Cyfleuster ag amgylchedd rheoledig ar gyfer storio a chatalogio adnoddau genetig planhigion yn ddiogel. Mae’r cyfleusterau hyn yn cefnogi rhaglenni bridio planhigion fyd-enwog IBERS, sy’n galluogi datblygiad mathau newydd o blanhigion a chynnal sawl math o blanhigion masnachol.
Y Biofanc – Un o’r casgliadau ex-situ mwyaf yn y byd o ran glaswellt porthiant ac amwynder, meillion, ceirch, a’r cnwd bio-ynni Miscanthus. Ar hyn o bryd, mae gan y cyfleuster banc hadau – ffrwyth buddsoddiad o £7m gan Brifysgol Aberystwyth, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a Llywodraeth Cymru – dros 35,000 o dderbyniadau ar gyfer storio canolig (20-50 mlynedd) i storio hirdymor (100 mlynedd) ar gyfer ymchwil a bridio. Mae’n rhan hanfodol o gasgliadau Grŵp Adnoddau Genetig Planhigion y DU (UKPGR) a’r Rhaglen Gydweithredol Ewropeaidd ar gyfer Adnoddau Genetig Planhigion (ECPGR). Yn ogystal, mae gan y Biofanc un o’r ychydig gyfleusterau cwarantin yn y DU sy’n gallu darparu ar gyfer planhigion a fewnforiwyd sy’n gofyn am arsylwadau a rheolaeth ffytolanweithiol. Mae’r holl gasgliadau ers 1992 yn cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) a Phrotocol Nagoya ar Rannu Mynediad a Buddion (ABS) ar gyfer defnyddio a masnacheiddio.
Prosesu hadau cnydau - Storfa swmp (10°C a lleithder cymharol o 20% - yn gallu dal dros 150 o baledau o hadau) ar gyfer samplau hadau mawr rhag-fasnachol, a storfa samplau ar wahân ar gyfer hadau sych wedi’u glanhau ymlaen llaw. Mae hefyd yn cynnwys labordy ar gyfer profi egino a dadansoddi hadau a’r brif ardal prosesu hadau, lle mae modd glanhau sypiau sy’n pwyso o ychydig gramau i 10 tunnell, yn unol â chanllawiau’r Gymdeithas Profi Hadau Ryngwladol (ISTA).
Darganfyddwch fwy am fanylebau'r Biofanc Hadau a ffurflen ymholi drwy far ochr y dudalen hon.