ArloesiAber yn Penodi Dau Gyfarwyddwr Anweithredol Newydd

06/02/2020
Ben Jones

Mae'n bleser gan Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth (ArloesiAber) gyhoeddi penodi dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd i'w Fwrdd. Penodwyd Rob Bryan a John Berry er mwyn rhoi arbenigedd ychwanegol i'r Bwrdd ym maes y gyfraith a marchnata, a daw’r ddau Gyfarwyddwr Anweithredol â chyfoeth o brofiad a rhwydweithiau proffesiynol eang i ArloesiAber.

Mae Rob Bryan yn Bartner Ecwiti gyda Chyfreithwyr BPE lle mae'n bennaeth ar eu tîm Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a sefydlwyd ganddo yn 2010. Ei dîm oedd y gwasanaeth cyfreithiol penodedig cyntaf yn y DU ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg ('STEM') ac mae'n dod â llu o brofiad ac arbenigedd i'r Bwrdd ym maes y gyfraith a llywodraethu. Mae Rob yn Gadeirydd Anweithredol Action Against Macular Degeneration. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd nifer o gwmnïau eraill sy'n gweithio ym maes STEM, gan gynnwys y Sefydliad Data Agored a'r Compound Semiconductor Applications Catapult.

Wrth sôn am ei rôl ddiweddaraf fel Cyfarwyddwr Anweithredol gyda Champws Arloesi a Menter Aberystwyth, dywedodd Rob: "Rwy'n falch iawn o gael ymuno â Bwrdd ArloesiAber, dan arweiniad y Prif Swyddog Gweithredol ardderchog Dr Rhian Hayward. A minnau wedi chwarae rhan sylweddol ym maes cyfnewid gwybodaeth ers sawl blwyddyn, mae ArloesiAber yn gyfle cyffrous a thrawsnewidiol i ddefnyddio’r cydweithredu rhwng y byd academaidd a’r diwydiant i wireddu’r myrdd o fanteision sy’n deillio yn sgil bioeconomi sy'n seiliedig ar wybodaeth.”

Mae John Berry yn un o Gyfarwyddwyr y Cognition Agency, asiantaeth farchnata sydd â'i phencadlys yn Birmingham ac sydd â chleientiaid ym mhedwar ban byd. Mae ganddo brofiad helaeth o ddefnyddio grym marchnata effeithiol i greu gwerth brand yn y farchnad fyd-eang, ac mae ei benodiadau’n cynnwys Cyfarwyddwr Datblygu Busnes yn Qcom Outsourcing a Phartner yn Yolsum LLP, sy’n gwmni marchnata strategol bach yn gweithio gyda busnesau newydd a busnesau bach a chanolig.

Dywedodd John, a ddaw â chyfoeth o wybodaeth am farchnata ac ymgysylltu â busnes i'r Bwrdd: “Mae'n gyffrous ymuno â Bwrdd ArloesiAber ar yr adeg hon. Mae'r busnes yn barod i gael effaith strategol sylweddol iawn, gan gefnogi busnesau'r DU wrth iddynt fachu ar y cyfle i ddefnyddio technolegau biowyddoniaeth newydd i greu byd mwy cynaliadwy."

Meddai Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber, am y penodiadau: “Yn dilyn proses ddethol gynhwysfawr mae'r Bwrdd yn falch iawn o benodi dau Gyfarwyddwr Anweithredol hynod o dalentog. Gall ArloesiAber yn awr gryfhau ei dîm o staff uwch ymhellach wrth inni symud i gamau olaf y gwaith adeiladu, a pharatoi i agor adeiladau'r Campws ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd â diwydiant. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Rob a John i ddatblygu brand ArloesiAber yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”

Mae'r gwaith adeiladu ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth yn parhau i fynd rhagddo’n dda, ac ar 25 Hydref 2019 gwahoddwyd Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, i agor dau adeilad cyntaf y Campws yn swyddogol: Canolfan Bioburo ArloesiAber a Biofanc Hadau Prifysgol Aberystwyth. Cefnogir y Campws gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, y BBSRC – rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU – a Phrifysgol Aberystwyth, a daw'n gwbl weithredol ym mis Awst 2020.