Rôl campysau gwyddoniaeth wrth chwyldroi’r gadwyn cyflenwi bwyd

04/03/2024
Teleri Davies

Wrth i ddefnyddwyr newid y ffordd y maent yn dewis eu bwyd ac wrth i'r boblogaeth fyd-eang barhau i dyfu, bu'n rhaid i'r gadwyn cyflenwi bwyd ymateb. 

Mae hi bellach yn fater o frys i ddod o hyd i ffyrdd mwy cynaliadwy ac effeithlon o ddod â chynnyrch i'r farchnad, i brofi syniadau a dosbarthu, a chyflenwi cynhyrchion bwyd yn fwy effeithiol fyth.   Dyma pam mae’r campysau arloesi gwyddoniaeth sy'n gwasanaethu'r sector hwn yn chwarae rhan gynyddol bwysig.

Mae'r blog hwn yn tynnu sylw at y rôl ganolog y gall campysau gwyddoniaeth, fel campws ArloesiAber yng Nghymru, ymgymryd â hi wrth ddatblygu cynnyrch ar gyfer y gadwyn cyflenwi bwyd, gan gyfrannu yn y pen draw at system fwyd fyd-eang sy’n fwy gwydn a chynaliadwy.

Ymchwil a datblygu 

Mae dod â gwyddonwyr, ymchwilwyr ac arbenigwyr ynghyd o ddisgyblaethau amrywiol yn creu amgylchedd sy'n annog cyd-feddwl ac yn hyrwyddo rhagoriaeth. 

Pam?  Oherwydd bod campws gwyddoniaeth sydd wedi ei leoli ynghanol ymchwil a datblygu blaengar yn gallu harneisio entrepreneuriaeth ac arwain at fwy o arloesi, yn ogystal â chyflymu’r broses o greu syniadau a chyflymu’r amser a gymerir i brofi ac ymchwilio i gynhyrchion a dod a hwy i'r farchnad yn y pen draw.

Yng nghyd-destun y gadwyn cyflenwi bwyd, mae'r campysau hyn yn cefnogi'r diwydiannau bwyd a phrosesu amaeth i ddatblygu technolegau newydd sy'n amrywio o wella cynnyrch cnydau hyd at wella technegau cadw bwyd.

Gall gwyddoniaeth hefyd gyfrannu at gyflenwad bwyd mwy dibynadwy trwy wneud ymchwil i addasu cnydau fel bod ganddynt fwy o wrthsafiad yn erbyn pla neu glefydau.

Cefnogi mentrau amaethyddiaeth gynaliadwy

Gyda chynaliadwyedd yn flaenoriaeth heddiw ac i’r dyfodol rhagweladwy, mae campysau gwyddonol yn arwain y ffordd wrth ddatblygu arferion cynaliadwy sy'n lleihau effaith amgylcheddol.  Mae hyn yr un mor hanfodol i fwyd a ffermio ag i unrhyw ddiwydiant arall.

Mae technegau sy'n lleihau effaith amgylcheddol cynhyrchu bwyd, megis lleihau gofynion dŵr, lleihau'r defnydd o ynni, neu leihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr, ar flaen y gad o ran ymchwil i ddarparu cadwyni cyflenwi bwyd mwy gwyrdd a mwy effeithlon.  

Diogelwch bwyd a sicrwydd ansawdd 

Gall campysau gwyddoniaeth chwarae rhan hanfodol wrth ymchwilio a datblygu technolegau a phrosesau sy'n canfod ac atal afiechydon a gludir gan fwyd, halogiad bwyd, a dirywiad bwyd.

Ceir cyfleusterau profi blaengar yn ArloesiAber i helpu gyda diogelwch bwyd gan gynnwys cyfleusterau i brosesu hylif a nwyddau, eplesu a chigyddiaeth, manwerthu ac asesu oes silff y cynnyrch.   

Mae’r cyfleusterau profi sy’n rhan hanfodol o’r portffolio ar y safle hefyd yn cynnwys cyfleusterau i brofi cyfansoddiad a maeth, ansawdd bwyd a dadansoddiad synhwyraidd.  Trwy gysylltiadau cryf â myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth gellir cynnig staff i gynorthwyo gyda phrosiectau yn ogystal ag arbenigedd gan academyddion perthnasol. 

Mae profion trylwyr yn y meysydd hyn yn helpu i bwyso a mesur yn gywir yr ystyriaethau sy’n ymwneud ag ansawdd bwyd yn erbyn yr angen i leihau gwastraff bwyd, ond heb niweidio ymddiriedaeth y defnyddiwr yn ddiweddarach yn y gadwyn gyflenwi – ac ar yr un pryd i benderfynu lle y gellir gwneud arbedion heb gyfaddawdu ag ansawdd.  

Gwneud y defnydd gorau o’r cadwyni cyflenwi bwyd 

Mae effeithlonrwydd ‘o’r fferm i’r fforc’ yn elfen allweddol o’r gadwyn cyflenwi bwyd ac felly trwy ddefnyddio'r gallu technegol, y cyfleusterau a’r gefnogaeth arbenigol sydd ar gael yn ArloesiAber gellir symleiddio’r prosesau cynhyrchu.

Mae diffinio lle ceir aneffeithlonrwydd, yn ei dro, yn helpu prosesau cyflenwi’r cadwyni bwyd fod yn fwy effeithiol o ran cost a hefyd yn fwy cynaliadwy. 

Creu cynhyrchion bwyd newydd

Yng ngwyneb y newid cyson yng ngofynion defnyddwyr am gynhyrchion bwyd sy’n iachach, yn fwy cynaliadwy ac arloesol, gall campysau gwyddoniaeth helpu i ddatblygu cynhyrchion bwyd newydd i fodloni’r gofynion sy’n newid.

O fwydydd sy’n deillio o blanhigion i fwydydd wedi eu cyfoethogi neu fwydydd a diodydd sy’n cyflawni eu diben â gwell proffil o ran fitaminau a maetholion; gall campysau gwyddoniaeth helpu busnesau newydd a brandiau sy’n bodoli yn barod i greu prototeipiau, profi eu hyfywedd a gwella’r broses o gynhyrchu ynghyd â chyflwyno’r cynnyrch i’r farchnad trwy gysylltiadau academaidd ac mewn diwydiant.

Lleihau gwastraff bwyd

Mae gwastraff bwyd yn yr amlwg ledled y byd, ac mae campysau gwyddoniaeth yn chwarae rhan bwysig yn y broses o leihau gwastraff bwyd yn fyd-eang trwy gynnig profion, prosesau cyflenwol ac atebion arloesol.

Er enghraifft, mae cynorthwyo i ddatblygu deunydd pacio bioddiraddadwy, neu ddeunyddiau sy'n ymestyn oes cynhyrchion ar y silff, neu dechnolegau cadw bwyd, yn dangos gwerth ymdrechion i dorri gwastraff bwyd. 

Straeon am dreialon bwyd llwyddiannus

Darllenwch am y cwmnïau llwyddiannus a ddechreuodd ar eu taith yn profi cynnyrch a gwneud ymchwil gydag ArloesiAber. 

I ddysgu mwy 

Llenwch ein ffurflen gyswllt i gysylltu ag aelod o'n tîm neu os hoffech fwy o wybodaeth am wasanaethau ArloesiAber, am ein tîm neu am gyfleoedd ariannu.

Dilynwch ni