-
Ar Gau
Mae rhaglen ArloesiAber, sef y 'Solutions Catalyst' wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU, wedi'i yrru gan Lefelu i Fyny a'i gefnogir gan UKRI - BBSRC i ysgogi arloesedd a’ch cysylltu â rhwydwaith Campws UKRI ehangach, yn dychwelyd ar gyfer yr trydydd rownd ac yn darparu pecyn cymorth sy’n cynnwys y canlynol:
- Ymgynghoriaeth academaidd Prifysgol Aberystwyth
- Mynediad i gyfleusterau a chymorth technegol yn ArloesiAber
- Nwyddau traul ar gyfer ymchwil a datblygu
- Gweithdai
Bydd y rhaglen yn cyflymu cynnydd mewn ymchwil a datblygu trwy gynnig taleb gwerth hyd at £30,000 i gwmnïau i gael mynediad dan arolygiaeth i gyfleusterau, galluoedd a sgiliau o’r radd flaenaf yn ArloesiAber ac arbenigedd academaidd Prifysgol Aberystwyth ar gyfer:
- Cwmnïau'r DU o'r sectorau bwyd a diod, biotechnoleg, economi gylchol a thechnoleg amaeth
- Busnesau deillio o IBERS a'r brifysgol ehangach
- Busnesau tenantiaid ac aelodau ArloesiAber
- Cyn-fyfyrwyr busnes rhaglenni cymorth busnes ArloesiAber
Mae ArloesiAber wedi’i hintegreiddio i weithgareddau ymchwil ac arloesi Prifysgol Aberystwyth ac mae’n rhan amlwg o ddull y Brifysgol o adeiladu gweithgareddau arloesi ac ymgysylltu drwy sicrhau effaith o allbynnau ymchwil.
Dylai cyfranogwyr gynnig prosiect sy'n manylu ar y defnydd o arbenigedd, cyfleusterau ac offer a'r cyfraniad cyfatebol o amser ac adnoddau. Bydd y cymhorthdal yn cael ei ddarparu ar ffurf taleb (credyd) yn ArloesiAber. Gellir nodi trosolwg llawn o'r offer a'r galluoedd sydd ar gael ar gyfer prosiectau yn llyfryn 2022.
Bydd angen i bob cais ddangos yr angen am ymchwil a datblygu, yr arloesedd a'r her y mae eu prosiect yn mynd i'r afael â hwy, llwybr i'r farchnad a gwerth am arian.
Bydd yna sesiwn briffio ar gyfer holl gwestiynau cyffredin. Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/aberinnovations-solutions-catalyst-briefing-event-2024-tickets-815165681497
Mae croeso i sefydliadau nad ydynt yn denant nac yn aelod ar hyn o bryd wneud cais ac ymrwymo i ddod yn denant neu'n aelod pan gânt eu dewis.
Amserlen y rhaglen ar gyfer 2024:
Cystadleuaeth yn agor - 6ed o Chwefror 2024
Digwyddiad briffio a Chwestiynau Cyffredin – 20 o Chwefror 2024
Cystadleuaeth yn cau – 22 o Mawrth 2024
Hysbysu ymgeiswyr llwyddiannus – 8 o Ebrill 2024
Gweithdy sefydlu – 30 o Ebrill 2024
Prosiectau’n dechrau – Mai 2024
Prosiectau yn dod i ben - Hydref 2024