Cyfleusterau pwrpasol sy’n cefnogi anghenion dadansoddi ac yn rhyngweithio ag Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) Prifysgol Aberystwyth ar gyfer astudiaethau ymyrraeth bwyd.
Profi cyfansoddiadol uwch mewn bioarchwilio, bioburo a chynorthwyo prosesau eplesu:
- Dadansoddi cynnwys cemegol - Yn cynnwys mwynau, siwgwrau, asidau organig, alcohol, lipidau, statws ocsideiddio lipid, capasiti rhag-ocsidiol a gwrth-ocsidiol.
- Proffilio ac egluro strwythurol cynhwysfawr – Dadansoddi metabolion mewn bioechdynion drwy ddefnyddio sbectromedreg màs LC a GC cydraniad uchel iawn.
- Sbectromedreg màs Pedrypol Triphlyg – Mesur drwy dargedu metabolion eilaidd mewn cymysgeddau cymhleth.
- UPLC a GC – Dadansoddi a mesur siwgwrau, asidau organig ac alcohol.
Ansawdd a chyfansoddiad bwyd:
- Gallu dadansoddol i bennu cyfansoddiad bwyd – Profion safonol a phwrpasol (e.e. fitaminau, asidau brasterog hanfodol, deunyddiau maethol-fferyllol, microfaethion, penderfynynnau cemegol datblygiad blas a lliw) ar gyfer rheoli ansawdd prosesau ar offerynnau penodol.
- Darganfod a dilysu bioactifau bwyd – Proffilio cynhwysfawr o fwydydd er mwyn darganfod a dilysu bioddangosyddion lipidomigau a metabolomigau yn y deiet a chyfansoddion gweithredol bioweithredol.
- Proffilio asidau lipid a brasterog cynhwysfawr – Labordy penodol ar gyfer dadansoddi cydrannau braster-hydawdd, ffracsiynau lipid, cynnyrch a fitaminau ocsidiad brasterog.
Swyddogaethrwydd bwyd a honiadau am iechyd:
- Labordai UHPLC a GC – Dadansoddiadau wedi’u targedu yn cefnogi mesur metabolion bioactifau mewn deunyddiau crai amaethyddol, deunyddiau a bwydydd wedi’u bioburo.
- Dadansoddi dangosyddion yn y deiet – Ardal ddadansoddi pedrypolau triphlyg ar gyfer dadansoddiadau meintiol a dargedir o samplau wrin a gwaed i asesu cydymffurfiaeth ag ymyrraeth bwyd, astudiaethau ac i fesur bioddangosyddion ymddygiad bwyta cyffredinol mewn treialon clinigol o fwydydd newydd
- Asesu bioargaeledd a metabolaeth – Pennu tynged fetabolaidd bioactifau/deunyddiau maethol-fferyllol mewn cyfranogwyr treialon clinigol.
- Asesu statws o ran maeth – Dadansoddiadau biocemeg clinigol yn cynorthwyo asesu statws o ran maeth.