Profi gwydr a wnaed o lechi ar gyfer cynhyrchwr gwin a seidr o Gymru

18/04/2023
Will Price
Richard Wyn Huw & Dr Amanda Lloyd

Mae math newydd o wydr sydd wedi ei wneud o wastraff llechi ar gyfer gwinllan o Gymru wedi cael ei brofi am ei rinweddau cadw bwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Mae Gwinllan a Pherllan Pant Du o Ddyffryn Nantlle yn cynhyrchu gwinoedd coch, gwyn a rhosliw o winwydd sy’n tyfu yn un o ardaloedd llechi Eryri, ynghyd â seidr a sudd afal o berllannau lleol.

Fel rhan o’i chynlluniau i ddatblygu cynnyrch finegr seidr afalau newydd, trodd Pant Du at ymchwilwyr y Grŵp Ymchwil Bwyd, Diet ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth i brofi priodweddau cadw ffresni’r gwydr llechi newydd arfaethedig.

Yn draddodiadol defnyddiwyd gwydr tywyll i ddiogelu gwin coch ac ystod eang o gynnyrch meddygol rhag effeithiau golau.

Profodd y tîm yn Aberystwyth y gwydr newydd am ei allu i rwystro golau gweladwy ynghyd â phelydrau isgoch ac uwchfioled, a chymharu ei berfformiad â gwydr clir ac ambr.

Perlysiau a ffrwythau meddal megis cennin syfi a thomatos fu canolbwynt y profion hyd yma ac mae’r canlyniadau yn dangos bod y gwydr llechi newydd wedi perfformio'n well o'i gymharu gyda gwydr clir ac ambr. Y cam nesaf fydd profi gyda hylifau.

Mae’r gwaith wedi ei ariannu gan brosiect etifeddiaeth Bwydydd y Dyfodol Llywodraeth Cymru SMART Recovery (sydd wedi ei chyllido gan grant Adfer wedi Covid Llywodraeth Cymru), sydd â’r nod o gefnogi busnesau i ddatblygu bwydydd arloesol ac iachach i hybu twf economaidd yn dilyn y pandemig.

Dywedodd Richard Wyn Huws o Winllan a Pherllan Pant Du: “Mae hi wedi bod yn bleser cydweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ar y prosiect arloesol hwn a manteisio ar yr arbenigedd a’r dechnoleg sydd yno i brofi fod y gwydr newydd hwn yn gweithio. Mae hefyd yn wych o beth i adael i’r byd a’r betws wybod am y gwyrthiau y gellir eu gwneud gyda gwastraff llechi a rhoi Dyffryn Nantlle a threftadaeth llechi gogledd Cymru ar y map.”

Bu cloddio am lechi yng Nghymru ers cyfnod y Rhufeiniad, ond daeth i ddominyddu economi gogledd orllewin Cymru tua diwedd yr 19eg ganrif.

Gan mai dim ond 5% sy’n cael ei ystyried yn fasnachol werthfawr, mae yna ddigon o wastraff llechi ar gael sy’n hawdd ei gyrchu ac yn ddeunydd gwerthfawr o bosibl ar gyfer y gwydr newydd sy’n cael ei ystyried gan winllan Pant Du er mwyn ymestyn oes silff ei chynnyrch.

Dywedodd Dr Amanda Lloyd o Brifysgol Aberystwyth: “Bob blwyddyn mae canran enfawr o fwyd yn cael ei daflu gyda hyd at 70% ohono’n cael ei achosi gan aelwydydd nad ydyn nhw’n gallu bwyta’r bwyd maen nhw’n ei brynu cyn iddo fynd yn anfwytadwy. Dyma pam mae gennym ddiddordeb mewn profi a datblygu gwydr gyda Phant Du. Yn ogystal mae wedi'i wneud o wastraff y diwydiant llechi, sy’n ychwanegu’r posibilrwydd o ddefnyddio deunydd lleol ar gyfer cadw bwyd. Ac mae hyn oll wedi ei wneud yn bosibl gan gyllid gan Lywodraeth Cymru o’r gronfa Datgarboneiddio ac Adfer Covid, ochr yn ochr â SMART Recovery, prosiect arall sy’n cael ei ariannu gan raglen Adfer wedi Covid Llywodraeth Cymru.”

Cyflwynwyd canfyddiadau cychwynnol yr ymchwil mewn Gweithdy Adfer ReValue:SMART ym Mhrifysgol Aberystwyth a gynhaliwyd yn ArloesiAber, ym mis Mawrth 2023.

Bu’r gweithdy’n trafod sut y gall dulliau arloesol o reoli sgil-gynhyrchion, is-ffrydiau a gwastraff greu cynhwysion newydd i'w defnyddio i wneud bwydydd iachach i gefnogi iechyd a lles, twf busnesau a hyrwyddo economi di-wastraff.

Mae’r Grŵp Ymchwil Bwyd, Diet ac Iechyd, sy’n rhan o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth, wedi gwneud gwaith arloesol ym maes datblygu dulliau ar gyfer dadansoddi cyfansoddiad a chymharu deunyddiau crai bwyd, ac wedi datblygu methodoleg ar gyfer ffenoteipio metabolaidd dynol a mesur effaith dietegol gan ddefnyddio biofarcwyr mewn gwaed ac wrin dynol.

Mae hefyd wedi bod yn gweithio â chwmnïau bwyd a diod ledled Cymru i ymchwilio i’r genhedlaeth nesaf o fwydydd gweithredol a phroteinau amgen.

Cyllidwyd ei gwaith gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, y Cyngor Ymchwil Meddygol, y Sefydliad Arloesedd a Thechnoleg Iechyd Ewropeaidd, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru.

Source: Prifysgol Aberystwyth