Mae rhaglen newydd, wedi'i ariannu'n llawn, ar gyfer busnesau gwledig yn y Canolbarth yn chwistrellu arian ac wedi creu 14 o gyfleoedd lleoliad gwaith i fyfyrwyr sy'n byw yn y gymuned leol.
Mae rhaglen Cyfres Her Launchpad Y Canolbarth, a ddarperir gan ArloesiAber ac a ariennir gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn darparu cyllid o £30,000 i gwmnïau newydd llwyddiannus i’w helpu i ddatblygu atebion newydd drwy ymchwil ac arloesi.
Eglura Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber, yn ogystal â’r cyfle gwych i hyrwyddo busnesau arloesol yn y rhanbarth, mai elfen allweddol o’r cyllid yw rhoi datblygiad gyrfa i weithwyr proffesiynol ifanc yn eu cymunedau lleol.
“Mae gennym ni her fawr yn y Canolbarth o ran sicrhau bod gan y rhai sydd eisiau byw a gweithio yma o fewn proffesiynau ymchwil a datblygu y sgiliau cywir,” eglura.
“Rydyn ni hefyd eisiau cadw’r bobl hyn a’i gwneud hi’n ddeniadol iddyn nhw aros yn y rhan yma o’r byd, tra’n rhoi capasiti ychwanegol i’r cwmnïau sy’n derbyn y cyllid i gyflawni’r gwaith sydd ei angen.”
Mae Vertikit, adwerthwr ar-lein ar gyfer ffermio fertigol ac offer amgylchedd rheoledig, yn un o'r busnesau llwyddiannus y dyfarnwyd cyllid iddynt a myfyriwr lleoliad gwaith.
“Gan ein bod ni’n fusnes newydd, nid oes gennym ni’r adnoddau i rhoi’r amser sydd angen i ddod o hyd i ymgeiswyr a’u recriwtio, felly mae cymorth ychwanegol yn y maes hwn wedi bod yn hanfodol i ni,” meddai William Stiles, Cyfarwyddwr Vertikit.
“Trwy faes datblygu sgiliau’r prosiect Launchpad yma, gallwn ddatblygu prosiectau llawer yn cyflymach.”
Mae bod yn fusnes bach hefyd wedi golygu bod myfyrwraig William ar leoliad gwaith, MaryAnn Peel sy’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi gweithio ar brosiect diffiniedig gyda chanlyniad clir, gan roi profiad gwerth chweil yn ogystal â boost i’w CV.
“Rydw i eisiau gweithio yn ymchwil, ac mae’r prosiect hwn yn seiliedig ar ymchwil, felly mae wedi bod yn wych gallu gwneud profiad gwaith mewn maes sy’n berthnasol i fy ngyrfa yn y dyfodol,” eglura MaryAnn.
“Yn Aberystwyth mae wedi bod yn anodd iawn dod o hyd i unrhyw brofiad gwaith, heb sôn am waith sy’n berthnasol yn yr ardal wledig hon.”
Mae’r cyfleoedd lleoli hyd yma wedi bod ar gael i bobl ifanc 18 i 25 oed, ac yn rhedeg am gyfnod y prosiect a ariennir. Y gobaith yw y bydd lleoliadau tymor hwy ar gael a swyddi parhaol yn cael eu creu yn yr hirdymor.
“I ni, mae pawb ar eu hennill os bydd y rhai sy’n chwilio am gyfleoedd tyfu sgiliau ar hyn o bryd yn dilyn gyrfa gyda’r busnes y cawsant eu paru ag” meddai Dr Hayward.