n unigol ac ar y cyd. Maent yn gweithio gyda'n partneriaid niferus er budd pawb trwy wybodaeth, talent a syniadau.

Buddsoddodd BBSRC £498 miliwn mewn biowyddoniaeth o safon fyd-eang yn 2017-18, ac mae’n cefnogi tua 1,600 o wyddonwyr a 2,000 o fyfyrwyr ymchwil mewn prifysgolion a sefydliadau ledled y DU.

Mae ArloesiAber yn Gampws Ymchwil ac Arloesi y DU. Mae'r campysau hyn yn rhan hanfodol o ecosystem arloesi'r DU. Mae pob campws wedi’i ganoli ar fàs critigol o fiowyddoniaeth o’r radd flaenaf, a gefnogir yn strategol gan BBSRC, gan ddarparu amgylchedd unigryw lle gall cwmnïau biowyddoniaeth newydd yn cael mynediad i gyfleusterau arbenigol a chyfnewid syniadau ag ymchwilwyr blaenllaw, gan greu amgylchedd risg isel ar gyfer arloesi risg uchel. 

Dilynwch ni