Asiantaeth Safonau Bwyd yn Penodi Aelod Bwrdd dros Gymru

01/09/2023
Teleri Davies

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi bod Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Llesiant, wedi penodi Aelod Bwrdd newydd dros Gymru. Bydd Rhian Hayward MBE yn gwasanaethu am dair blynedd, gan ddechrau ar 1 Medi 2023 a bydd hefyd yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC). 

Dywedodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB: 

“Mae’n bleser croesawu Rhian i Fwrdd yr ASB. Bydd yn dod â chryn wybodaeth a phrofiad i’r Bwrdd ac i WFAC, gyda dealltwriaeth ddofn o’r strwythurau datganoledig y mae’r ASB yn gweithredu oddi mewn iddynt. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Rhian wrth i ni barhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chyflawni ein cenhadaeth, sef ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’.”

Mae gyrfa Dr Hayward wedi cwmpasu gwyddoniaeth ac arloesi. Yn ogystal â bod yn Is-Gadeirydd Cymdeithas Parciau Gwyddoniaeth y DU, mae hi wedi gweithio mewn swyddi cyhoeddus i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gwasanaethu ar Fwrdd Datblygu Diwydiannol Cymru a Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod.

Yn wreiddiol o Abertawe, mae Dr Hayward bellach yn Brif Weithredwr AberInnovation, gan annog ymchwil gydweithredol rhwng busnesau, entrepreneuriaid ac academyddion. Mae ganddi DPhil mewn epidemioleg clefydau heintus o Brifysgol Rhydychen a BSc dosbarth cyntaf o Goleg y Brenin Llundain ac mae’n un o Gymrodorion Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Derbyniodd Rhian yr MBE am wasanaethau i Entrepreneuriaeth yng Nghymru yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016. 

Dywedodd Dr Rhian Hayward:

“Rwy’n falch iawn o gael ymuno â Bwrdd yr ASB a chefnogi eu gwaith pwysig yn diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Rwy’n llawn brwdfrydedd ac yn barod i ymroi i’r rôl o gynghori ar faterion sy’n ymwneud â Chymru a chynrychioli buddiannau Cymru.” 

Dywedodd Peter Price, Cyn-aelod Bwrdd yr ASB dros Gymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru: 

“Rwy’n falch iawn o gael trosglwyddo’r awenau i Rhian, sydd â chyfoeth o brofiad perthnasol. Yn ogystal â gwybodaeth wyddonol eang, mae Rhian yn arwain datblygiadau yn niwydiant bwyd Cymru. Bydd hi’n hyrwyddo ac yn diogelu buddiannau Cymreig, gan gefnogi defnyddwyr a ffermwyr, cynhyrchwyr ac arloeswyr.”

Bydd y penodiad hwn yn golygu ymrwymiad amser o 35 diwrnod y flwyddyn, a bydd tâl am y rôl ar gyfradd o £14,000 y flwyddyn. Gwnaed y penodiad hwn ar sail teilyngdod, gan ddilyn Cod Ymarfer Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.  

Bydd Dr Hayward yn cadeirio ei chyfarfod WFAC cyntaf ar 25 Hydref.

Ffynhonnell: https://www.food.gov.uk/cy/news-alerts/news/penodi-aelod-bwrdd-dros-gymru-0