Prosiect peilot llwyddiannus yn talu ffordd i ddiwydiannau newydd

30/01/2023
Teleri Davies

Rydym yn falch o rannu llwyddiant Cyfres Her Launchpad Y Canolbarth a gyrhaeddodd gyfres o nodau uchelgeisiol yn ystod ei lansiad llynned.

Roedd y cyflawniadau hyn yn cynnwys creu lleoliadau a chyfleoedd gwaith i bobl ifanc yn y rhanbarth, a helpu i roi cymorth ariannol a phroffesiynol i fentrau newydd.

Dywedodd Dr Rhian Hayward MBE, prif swyddog gweithredol ArloesiAber: “Mae’r wybodaeth a gafwyd o gyfnod peilot y Launchpad wedi rhoi profiad gwerthfawr iawn i ni wrth ddylunio a darparu rhaglenni cymorth Ymchwil a Datblygu ar gyfer diwydiant.

“Bu’r profiad hwn hefyd o fudd i’n partneriaid ariannu allweddol a bydd yn helpu i atgyfnerthu ymhellach gryfderau cydweithrediadau busnes ac academaidd yn y dydodol.”

Ychwanegodd: “Lansiodd cyfanswm o 13 o fusnesau o’r Launchpad y llynedd a rhoddwyd 100% o gyllid i bob un o hyd at £30,000 ar gyfer ymchwil a datblygu.

“Defnyddiodd y 13 menter arloesol y cyllid hyn yn llawn i blodeuo a thyfu, a’r canlyniad oedd datblygu cyfanswm o 14 o brosiectau strategol bwysig.

“Wrth edrych ymlaen, mae cam nesaf y lansiad yn edrych yn gyffrous i fusnesau newydd sydd angen cymorth ariannol, technegol a busnes.”

Fel rhan o’r her llynedd, cafodd diwydiannau sy’n dod i’r amlwg yn yr ardal y cyfle i wneud cais am gyllid, cymorth a lle yng nghanolfan ymchwil o’r radd flaenaf ArloesiAber yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda’r nod o fynd i’r afael â heriau brys.

Roedd yr heriau hyn yn cynnwys:

  • dal a gwrthbwyso carbon
  • lleihau ac ailddefnyddio gwastraeth amaeth
  • ffynonellau cylchol o fwyd maethlon

Ochr yn ochr â hyn, profwyd y cysyniad o ddatblygu sgiliau newydd mewn diwydiannau sy’n dod i’r amlwg i lenwi’r bwlch sgiliau try leoliad gwaith arloesol a chynllun paru, gyda’r enw ‘Adeiladwr Sgiliau, Her Launchpad Y Canolbarth.’

Partneriaethau Her Launchpad Y Canolbarth

Ariannwyd cam cyntaf rhaglen beilot Her Launchpad Y Canolbarth gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a ddarparwyd gan ‘Innovation Strategy Ltd’ ac ArloesiAber a’i gefnogi gan grŵp technegol a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a BT.

 

Mwy am rhaglennu cymorth busnes ArloesiAber.