Prosiect gan Ysgol Fusnes Aberystwyth yn anelu at rannu gwybodaeth â mentrau gwledig

05/11/2021
Teleri Davies

Mae Prifysgol Aberystwyth yn awyddus i roi hwb i fentrau a busnesau newydd gwledig trwy rwydwaith sydd wedi'i gynllunio i rannu gwybodaeth.

Gyda chymorth gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru, bydd y Rhwydwaith Twf, Gwydnwch Gwledig ac Arloesi (GRRaIN) yn dwyn ynghyd weithgareddau mentergarwch o Ysgol Fusnes Aberystwyth, Arloesi Aber, Dysgu o Bell IBERS a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd, sy'n rheoli contract Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru.

Nod y rhwydwaith yw meithrin datblygiad busnesau a gweithgareddau mentergarwch yn y Canolbarth, gan ganolbwyntio ar rannu arloesedd ac atebion ymarferol i fusnesau newydd a busnesau sy'n bodoli eisoes. Y nod yw sefydlu'r Canolbarth fel lleoliad sy'n enwog yn rhyngwladol am ei mentrau gwledig blaengar.

Yn draddodiadol, mae economi Cymru wedi syrthio tu ôl y DU o ran ei chyfran o ddiwydiannau uchel eu gwerth, gyda thwf economaidd a chynhyrchiant cyfyngedig. Gellid gwrthdroi hyn gyda chwistrelliad o sgiliau a mentrau newydd.

Drwy gysylltu a llywio busnesau newydd yn well, yn ogystal ag adeiladu ar ei chryfderau traddodiadol - amaethyddiaeth a thwristiaeth - y gobaith yw y bydd y rhanbarth yn denu diwydiannau newydd a'r gweithlu medrus sydd ei angen i amrywiaethu a chryfhau'r economi yn y Canolbarth.

Lansiwyd y prosiect yn ffurfiol mewn digwyddiad yn ArloesiAber ym mis Hydref.

Dywedodd Dr Wyn Morris, Uwch Ddarlithydd Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, a Chyfarwyddwr y Rhwydwaith: "Fe wnaethom lansio rhwydwaith GRRaIN i ddarparu'r rhwydweithiau sydd eu hangen ar fusnesau i rannu syniadau ac arfer gorau yn ogystal ag ysbrydoli eu cyd-gwmnïau.

"Drwy gymryd rhan yn y Rhwydwaith, mae sefydliadau a mentrau o fewn yr economi wledig yn cael mynediad at fyfyrwyr, graddedigion, ymchwilwyr a busnesau newydd a rhannu gwybodaeth. Mae hefyd yn dod ag entrepreneuriaid ar draws y rhanbarth ynghyd i arddangos yr hyn sydd gan Brifysgol Aberystwyth i'w gynnig."

Dywedodd Ben Lake, AS Plaid Cymru dros Geredigion: "Drwy gysylltu arbenigedd adrannau Prifysgol Aberystwyth, ArloesiAber ac IBERS â chreadigrwydd busnesau lleol mewn un rhwydwaith, gallai GRRaIN fod yn drawsnewidiol i'r economi leol.

"Roedd yn bleser gennyf fod yn bresennol yn lansiad y rhwydwaith, ac rwy'n llwyr gefnogi ei nod o feithrin perthynas agosach rhwng y byd academaidd a byd busnes, fel bod potensial sylweddol yr economi wledig yn cael ei wireddu er budd cymunedau ledled Ceredigion a chefn gwlad Cymru."

Dywedodd Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber: "Mae ArloesiAber yn falch iawn o gefnogi gwaith y Rhwydwaith Twf, Gwydnwch Gwledig ac Arloesi. Rydym yn cynorthwyo entrepreneuriaid gwledig a busnesau gwledig sy'n tyfu'n gyflym, yn ein deorfa a thrwy ein rhaglen sbarduno busnesau.

"Byddwn yn cysylltu ein holl gyfranogwyr yn GRRaIN gan y bydd yn cynnig rhwydwaith ardderchog ar gyfer rhannu gwybodaeth ymhlith sefydliadau o'r un anian."

Mae cynlluniau'r Rhwydwaith ar gyfer y dyfodol agos yn cynnwys cyflawni ymchwil, datblygu gweithgareddau menter a meithrin cysylltiadau â'r economi wledig trwy gyfres o weminarau a digwyddiadau.

 

Ffynhonnell: https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2021/11/title-248746-cy.html