Manteision bod yn denant busnes yn ArloesiAber

21/03/2023
Teleri Davies

Mae partneriaethau a lleoliad strategol yn chwarae rhan bwysig yn nhwf busnesau. Darllenwch sut y gall bod yn denant busnes i ArloesiAber eich helpu. 

Rhian Jones, rheolwr swyddfa a chydlynydd marchnata yn Techion  

Beth yw cynnyrch neu ddatrysiad Techion? 

Mae Techion yn gwmni gwybodaeth cyflawn sy'n integreiddio sawl dull o dechnoleg, gan gynnwys caledwedd, meddalwedd a data gyda'i gilydd, i ddarparu datrysiadau ar gyfer problemau clefydau cymhleth. 

Mae ein platfformau â phatent ac yn cynnwys arloesiadau wrth baratoi samplau, delweddu, cyfrifiadura cwmwl, dadansoddi, a chefnogi penderfyniadau. Gellir cael data microsgopig o unrhyw leoliad a'i ddadansoddi mewn amser real. Yna mae gwybodaeth ar gael ar unwaith i randdeiliaid perthnasol.  

Y cynnyrch allweddol yn y DU ar hyn o bryd yw'r chwyldroadol FECPAKG2, sy'n ddatrysiad profi â'r nod o alluogi diagnosteg ar y safle i filfeddygon, manwerthwyr a ffermwyr ei ddefnyddio. Trwy ddefnyddio’r system fel rhan o drefn reolaidd o reoli da byw, gall ffermwyr ddarganfod pryd a pham mae parasitiaid yn cael effaith ar anifeiliaid, a pha gyffuriau fydd yn briodol i’w trin.    

Pam wnaethoch chi ddewis symud i ArloesiAber? 

Er ein bod yn gwmni sefydledig yn fyd-eang, roeddem yn gwybod bod angen i ni ehangu er mwyn gallu tyfu ein prosiectau a'n harlwy yn y DU.  

Roeddem wedi ein lleoli'n lleol yn Innovis am nifer o flynyddoedd, ond aethom yn rhy fawr i'r lle a oedd gennym yno, ac yn y pen draw bu'n rhaid inni fynd amdani a symud swyddfeydd. 

Roeddem yn ymwybodol o ArloesiAber pan oedd yn ei gamau cynllunio, pan aeth Eurion Thomas, rheolwr cyffredinol Techion UK, i ddiwrnod agored ac wedi hynny bu'n rhan o gyfarfodydd cysyniad. Roedd hyn yn golygu ein bod yn ymwybodol o’r lleoliad nes ein bod yn barod i wneud y penderfyniad i dyfu a symud lleoliad, a gwnaed hynny yn y pen draw yn 2021.  

Pam mae'r lleoliad yn bwysig? 

I ni fel busnes, roedd y cyfle i allu aros yn lleol i’n swyddfa wreiddiol yn y DU yn Innovis yn hollbwysig, yn enwedig gan fod ein tîm swyddfa craidd yn y DU yn cynnwys wyth aelod o staff llawn amser, chwech ohonynt yn byw’n lleol ac yn gweithio yn y swyddfa.  

Mae'r gwaith a wnawn yma yn y DU yn ein canolfan ArloesiAber yn amaethyddol yn bennaf, fodd bynnag ym mhencadlys Techion yn Seland Newydd maent yn datblygu dyfais delweddu Micro-I i'w defnyddio mewn meysydd profi eraill gan gynnwys diagnosteg ddigidol i bobl a hefyd ein hamgylchedd. 

Pam mae'n werthfawr i chi gael cysylltiadau agos â Phrifysgol Aberystwyth? 

Roedd gennym berthynas waith dda gyda Phrifysgol Aberystwyth yn barod ac mae symud i gymuned tenantiaid ArloesiAber yn fantais enfawr i ni gan ei fod yn cryfhau'r cyswllt hwn.  

Ymhellach, rydym yn elwa o gylch llawn y berthynas oherwydd ein bod yn gweithio gyda’r brifysgol o ran tyfu prosiectau a dysgu gan eraill, yn ogystal â chael mynediad at eu cyfleusterau mewn adrannau eraill, megis ffotoneg. 

Hyd yn hyn, rydym wedi cefnogi dau brosiect ymchwil PhD, ac roedd un ohonynt yn draethawd ymchwil a ddilysodd FECPAK ar gyfer profion llyngyr yr iau - dyma un o'r prosiectau allweddol yr ydym yn gweithio arno nawr fel cwmni. Roedd y wybodaeth a gafwyd o'r PhD yn golygu y gallem ei fasnacheiddio yn ogystal â darparu cyfle a gofod ymchwil i'r myfyriwr.  

Rydym hefyd wedi cefnogi myfyriwr Meistr gyda phrosiect a oedd yn edrych ar ddefnyddio'r pecyn FECPAK yn y farchnad anifeiliaid anwes trwy ei brofi mewn baw cŵn; unwaith eto fe wnaethom helpu'r myfyriwr hwn gyda'r dechnoleg, a rhoesant fewnwelediadau ymchwil defnyddiol i ni sy'n ein helpu i dyfu fel busnes.  

Buom hefyd yn cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth ar brosiect peirianneg gyfrifiadurol seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial i wella galluoedd y ddyfais ddelweddu a ddefnyddiwn ar gyfer profi samplau ysgarthol.  

A yw'r lleoliad yn fuddiol fel cyflogwr?  

Mae llawer o’n staff yn gyn-fyfyrwyr Aber – ac rydym nawr yn mynychu ffair yrfaoedd Prifysgol Aberystwyth i feithrin cysylltiadau â chyn-fyfyrwyr y dyfodol.  

Rydym wedi elwa o gynllun ABERYmlaen yn y brifysgol, sy’n gyfle lleoliad y gall myfyrwyr Aberystwyth ymgeisio amdano. Rydym wedi cadw pobl yma, yn y tymor hir ac yn rhan-amser, drwy'r cysylltiad hwn. 

Yn ystod ein cyfnod prysur diwethaf (Gorffennaf i Fedi), roedd gennym dri o’r myfyrwyr hyn yn gweithio’n rhan-amser yn ein labordy i’n helpu ni, gan alluogi’r myfyrwyr i gael profiad ymarferol gwerthfawr mewn amgylchedd labordy.  

Mae rhywfaint o'r gwaith y gallant ei wneud hefyd ar gwmwl, fel marcio samplau, felly mae modd iddynt ei wneud y tu allan i'r coleg a dewis yr hyn sy'n addas iddynt. Mae hyn yn gweithio'n dda i'r ddwy ochr. 

Mae'n fantais arall i fod yn lleol i'r Brifysgol – maen nhw'n ein helpu ni ac rydyn ni'n eu helpu nhw i gael mantais gystadleuol, yn enwedig pan ddaw hi'n fater o raddedigion yn dod o hyd i waith oherwydd bod ganddyn nhw brofiad gwaith credadwy.  

Ble ydych chi'n gweld y berthynas ag ArloesiAber yn mynd â'r busnes nesaf? 

Y dyfodol i ni fel busnes yn realistig yw y byddwn yn cymryd lle labordy parhaol yma, ond ar ein maint presennol mae'n wych ein bod yn gallu talu am le yn ystod ein tymor brig, ac yn ôl yr angen yn ystod y misoedd tawelach.  

Mae'r hyblygrwydd hwn yn wirioneddol unigryw; mae cael mynediad i'r cyfleusterau, er nad ydym yn berchen arnynt, yn golygu y gallwn wneud cais am waith prosiect neu ymchwil yn y dyfodol sy'n bwysig iawn i ni dyfu fel cwmni. 

-

Darganfod mwy: Techion: diagnosteg ddigidol ar gyfer anifeiliaid, pobl a'n hamgylchedd | Techion 

Dysgwch fwy am aelodau a thenantiaid ArloesiAber Aelodau Rhithiol a Phreswylwyr ArloesiAber | ArloesiAber  

Dilynwch ni