ArloesiAber yn Dathlu Llwyddiant Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop gydag Anerchiad gan Weinidog yr Economi Llywodraeth Cymru

04/05/2023
Teleri Davies

Ddydd Iau, 4 Mai 2023, cynhaliodd ArloesiAber ddigwyddiad i ddathlu llwyddiant ei gefnogaeth a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Roedd y digwyddiad yn cynnwys anerchiad fideo personol gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn tynnu sylw at y cyfraniadau sylweddol y mae'r Campws eisoes wedi'u gwneud i'r economi yn y rhanbarth ers iddo agor ddiwedd 2020, yn ogystal ag edrych ymlaen at ddyfodol ymchwil ac arloesedd yn y sectorau bwyd ac economi gylchol.

Ynghyd ag araith y Gweinidog roedd anerchiadau gan Brif Swyddog Gweithredol ArloesiAber, Dr Rhian Hayward MBE, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure a Phrif Weithredwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Peter Ryland.

Mae ArloesiAber yn sbardun allweddol ar gyfer twf economaidd yng Nghymru a'r DU yn ehangach, gan ddarparu cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf ar gyfer busnesau, entrepreneuriaid a chwmnïau newydd.

Roedd anerchiad y Gweinidog yn canolbwyntio ar ymrwymiad y llywodraeth i gefnogi prosiectau magnet Cymreig, arloesedd a menter ledled Cymru, a sut mae ArloesiAber wedi bod yn enghraifft wych o'r effaith y gall mentrau o'r fath ei chael, gan dynnu sylw hefyd at y cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau.

Dywedodd Vaughan Gething AS: “Rwyf wrth fy modd bod ArloesiAber, trwy fuddsoddiad arian yr UE, bellach yn darparu cyfleusterau ac arbenigedd o’r radd flaenaf yn y sectorau biotechnoleg, technoleg amaeth, a bwyd a diod. Denu buddsoddiad, sgiliau a chydweithio pellach i’r rhanbarth a mynd i’r afael â heriau byd-eang mawr megis newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd a sicrwydd bwyd ac ynni.

“Bydd y buddsoddiad newydd gan UKRI-BBSRC yn galluogi ArloesiAber i barhau i adeiladu ar eu llwyddiant ac mae’n cyd-fynd â neges ganolog ein Strategaeth Arloesedd, a lansiwyd ddiwedd mis Chwefror, sy’n pwysleisio’r angen i fod yn gydweithredol a chystadleuol i ddod o hyd i gyllid ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi o ffynonellau yn y DU a thu hwnt.

“Mae arloesi mewn amaethyddiaeth, yr amglychedd ac adnoddau naturiol yn chwarae rhan bwysig yn ein nod ar gyfer Cymru fwy cyfartal, mwy llewyrchus a gwyrddach.”

Mae ArloesiAber eisoes wedi denu cwmnïau uwch-dechnoleg ac sy’n seiliedig ar wybodaeth i ddechrau yn y rhanbarth drwy raglenni cymorth busnes gan ganolbwyntio ar gyfleusterau ac arbenigedd technegol, gan greu swyddi newydd a rhoi hwb i'r economi leol.

Dywedodd Dr Rhian Hayward MBE: "Rydym wedi bod yn falch o dywys datblygiad cyfalaf ArloesiAber a sbarduno'r cyfleusterau gyda chymorth ERDF. Mae’r biblinell prosiectau ar gyfer gweithgareddau sy'n cael eu harwain gan ddiwydiant yn tyfu'n gyflym, fel y mae’r  diddordeb yn y cyfleusterau fel angor ar gyfer rhagolygon mewnfuddsoddi. Mae ArloesiAber yn cysylltu'r rhagoriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth â'r diwydiant ac mae awydd amlwg am fwy gan fusnesau ledled Cymru a gweddill y DU. Rydym yn croesawu entrepreneuriaid i ddechrau busnesau sydd wedi’u lleoli yn ArloesiAber, ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth ddaw yn sgil y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. "

Ers dod yn weithredol yn 2021, mae ArloesiAber wedi sicrhau’r 100 prosiect Ymchwil a Datblygu cyntaf gyda diwydiant, ac wedi cefnogi tenantiaid ac aelodau i godi £4.3m mewn buddsoddiad preifat a £5m o gyllid grant sydd wedi cefnogi creu pedwardeg chwech o swyddi newydd.

Roedd y digwyddiad yn dathlu'r cerrig milltir a gyflawnwyd gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, a diolch i'r tri phrif gyllidwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Ymchwil ac Arloesedd y DU - BBSRC a Phrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae ArloesiAber wedi sefydlu ei hun fel canolfan ragoriaeth sy’n darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ac wedi dod yn ganolbwynt i gymuned fywiog sy’n dod ag ymchwil wyddonol ac entrepreneuriaid ynghyd i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd ac arloesol er budd y gymuned ehangach. Mae’r Brifysgol yn falch iawn yn ei rôl wrth ddarparu’r llwyfan mwyaf gwerthfawr hwn sy’n cynnig cyfleoedd i gydweithwyr academaidd fasnacheiddio ymchwil yn ogystal â datblygu syniadau gan fusnesau a’r manteision economaidd posibl o ganlyniad i hynny.”

Yn ystod y digwyddiad, cafodd y mynychwyr gyfleoedd i rwydweithio ag arweinwyr y diwydiant, y llywodraeth ac awdurdodau lleol ochr yn ochr ag arbenigwyr academaidd, sydd wedi bod yn allweddol yn llwyddiant y Campws. Roedd cyfle hefyd i ddarllen am yr ymchwil ddiweddaraf sy'n cael ei chynnal yn ArloesiAber drwy gyfrwng amrywiol bosteri gwybodaeth yn manylu ar sut mae'r prosiectau hyn yn cyfrannu at ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd yn y sectorau biotechnoleg, bwyd a diod a thechnoleg amaeth.

Ers agor yn 2020 mae'r campws wedi cynorthwyo gyda datblygiad a thwf ystod eang o gwmnïau bwyd a thechnoleg amaeth newydd. Mae labordai cyfoes ac arbenigedd technegol y campws wedi cynorthwyo twf partneriaethau gyda 30 o gwmnïau yn Aberystwyth. Mae prosiectau diweddar fel y rhaglen Solutions Catalyst a ariennir gan y BBSRC wedi dangos llawer iawn o ddiddordeb gyda chwmnïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sydd eisiau gwella datblygiad cynnyrch yn y dyfodol agos.