PlantSea a Conwy Kombucha yn Ennill Grantiau Arloesi BioAccelerate

15/06/2021
Ben Jones
plant sea team

Daeth rhaglen BioAccelerate ArloesiAber i ben yr wythnos diwethaf gyda phanel arbenigol yn penderfynu rhoi dau grant arloesi gwerth £50,000 i PlantSea a Conwy Kombucha.

Ar ôl trafodaeth helaeth, dewisodd y panel PlantSea, cwmni cychwyn bioplastigion ar sail gwymon, a Conwy Kombucha, cynhyrchwyr ystod o ddeau buddiol i iechyd fel yr enillwyr.

Sefydlwyd PlantSea gan fyfyriwr PhD Prifysgol Aberystwyth Gianmarco Sanfratello a chyn-fyfyrwyr Aberystwyth Alex Newnes a Rhiannon Rees. Mae Cyfarwyddwr Conwy Kombucha, Mark Pavey, wrthi yn dilyn PhD yn Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS).

Bydd y ddau enillydd yn parhau i weithio gydag ArloesiAber a sefydliadau perthnasol eraill wrth iddynt geisio datblygu eu cynhyrchion ymhellach a chynyddu eu gweithgareddau.

Wrth sôn am eu llwyddiant, dywedodd Rhiannon Rees, Cyd-sylfaenydd PlantSea: “Dechreuon ni gyda syniad syml i leihau faint o blastig untro yn ein cymuned. Mae ennill y wobr hon yn golygu y gallwn barhau â'n hymchwil a symud tuag at fasnacheiddio. Mae'r tîm yn ArloesiAber wedi bod yn amhrisiadwy yn eu cefnogaeth ar y siwrnai hon ac rydym yn gyffrous i gymryd ein camau nesaf i wneud bio-ddeunyddiau sy'n deillio o wymon yn ddewis arall hyfyw yn lle plastig.”

Dywedodd Mark Pavey, Cyfarwyddwr Conwy Kombucha ac ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer PhD mewn Bioethics ac Amaeth yn Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth: “Mae tyfu busnes newydd mewn pandemig byd-eang yn amlwg yn heriol. Mae ennill grant arloesi BioAccelerate yn caniatáu inni barhau i wneud hyn mewn partneriaeth ag ArloesiAber ac IBERS trwy ein cyfnod graddio nesaf a thu hwnt. Mae llawer o ddiolch yn ddyledus i'r tîm BioAccelerate am ddarparu cyngor a mentoriaeth wedi'i thargedu o'r fath trwy gydol y prosiect.”

making kombucha

Yn y rhaglen BioAccelerate, gostyngwyd un ar bymtheg o entrepreneuriaid/timau i ddau ennillwyr yn ystod dau gam o weithgareddau cyflymu busnes a pharodrwydd buddsoddiad. Elwodd amrywiaeth eang o gynigion busnes tarfol ac addawol o'r gweithdai, mentora a gweithgareddau grŵp a ddarperir gan BioAccelerate.

Bydd cefnogaeth yn parhau i gael ei chynnig i'r pedwar arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Ymhlith y cynigion ar y rhestr fer hynod arloesol roedd prebiotig newydd yn deillio o Miscanthus (glaswellt eliffant), platfform ar-lein ar gyfer cyflenwi biospecimen i gynyddu effeithlonrwydd a thryloywder mewn ymchwil biotechnoleg, system hidlo ar gyfer adfer dŵr, a thechnoleg newydd mewn cynhyrchu cig.

Dywedodd Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber: Rydym wedi gweld cynigion arloesol a chystadleuol iawn yn ystod BioAccelerate eleni. Mae cyn-fyfyrwyr BioAccelerate o entrepreneuriaid a busnesau cychwynnol yn brawf heb amheuaeth bod gan Gymru rai busnesau rhyfeddol sy'n seiliedig ar dechnoleg mewn bwyd, bioburo a'r economi gylchol sydd â photensial mawr i dyfu'n gyflym a chreu swyddi o ansawdd uchel. Llongyfarchiadau mawr i PlantSea a Conwy Kombucha ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw a'r rhai eraill sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Bellach yn ei drydedd flwyddyn, mae gan BioAccelerate enw da am gyflymu twf cwmnïau cam cynnar a chychwyniadau newydd yng Nghymru a thu hwnt. Mae ARCTIEKBio a Shire Meadery, a oedd yn aelodau o garfannau cynharach, bellach yn denantiaid yn Swyddfeydd ArloesiAber. Cyhoeddwyd yr wythnos hon fod ARCITEKBio wedi cyrraedd rhestr fer y Busnes Gwyrdd Gorau yng Ngwobrau Busnesau Cychwynnol Cymru 2021.

Yn ddiweddar, cwblhaodd AroesiAber ei weithgareddau caffael i wireddu potensial llawn ei fuddsoddiad o £ 43.5m yng nghanolbarth Cymru. Darn olaf y jig-so oedd cwblhau comisiynu offer yng Nghanolfan Bwyd y Dyfodol a'r Uwch Ganolfan Ddadansoddi. Mae'r cyfleusterau trawsfudol hyn yn ymuno â'r cyfleusterau gweithredol presennol yn y Ganolfan Bioburo, y Biobanc Hadau a'r Parth Arloesi i ddarparu canolbwynt ar gyfer ymchwil a datblygu cydweithredol bwyd-amaeth a'r economi gylchol.

Gyda’i alluoedd wedi’u cwblhau, bydd staff yn ArloesiAber yn parhau i ehangu piblinell prosiectau ymchwil a datblygu'r Campws yn ogystal â chynnig ymchwil ar gytundeb, hyfforddiant technegol pwrpasol, ac ystod o wasanaethau cefnogi busnes i gwmnïau arloesol yn ei sectorau.