Launchpad-logo-l-colour.png

CYFRES HER LAUNCH PAD Y CANOLBARTH - (AR GAU)

Beth yw Cyfres Her Launchpad Y Canolbarth? 

Mae Cyfres Her Launchpad y Canolbarth yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU, a yrrir gan Ffyniant Bro, gyda’r nod o ddatblygu atebion newydd i faterion sector cyhoeddus a chymdeithasol trwy ymchwil ac arloesi tra’n cynnig cyfleoedd marchnad newydd i fusnesau a phobl y Canolbarth. Mae prosiectau'n cael eu hariannu 100% i gymryd rhan mewn ymchwil a datblygu, yn canolbwyntio ar anghenion penodol a nodwyd ac yn agored i bob sefydliad a all ddangos llwybr i'r farchnad ar gyfer eu datrysiad.

Bydd y rhaglen yn galluogi busnesau i ddadansoddi a gwerthuso potensial cysyniadau a syniadau ar gyfer eu defnyddio yn y pen draw gan y sector cyhoeddus, gan wneud hyn drwy gydweithio â’r byd academaidd ac arweinyddiaeth ranbarthol i annog llwyddiant a thwf. Trwy fodel cydweithio, bydd yn cynnig arbenigedd ac adnoddau i gyflymu datblygiad busnesau arloesol ac i gyflymu twf drwy arloesi sydd ag effaith uchel. Bydd y rhaglen newydd hon yn cynnwys rhanddeiliaid o’r sectorau cyhoeddus, preifat ac academaidd yn nodi ac yn dethol y materion cymdeithasol, rhanbarthol mwyaf dybryd sydd angen atebion ac yna yn cydweithio i gefnogi busnesau i ddatblygu atebion i’r broblem a nodwyd. Bydd hyn yn cynnwys cymorth wedi’i deilwra a’r potensial i ddefnyddio asedau cyfalaf a thechnoleg unigryw y rhanbarth i gefnogi busnesau i ddatblygu atebion newydd. Bydd heriau’r Launch Pad yn cynnig cyfleoedd rhagorol i fusnesau ddatblygu ac arddangos technoleg i ystod o randdeiliaid o fewn y bartneriaeth a allai fod yn ddarpar gwsmeriaid.

Bydd unigolion yn cael cynnig cyfleoedd i weithio ochr yn ochr â busnesau llwyddiannus yn ymgymryd â phrosiectau ar Lefelau Parodrwydd Technegol 3 – 4 i ennill sgiliau a gwybodaeth newydd trwy gydol y prosiect. Bydd busnesau’n gosod tasgau ac yn cynnig cyfleoedd cysgodi i unigolion i ysgogi syniadau newydd a meithrin hyder yn ystod y rhaglen. Drwy’r dull hwn, bydd busnesau yn elwa o gael adnodd ychwanegol, gwell sgiliau a dealltwriaeth o sut i gyflogi staff newydd. Mae unigolion yn elwa drwy ddatblygu sgiliau newydd i gefnogi eu gyrfaoedd, meithrin perthynas â chyflogwyr posibl i’r hirdymor, a gwella’r siawns o gael cyflogaeth gynaliadwy.

Bwriad Heriau’r Launchpad yw mynd i’r afael â meysydd craidd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i helpu i adnewyddu ein cymunedau ac adeiladu economi fwy cynhyrchiol a ffyniannus yn y Canolbarth.

AMCANION YR HER

  • Mynd i’r afael â’r materion mwyaf brys yn gymdeithasol ac yn y sector cyhoeddus yn y Canolbarth a’n cymunedau gwledig drwy greu atebion arloesol.
  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i fusnesau wrth ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, er mwyn cyflymu twf drwy gynyddu arloesedd a llwybr at ddatblygu’r farchnad.
  • Cefnogi datblygiad ecosystem a llwyfan arloesi i gefnogi enillion cynhyrchiant, twf cynaliadwy a buddion economaidd i ranbarth Canolbarth Cymru.
  • Rhoi cyfleoedd i’n cymunedau ddatblygu sgiliau newydd mewn meysydd arloesi er mwyn mynd i’r afael â’r bylchau mewn sgiliau a dileu unrhyw rwystrau i dwf.
  • Mynd i’r afael â meysydd craidd Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, o ran hybu arloesedd mewn meysydd fel iechyd, cynaliadwyedd ac amgylcheddol drwy ymgysylltu cydweithredol.

 

YR HER BENODOL

Cyfres Her Launch Pad Rownd 2: Her Iechyd a Lles Gwledig

Nod: Nodi atebion arloesol i wella iechyd a lles gwledig sy'n cyd-fynd â Chynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2022-2028 a strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda "Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach."

Mae’r her hon yn cynnig cyfleoedd i fusnesau ddatblygu atebion arloesol i hybu iechyd a lles gwledig a chyfrannu at ddatblygu ecosystem arloesi a all gefnogi twf a buddion economaidd i ranbarth Canolbarth Cymru. Mae arloesi a newid technoleg yn chwarae rhan allweddol mewn enillion cynhyrchiant a bydd angen i fusnesau ddangos sut mae eu datrysiad arloesol yn cefnogi twf busnes diriaethol. Bydd angen i fusnesau fynd i'r afael ag un o'r is-themâu a amlygir isod, mae mwy o fanylion am y themâu yn y dogfennau cystadleuaeth. 

Heneiddio'n dda a hybu lles

Mae hyrwyddo system lles yn cynnwys pob rhan o fywyd sy'n effeithio ar ein hiechyd a'n lles. Mae hyn yn adeiladu ar y cysyniad o 'fodel cymdeithasol ar gyfer iechyd' ac yn symud y pwyslais o ofal sy'n canolbwyntio ar ysbytai i ddull mwy cyfannol sy'n canolbwyntio ar les ac atal. Gyda llai o bobl 25-44 oed a mwy o bobl 55-79 oed nag unrhyw le arall yng Nghymru, mae anghenion unigryw i gefnogi ein poblogaeth sy’n heneiddio a chenedlaethau’r dyfodol yn nalgylch BIP Hywel Dda.

A allai dulliau arloesol annog ymarfer corff mewn pobl hŷn? A allai gwell bwyd a maeth hybu lles? A allai technoleg fynd i'r afael ag arwahanrwydd gwledig a gwella iechyd?

Ffermio a chynhyrchu cynradd i hybu cnwd

Mae amaethyddiaeth yn bwysig i economi Ceredigion ac i iechyd a lles trigolion. Gall amaethyddiaeth helpu i leihau tlodi, codi incwm a gwella sicrwydd bwyd. Fodd bynnag, mae pwysau cynyddol yn sgil newid yn yr hinsawdd a cholledion bwyd wrth gynhyrchu bwyd sylfaenol. Mae effeithiau cyfunol twf economaidd araf, costau byw ac effeithiau economaidd-gymdeithasol Brexit a Covid-19, hefyd wedi cyfrannu at ansicrwydd bwyd ac wedi’i gwneud yn anoddach i bobl gael gafael ar y bwydydd sydd eu hangen arnynt i gynnal iechyd da.

A all technoleg newydd helpu i ragweld patrymau tywydd i gynyddu cynnyrch ac atal colledion? A allai dulliau newydd o reoli cadwyn oer a seilwaith atal difetha neu ddiraddio yn ystod storio? A all arferion ffermio cynaliadwy arloesol gynyddu cynnyrch yn lleol?

Diogelu ein dyfrffyrdd a’n hardaloedd arfordirol

Mae'r amgylchedd yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd a lles ac mae amddiffyn ein dyfrffyrdd a'n hardaloedd arfordirol yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal iechyd. Mae ein dyfrffyrdd yn wynebu heriau lluosog, o gyrsiau dŵr llygredig i ddigwyddiadau llifogydd a waethygir gan newid yn yr hinsawdd. Gall ffosfforws a nitrogen yn ein dyfrffyrdd fod yn niweidiol i ecosystemau ac iechyd pobl, ac yn gostus i'r economi. Mae maetholion yn tarddu o nifer o ffynonellau, ac mae deall o ble mae maetholion yn dod a sut maen nhw'n symud mewn dyfrffyrdd yn dasg gymhleth.

A allai dulliau arloesol o amaethyddiaeth fanwl atal colli gwrtaith a llygredd dŵr? A allai synwyryddion fonitro maetholion mewn amgylcheddau dyfrol yn gywir ac yn effeithlon? A allai systemau rhybudd cynnar ar gyfer digwyddiadau eithafol fel stormydd leihau effaith?

Efallai y bydd ymgeiswyr am gyfeirio at y dogfennau canlynol i ddeall yr heriau a’r cyfleoedd i gyfrannu at wella iechyd a lles gwledig poblogaeth Ceredigion.

 

MENTOR a CHEFNOGAETH

Bydd Cyfres Her Launch Pad yn cefnogi busnesau i ymchwilio a datblygu atebion newydd i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd. Drwy gydol yr her bydd busnesau’n cael cyfleoedd rhwydweithio a mentora un i un a chyfle i gymryd rhan mewn gweithdai thematig a dosbarthiadau meistr i’w cefnogi i ddatblygu atebion arloesol. Bydd cyfeirio ehangach hefyd yn sicrhau defnydd llawn o asedau arloesi rhanbarthol ledled y Canolbarth. Bydd busnesau’n elwa o’r arbenigedd gan bartneriaid y rhaglen, ArloesiAber, Strategaeth Arloesi a British Telecom a byddant yn cael cyfleoedd i ddefnyddio cyfleusterau unigryw ArloesiAberi a thechnoleg BT yn ystod eu prosiectau. Bydd partneriaid y Sector Cyhoeddus yn arwain busnesau wrth iddynt ddatblygu atebion i sicrhau bod atebion newydd yn addas i’r diben ac yn bodloni amcanion polisi ledled y rhanbarth. Mae’r mentora a’r cymorth a ddarperir drwy Gyfres Her Launch Pad yn cael ei ariannu’n llawn ac ar gael i’r holl fusnesau sy’n cymryd rhan.

SUT MAE DDARGANFOD MWY?

Bydd digwyddiad briffio ar gyfer sefydliadau sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am yr her yn cael ei gynnal yn rhithwir ar 20 Tachwedd am 2pm. Cofrestrwch yma.

SUT I WNEUD CAIS

Rhaid i ymgeiswyr gofrestru yn GwerthwchiGymru i weld y dogfennau her a'r ffurflen gais ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4 Rhagfyr 2023 am 17:00.

Rhaid lawrlwytho dogfennau yma: https://www.sell2wales.gov.wales/search/show/search_view.aspx?ID=NOV456439 a'u llenwi gan ddefnyddio fformat y ffurflen ar-lein.

RHAGOR O WYBODAETH

Dylid anfon ymholiadau am yr her i [email protected].

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda gwefan GwerthwchiGymru, cysylltwch â’r ddesg gymorth ar 0800 222 9004.

--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

ADEILADWR SGILIAU LAUNCHPAD

Fel rhan o’r her hon bydd busnesau’n elwa o leoliad gwaith sgiliau arloesol a chynllun paru, sef Adeiladwr Sgiliau Launch Pad, lle bydd pobl Ceredigion yn gweithio gyda busnesau i gefnogi tasgau prosiect. Bydd hwn yn gyfle gwych i fusnesau weithio gyda phobl leol a datblygu sgiliau newydd. Bydd gofyn i fusnesau enwebu gweithiwr i fod yn fentor a chaniatáu ar gyfer cysgodi swyddi i gefnogi’r unigolyn. Bydd busnesau’n rhoi cyflog byw i’r unigolyn i ddysgu sgiliau sylfaenol a dysgu am yr arloesedd i ysgogi diddordeb mewn diwydiannau newydd yn y dyfodol.

Bydd busnesau hefyd yn cael cyngor a chymorth gan raglenni ehangach. Bydd yn ofynnol i fusnesau gyflogi unigolyn am o leiaf 8 awr yr wythnos dros gyfnod o 12 wythnos drwy gydol y prosiect a rhaid iddynt adrodd ar ddatblygiad sgiliau’r unigolyn mewn adroddiadau uchafbwyntiau. Bydd angen i fusnesau ddefnyddio eu contractau cyflogaeth eu hunain a chwblhau datganiad ar ddiwedd y prosiect. Mae rhwydd hynt i’r busnesau eu hunain ddod o hyd i’r unigolyn i’w cyflogi, fodd bynnag, rhaid i’r unigolyn fod yn byw yng Ceredigion ac ar hyn o bryd ddim yn gweithio mwy na 14 awr yr wythnos, a rhaid i’r busnesau allu dangos pam y byddai’r unigolyn yn elwa o'r lleoliad. Gall busnesau gyflogi’r unigolyn ar ôl y prosiect, ond nid oes ymrwymiad bod yn rhaid i’r lleoliad arwain at gyflogaeth. Mae elfen hon yr her wedi’i chynllunio i helpu unigolion a busnesau i lenwi’r bylchau sgiliau er mwyn hyrwyddo twf economaidd a mynd i’r afael ag anghenion yn ein cymunedau gwledig.

SYLWCH: Nid yw'n ofynnol i brosiectau ar Lefelau Parodrwydd Technegol 1 – 2 gyflogi unigolyn.

I ymuno â’r cynllun cyffrous hwn rhaid i ymgeiswyr lenwi’r ffurflen fer sydd â dolen isod a’i dychwelyd i [email protected] erbyn 4 o Rhagfyr 2023. Bydd pob ymgeisydd yn derbyn ymateb e-bost erbyn 8 Ionawr 2024.

Adeiladwr Sgiliau Launchpad