ArloesiAber yn Sicrhau Hwb Ariannu o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i Godi’r Gwastad yng Nghanolbarth Cymru

01/02/2024
Teleri Davies

Mae ArloesiAber, y Campws Arloesi a Menter yn Aberystwyth sydd ar flaen y gad, yn falch iawn o gyhoeddi ei gais llwyddiannus am gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Bydd y cyllid yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi'r agenda Codi'r Gwastad yng Nghanolbarth Cymru, gan gryfhau ymhellach twf economaidd, creu swyddi ac arloesi yn y rhanbarth.

Mae Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a ddarperir gan Gyngor Ceredigion wedi’i sefydlu gyda’r amcan craidd o ysgogi twf economaidd a ffyniant ar draws cymunedau lleol ledled strategaeth economaidd y Sir ar gyfer Ceredigion am y 15 mlynedd nesaf. Mae'r fenter ariannu nodedig hon yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â gwahaniaethau rhanbarthol trwy fuddsoddi mewn prosiectau sydd â'r potensial i drawsnewid economïau, creu cyfleoedd cyflogaeth a chyflymu datblygiad economaidd cyffredinol.

Mae dwy raglen ymchwil a datblygu wedi'u hariannu'n llwyddiannus, gan gynnwys rhaglen Solutions Catalyst, a gefnogir hefyd gan y BBSRC a Cyngor Powys, ac yn olaf Cyfres Her Launchpad y Canolbarth, a gynhaliwyd yn llwyddiannus am y tro cyntaf y llynedd ac sydd eisoes wedi cefnogi dau ar hugain o fusnesau i gael mynediad at gymorth busnes, i brofi a graddio eu syniadau arloesol, a creu swyddi newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Rydym yn croesawu’r newyddion gwych hwn a fydd yn helpu i roi hwb i brosiectau lleol yn Ngheredigion a’n siroedd cyfagos. Mae gan ArloesiAber gyfleusterau o’r radd flaenaf felly nid oes gennyf amheuaeth nad byddant yn llwyddo i gefnogi llawr o fusnesau yn dilyn y cyllid hwn. Rwy’n falch o weld y menter Gymraeg, Clwb Arloesi yn cael ei rhoi at ei gilydd i gynyddu amlygrwydd y Gymraeg mewn busnesau STEM a thechnoleg. Rwy’n edrych ymlaen at fynychu a siarad ag aelodau Clwb Arloesi yn y Gwanwyn.”

Ochr yn ochr â Chyllid Ffyniant Gyffredin yn y DU, mae ArloesiAber wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol o'r cynllun ARFOR prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru o’r enw ‘Clwb Arloesi.’ Mae ARFOR yn fenter ar y cyd rhwng Cynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n ceisio defnyddio entrepreneuriaeth a datblygiad economaidd i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a thrwy hynny gynnal yr iaith.

Mae Clwb Arloesi yn fenter newydd i sefydlu ardal ffisegol bwrpasol yn ArloesiAber fel ‘Gofod Iaith Gymraeg'. Bydd yn cyflwyno rhaglen o sgyrsiau, teithiau a chynulliadau Cymraeg yn yr adeiladau newydd ar gyfer entrepreneuriaid a busnesau sy'n seiliedig ar dechnoleg, gan gynyddu gwelededd y Gymraeg mewn amgylcheddau STEM ac ymchwil, a dod â natur dechnegol ArloesiAber i'r gymuned broffesiynol sy'n siarad Cymraeg ac yn dysgu Cymraeg.

Dywedodd Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber: “Gall ein gwith i gefnogi busnesau i fynd i’r afael â heriau diogelwch bwyd a newid yn yr hinsawdd fod o fudd i bobl o Canolbarth Cymru mewn swyddi newydd ar gael a nifer cynyddol o gynhyrchion a gwasaneathau o safon fyd-eang yn cael eu lansio. Rwy’n falch iawn bod Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys, UKRI drwy’r BBSRC a Llywodraeth Cymru yn ymddiried ynom i gyflawni’r buddion hyn o dan yr agenda Lefelu i Fyny.”

Mae cyfleusterau ArloesiAber, a leolir ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth ar safle bridio cnydau hanesyddol 100 mlwydd oed Gogerddan, yn bodoli i weithio gyda chwmnïau o bob maint i hyrwyddo datblygiad arloesiadau newid yn yr hinsawdd a diogelwch bwyd, lle bydd arbenigedd academaidd a thechnegol mewnol yn cefnogi hyn, ac yn cyflymu ymgysylltiad rhwng Prifysgol Aberystwyth, diwydiant a phartneriaid rhanbarthol yng Nghymru.