Rhoi cynnig am £10,000 drwy raglen BioAccelerate

11/04/2022
Teleri Davies

Rhoddodd deuddeg o entrepreneuriaid newydd gynnig am chwe gwobr o £10,000 drwy raglen BioAccelerate ac am wahoddiad i fod yn rhan o gam nesaf y rhaglen yn ArloesiAber ddydd Mercher 23 Mawrth.

Mae Cyfnod Sylfaen BioAccelerate 2022 yn rhaglen gyflymu ddeuddeng wythnos ar gyfer busnesau newydd a busnesau cymharol newydd yn y sectorau bwyd a'r economi gylchol. Yn ystod y rhaglen, mae entrepreneuriaid dethol o Gymru wedi cael budd o weithdai, cymorth mentora a gweithgareddau grŵp a grëwyd i wireddu eu cynigion busnes. 

Cawsant gyfle i greu argraff ar banel arbenigol yn ystod y diwrnod cyflwyno ddydd Mercher. Roedd y panel yn cynnwys cynrychiolwyr o Gronfa Sbarduno Arloesi a Gwyddoniaeth y DU, Banc Datblygu Cymru, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth a Sefydliad Alacrity.

Dywedodd Dr Wil Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Alacrity ac aelod o Gyngor Prifysgol Abersytwyth: “Cyflwynodd diwrnod cae BioAccelerate 2022 amrywiaeth eang o syniadau entrepreneuraidd. Roedd rhai o’r prosiectau yn dechnoleg ddofn, tra bod eraill yn seiliedig ar ddulliau newydd o farchnata cynhyrchion. Roedd yn wych gweld brwdfrydedd yr holl gyfranogwyd a’u tîm cymorth BioAccelerate. Mae BioAccelerate yn darpau goleudy ar gyfer entrepreneuriaid yng nghanolbarth Cymru, gan ddenu talent gyffrous gyda syniadau gwych. Mae’r cymorth a ddarperir i entrepreneuriaid gan y rhaglen yn angenrheidiol er mwyn helpu i arwain unigolion drwy’r siwrnai beryglus a dyryslyd iawn sef entrepreneuriaeth.”

Bydd y syniadau busnes yr ystyrir bod ganddynt y potensial buddsoddi mwyaf a’r gallu i oroesi’n fasnachol yn y tymor hir yn cael £10,000 i ddatblygu rhagor ar eu cynigion a’u cyflwyno i’r farchnad. Byddant hefyd yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o Gyfnod Deori BioAccelerate, lle byddant yn cael rhagor o gyfarwydd arbenigol a chymorth gan fentoriaid.

Bydd y chwech sy’n rhan o’r Cyfnod Deori yn gallu manteisio ar arbenigedd blaenllaw a chyfleusterau o’r radd flaenaf yn ArloesiAber, gan gynnwys y Ganolfan Bioburo, Canolfan Bwyd y Dyfodol a'r Uwch Ganolfan Ddadansoddi. Bydd staff ArloesiAber hefyd yn cydweithio'n agos â’r bobl hyn i hwyluso cyfleoedd i weithio ar y cyd ag ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber, "Mae carfan BioAccelerate 2022 yn greadigol, yn frwdfrydig ac yn awyddus i lwyddo. Mae'r entrepreneuriaid hyn yn esiamplau o dalent ac o arweinwyr busnes y dyfodol yn y Canolbarth, a gobeithiwn y gallwn eu cefnogi yn rhaglenni BioAccelerate y dyfodol. Bydd y sesiynau cyflwyno yn ddiwrnod o gystadlu brwd, ac edrychwn ymlaen at arwain y chwe chystadleuydd drwy eu taith yn rhan o’r Cyfnod Deori at greu swyddi gwerth uchel yng Nghymru."

Daw’r rhaglen i ben ym mis Mehefin pan fydd cystadleuwyr y rownd derfynol yn cyflwyno am y tro olaf. Ar ôl eu barnu ar sail meini prawf, gan gynnwys eu datganiad gwerth a’u datrysiad, cynlluniau twf ac ansawdd y cyflwyniad ei hun, dyfernir £50,000 i un ohonynt i ddod â'i gynnyrch neu wasanaeth arloesol i'r farchnad.

Hon yw pedwaredd flwyddyn rhaglen BioAccelerate 2022 ArloesiAber, ac fe'i cefnogir eleni gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU drwy Gyngor Sir Ceredigion. Buddsoddir y gronfa hon mewn lleoedd, busnesau a chymunedau er mwyn cefnogi adferiad y Deyrnas Unedig yn sgil pandemig Cofid.

Dyma rai busnesau a fu’n rhan o raglen BioAccelerate yn y gorffennol: PlantSea, busnes newydd bioblastigau sy'n deillio o wymon; Cellular Agriculture, datblygwyr bioadweithydd ar gyfer protein wedi’i feithrin a Conwy Kombucha, gweithgynhyrchwyr kombucha byw o’r radd flaenaf.