Mae labordai modern pwrpasol gyda chyfarpar dadansoddi cemegol o’r radd flaenaf yn darparu amgylchedd ymchwil i gyflawni anghenion dadansoddol cydweithredwyr, o brosesu samplau ac echdynnu i sgrinio, targedu a meintioli cyfansoddion sydd o ddiddordeb. Gall staff profiadol gefnogi a chynorthwyo i ddatblygu rhagor ar ddulliau yn ôl y gofyn.
Mae’r Uwch Ganolfan Ddadansoddi yn cefnogi ystod eang o anghenion dadansoddi ac yn rhyngweithio ag Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) Prifysgol Aberystwyth ar gyfer astudiaethau ymyrraeth bwyd.
Galluoedd yn cynnwys:
Dadansoddiad ansoddol a meintiol o’r canlynol:
- Lipidau, asidau brasterog rhydd ac asidau brasterog cadwyn fer
- Proteinau ac asidau amino rhydd
- Siwgrau a startsh
- Pigmentau
- Fitaminau
- Sterolau a steroidau
- Biofarcwyr dietegol
Sgrinio a Ffenoteipio heb eu targedu gan ddefnyddio:
- Metabolomeg
- Lipidomeg
Gall y samplau gynnwys:
- Bwydydd amrwd a bwydydd wedi’u prosesu
- Deunyddiau planhigion
- Cynhyrchion eplesu
- Deunyddiau maethol-fferyllol
- Cosmetigau
- Biohylifau
- Samplau clinigol
Gyda staff cymorth technegol pwrpasol, Canolfan Bioburo integredig a'n Canolfan Bwyd yn y Dyfodol o dan yr un to, a mynediad i arbenigedd academaidd enwog Prifysgol Aberystwyth, Mae Uwch Ganolfan Ddadansoddi ArloesiAber yn lle perffaith ar gyfer eich anghenion datblygu cynnyrch a phrosesau.
Dewch o hyd i fanylebau technegol ein Canolfan a ffurflen ymholiad drwy far ochr y dudalen hon.
Nodweddion Technegol
Nodweddion Campws
Lawrlwythwch y Daflen
Cysylltwch â ni